Ann Ellis – E. Lois

ANN ELLIS Roedd Ann Ellis yn fenyw oedd yn byw yn ardal Llannerch Banna yn Sir y Fflint. Cafodd ei chyhuddo, yn haf 1657, o achosi salwch i blant ar ôl iddynt ei chythruddo. Clywodd y llys, ryw bedair mlynedd wedi i Ann symud i’r ardal, fod bachgen deuddeg mlwydd oed wedi cael ei barlysu, ac ni allai gerdded oddi ar hynny. Roedd Richard wedi bod yn dringo ar do tŷ Ann, a phiso i lawr ei...

Gwen Ferch Ellis – E. Lois

GWEN FERCH ELLIS ( tua 1542 – 1594) Yn 1594, cyhuddwyd Gwen Ferch Ellis o gyflawni gwrachyddiaeth. Yn ôl pob sôn, roedd hi’n swynwraig ac yn weledydd, ac yn anffodus gadawodd un o’i swynau yng Ngloddaeth, tŷ Thomas Mostyn, oedd yn ddyn hynod ddylanwadol ar y pryd. Roedd Gwen yn gwneud ei bywoliaeth o wnïo a gwau, ac roedd hi hefyd yn creu meddyginiaethau gwerin ar gyfer ei ffrindiau,...

Margaret a Gwenllian David – E. Lois

MARGARET A GWENLLIAN DAVIDRoedd Margaret a Gwenllian yn fam a merch oedd yn byw yn Llangadog, Dyfed. Dygwyd achos yn ei herbyn yn 1656 o reibio anifeiliaid gan achosi colledion enfawr. Cyhuddwyd y ddwy o achosi poen gorfforol i’r rhai fyddai’n gwrthod rhoi cardod iddynt. Dedfrydwyd y ddwy i gyfnod byr yn y carchar. Darllen Pellach: Gwrachod Cymru Ddoe a Heddiw– Eirlys Gruffydd (p.32) E....

Lowri ac Agnes Ferch Evan – E. Lois

LOWRI AC AGNES FERCH EVAN Yn Sir Gaernarfon yn 1622, cyhuddwyd Lowri ac Agnes Ferch Evan, ynghyd â’i brawd Rhydderch ap Evan, o reibio Margaret Hughes o Lanbedrog nes iddi farw. Cyhuddwyd y tri o achosi i Mary Hughes, hefyd o Lanbedrog, golli defnydd o’i choesau a’i braich chwith, a’i gallu i siarad. Er ei fod yn bosib mai anghytuno rhwng dau deulu oedd y tu ôl i’r achos, cafwyd y...

Elen Gilbert – E. Lois

ELEN GILBERT / ANN JONES Cafodd Elen Gilbert, neu Ann Jones, ei chyhuddo o ‘wrachyddiaeth droseddol’ yn Sir Ddinbych yn 1635. Er nad ydym ni’n gwybod pam y cafodd ei chyhuddo, cafodd ei chyhuddo o dwyll hefyd, am iddi hawlio ei bod yn gallu gwella rhai afiechydon nad oedd ganddi’r gallu i’w hiacháu. Yn ôl llyfr Richard Sugget, mi fyddai Ann yn dweud wrth rieni oedd â phlentyn sâl y...

Margaret Ferch Richard – E. Lois

MARGARET FERCH RICHARD Roedd Margaret Ferch Richard yn fenyw oedd yn byw ym Miwmares, drws nesaf i fenyw o’r enw Gwen gwraig Owen Meredith. Aeth Gwen yn sâl, a bu hi’n sâl o ddydd olaf mis Hydref 1654 tan ddiwrnod olaf y flwyddyn honno, pan fu farw. Cyhuddwyd Margaret o reibio Gwen, ac er iddi wadu’r cyhuddiad yn ei herbyn, barnwyd ei bod yn euog gan y Barnwr Edward Bultrode a’i lys....

Golly Lullock – E. Lois

GOLLY LULLOCKYn mis Awst 1655, cafodd gwraig o’r enw Golly Lullock ei chyhuddo o fod yn wrach. Yn ôl yr achos, roedd wedi rheibio hwch gwerth chwe swllt, ceffyl du gwerth chwephunt, a phedwar mochyn gwerth pum swllt. Robert Williams oedd yn berchen ar yr anifeiliaid, a bu’r anifeiliaid farw ar y deunawfed o Awst. Casglodd Robert Williams chwech o dystion ynghyd, a mynd â Golly i’r llys....

Joan Roger – E. Lois

JOAN ROGERYn 1654, cyhuddwyd mam a mab o blwyf Penbre yng Nghwrt y Sesiwn Fawr o fod yn wrachod.  Roedd Joan Roger yn wraig weddw oedd yn byw gyda’i mab di-briod, David John.  Yn mis Ionawr y flwyddyn honno, roedd David John yn dychwelyd adre o ymweld â rhai o’i ffrindiau gyda’i berthynas John Thomas. Gan ei fod hi’n hwyr, arhosodd John Thomas yn nhŷ Joan a David. Ychydig cyn...

Margaret Wyn o Feifod – E. Lois

MARGARET WYN o Feifod Roedd Margaret Wyn yn fenyw a gafodd ei chyhuddo o ddefnyddio dewiniaeth i orfodi menyw arall o’r enw Margaret Lloyd i garu dyn o’r enw John ap Gruffydd.  Yn ôl y cyhuddiadau, yn mis Medi 1578, cwrddodd merch o’r enw Margaret Lloyd â gŵr bonheddig o’r enw John ap Gruffydd, o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, yn marchnad Llanfyllin. Aeth Margaret Lloyd â John ap...

Katherine Bowen – E. Lois

KATHERINE BOWEN Roedd Katherine Bowen yn fenyw o ardal Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro. Nid oes llawer o’r papurau o’i hachos llys yn bodoli bellach, ond mae yna ddogfen sy’n datgan fod Katherine ‘drwy anogaeth y Diafol wedi defnyddio’r gelfyddyd gythreulig a elwir yn rheibio, cyfareddu, swyno a dewino yn Gumfreston ar Fehefin y pymthegfed ar hugain 1607.’ Dywedir ei bod wedi rheibio...