Ruby Loftus

Ruby Loftus – N. M. Thomas

Un o ddarluniau mwyaf eiconig propaganda Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw portread o’r enw Ruby Loftus Screwing a Breech Ring gan yr arlunydd Laura Knight.

Daw’r llun o’r ffatri Royal Ordnance yn Corporation Road, Casnewydd lle treuliodd Laura Knight dair wythnos yn darlunio Ruby.

Ganwyd Ruby Loftus yn Llanhilleth ac roedd yn byw gyda’i thad, Harold, a’i mam, Martha.  Symudodd y teulu i Finchley pan gafodd ei thad waith gyda Shellmex.  Bu Ruby yn gweithio mewn siop tobacco yn Monkville Parade yn Finchley, ond yn ystod y Blitz dychwelodd y teulu i Gasnewydd ac aeth Ruby a’i dwy chwaer i weithio yn y ffatri.  Roedd eu brawd yn y llynges a’u mam yn gweithio fel porthor ar y rheilffordd yn ystod y rhyfel.  

Ym mis Ionawr 1943 cafodd Laura Knight gomisiwn gan y Weinyddiaeth Gwybodaeth i baentio Ruby at ddibenion propaganda. Daeth y gwaith yn symbol o’r hyn yr oedd merched yn ei gyfrannu at yr ymgyrch rhyfel.  

Mae’n debyg bod Ruby yn unigryw gan ei bod wrthi, yn y llun, yn llunio sgriw ar fagnel wrth-awyren Bofors.  Roedd hon yn dasg gymhleth ac roedd peirianwyr yn hyfforddi am flynyddoedd cyn medru gwneud y gwaith.  Gyda llai na blwyddyn o brofiad a hyfforddiant, dysgodd Ruby i gyflawni’r dasg.  Mae’n debyg ei bod hi wedi pasio’r profion gyda marciau arbennig cyn dechrau’r gwaith yn y ffatri  ac roedd Mr Alexander Galbraith, y Brif Swyddog yn y ffatri wedi ei dewis ar gyfer y gwaith arbennig yma. Roedd ei sgiliau mor unigryw fel yr anfonwyd gweithwyr o’r arfdy yn Woolwich i’w gweld yn gweithio.  Mae’r papurau newydd ar y pryd hefyd yn nodi bod uwch swyddogion y ffatrïoedd yn ddiolchgar iawn i’r dynion am ddangos i’r merched sut i wneud gwaith fel hyn, achos wrth gwrs nid ystyriwyd gwaith tebyg yn waith i ferched cyn y cyfnod yma.  

Mae yna gofnod yn y Birmingham Mail ym mis Ebrill 1943 o Ruby yn cael diwrnod o wyliau o’r ffatri er mwyn mynd i Lundain i weld y llun ei hunan.  Roedd y wasg yno, a disgrifir Ruby fel merch swil â llygaid brown a’i gwallt mewn “victory roll”.  Nodir hefyd ei bod yn swil ac yn cochi o gael yr holl sylw.  Roedd wedi dyweddïo ar y pryd i John Green o’r 11th Hussars – a nodir hefyd iddi dderbyn braslun o’r llun yn anrheg gan Laura Knight yr arlunydd.

Priododd Ruby a John yn 1943 yng Nghasnewydd.  

Ar derfyn y rhyfel cynigodd y Llywodraeth noddi Ruby ar gwrs coleg mewn peirianneg.  Ond gwrthododd Ruby y cynnig ac ym 1984 aeth hi a’i gwr i fyw yn British Columbia, Canada.   Aethant i weithio ar fferm ffrwyth ei brawd yng nghyfraith yn Winfield.

Daeth yn ôl i Brydain ar ymweliad yn 1962 lle cyfarfu â Laura Knight eto ac ail-ymweld â’r llun yn Imperial War Museum yn Llundain.

Dioddefodd o sglerosis ymledol am flynyddoedd a bu farw yn 2004.  

Darllen/ Gwylio ymhellach:














Birmingham Mail 30 Ebrill 1943

Daily Herald 1.5.43

The Sketch 19 May 1943

Western Mail 1af Mai 1943

www.southwalesargus.co.uk

Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.