Ida Gaskin – N. M. Thomas

Ida Gaskin oedd enillydd benywaidd cyntaf Mastermind yn Seland Newydd.  Roedd hi hefyd yn wleidydd ac yn enwog am ei gwybodaeth eang a thrylwyr o waith William Shakespeare. Ganwyd Ida Margaret Jacobs ym  Mhontardawe ym 1919.  Roedd ei thad, Edward, yn gweithio yn y diwydiant dur ond magwyd Ida yng nghyfnod y Dirwasgiad ac roedd e allan o waith gryn dipyn.  Golygai hyn bod...

Ena Radway

Ganwyd Ena yn St Elizabeth, Jamaica, yn 1936. Tyfodd Ena i fyny yn ardal Thornton. Roedd ei thad yn gweithio ar blanhigfa, ac fe fyddai’r plant yn helpu pan oedd hi’n gynhaeaf. Yn yr ysgol, dysgodd Ena am hanes Prydain, a’r Brenin George VI. Cofiai ddysgu hwiangerddi Prydeinig hefyd. Saesneg oedd ei hoff bwnc yn yr ysgol uwchradd. Pan oedd Ena’n 18, priododd â dyn ifanc lleol o’r enw...

Iris Cave

Ganwyd Iris Cave yn Grenada yn 1923.  Roedd hi’n unig blentyn, ac roedd ei mam yn gweithio fel cogydd yn Trinidad, felly treuliodd Iris lawer o’i phlentyndod yng nghwmni ei Mamgu, ‘Mother Jule’, oedd yn fydwraig yn y pentref. Gadawodd Iris yr ysgol pan oedd hi’n 16 oed, a threuliodd rai blynyddoedd yn dysgu gwnïo â dwy o’r gwniadwragedd lleol.  Yn 1944, gadawodd Iris...

Pauline Pingue

Ganwyd Pauline Eureka Pingue yn Christ Church, Barbados, yn 1935. Roedd hi’n hoff o arddio yn ystod ei phlentyndod - byddai hi’n tyfu llysiau a rhosynnau. Collodd ei theulu dir pan adeiladwyd ‘Highway 7’.  Roedd Pauline wedi gadael ei chartref, ac yn byw yn Sea View gyda Eunice, ei merch ifanc, pan aeth ei thad yn sâl. Bwriad ei thad oedd anfon Pauline i America, ond doedd hi ddim...

Ruth Wynn Owen – N. M. Thomas

Ruth Wynn Owen 1915 – 1992 Mewn cyfweliad ym mhapur newydd yr Independent yn Iwerddon yn 2017 cyfeiriodd yr actor byd-enwog Patrick Stewart at wersi actio a gafodd fel bachgen ifanc gan actores o’r enw Ruth Wynn Owen.  Nododd hefyd fod yna ddyn ifanc arall yn mynychu’r un gwersi sef yr enwog Brian Blessed. Cyfeirir ati yn aml fel actores Gymreig. Ganwyd Ruth ar 20fed Ionawr  1915...
Ruby Loftus

Ruby Loftus – N. M. Thomas

Un o ddarluniau mwyaf eiconig propaganda Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw portread o’r enw Ruby Loftus Screwing a Breech Ring gan yr arlunydd Laura Knight. Daw’r llun o’r ffatri Royal Ordnance yn Corporation Road, Casnewydd lle treuliodd Laura Knight dair wythnos yn darlunio Ruby. Ganwyd Ruby Loftus yn Llanhilleth ac roedd yn byw gyda’i thad, Harold, a’i mam, Martha.  Symudodd...

Clare Deniz – N. M. Thomas

Clara Ethel Deniz (1911 – 2002) Roedd Clara, neu Clare Deniz yn un o’r ychydig gerddorion du o Gymru oedd ar y sîn yn Llundain yn y tridegau. Pianydd oedd hi a pherfformiodd gyda rhai o enwau mawr y cyfnod, gan gynnwys Fela Sawale, Happy Blake a Leslie Hutchinson. Fe’i ganwyd yn Grangetown, Caerdydd ar y 30 Medi 1911. Morwr o Barbados oedd ei thad, Frederick Wason, a daeth ei mam, Bessie,...

Norah Dunphy – E. Lois

Norah Dunphy oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd ‘Bachelor of Architecture’ ym Mhrydain. Roedd hi’n dod o Landudno yn wreiddiol, a mynychodd Ysgol John Bright yno. Wedi iddi adael yr ysgol, astudiodd hi bensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl o dan diwtoriaeth Professor Charles Reilly. Graddiodd hi yn 1926 â gradd mewn pensaernïaeth, yn ogystal â thystysgrif dosbarth-cyntaf mewn Dylunio...

Brenda Chamberlain

Llenor, bardd, ac arlunydd oedd Brenda Chamberlain a aned ar 17 Mawrth 1912 ym Mangor. Ers pan oedd yn blentyn, gwyddai mai bod yn artist oedd ei bwriad ym mywyd, ac aeth i astudio celf yn y Royal Academy of Arts yn Llundain. Dychwelodd wedyn i fyw yn Llanllechid, gan sefydlu gwasg fechan, Caseg Press, gyda’i gŵr, John Petts, lle’r oeddent yn argraffu cyfresi o gerddi darluniedig mewn...

Angharad Rees – E. Lois

Ganwyd Angharad Mary Rees ar y 16eg o Orffennaf 1944, yn Ysbyty Redhill yn Middlesex. Roedd hi’n ferch i’r seicolegydd Cymreig Linford Rees, a’i wraig Catherine Thomas. Pan oedd hi’n 2 mlwydd oed, symudodd y teulu i Gaerdydd. Mynychodd yr ysgol annibynol yn Commonweal Lodge, ac yna’r Sorbonne ym Mharis. Yna mynychodd Coleg Drama Rose Bruford yng Nghaint. Astudiodd ym...