Ann Maddocks – A. Ifans

Ann MaddocksY Ferch o Gefn Ydfa( 1704 – 1727) Roedd Ann yn byw ym mhlasty Cefn Ydfa, ger Llangynwyd, Sir Forgannwg. Mae Llangynwyd rhwng Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Cafodd Ann ei geni yn y flwyddyn 1704. Roedd hi’n byw mewn plasty mawr, hardd o’r enw Cefn Ydfa. Ann oedd yr unig blentyn ac felly hi oedd i etifeddu ystad Cefn Ydfa. Roedd llawer o weision a morynion yn gweithio ar yr...

Menywod Llanerchaeron – N. M. Thomas

Menywod Llanerchaeron Elizabeth Lewis,  Corbetta Powell,  Mary Ashby Mettam, Annie Ponsonby a Mary Peregrine Yn 2018 cynhaliwyd arddangosfa yn Llanerchaeron i nodi canrif ers I fenywod gael y bleidlais.  “Pŵer y Bais” oedd enw’r arddangosfa a rannodd hanesion pedair a fu, y neu tro, yn ddylanwadol, yn benderfynol ac yn lleisiau cryf yn hanes yr ystâd. Adeiladwyd y...

Elizabeth Williams – Disgyblion Ysgol y Ferch o’r Sgêr

Elizabeth Williams (Y Ferch o’r Sgêr) – (1747-1776) Amser maith yn ôl roedd Mr a Mrs Isaac Williams a’u dwy ferch brydferth Elizabeth a Mari yn byw yn ffermdy Sgêr.Bob blwyddyn roedd pobl yr ardal yn cofio am eu Santes, Mair Magdalen,  gyda Gŵyl y Mabsant. Parti mawr oedd yr ŵyl yn Neuadd y Dref.Roedden nhw’n edrych ymlaen yn fawr at ddawnsio drwy’r nos.Ar noson y parti...

Jemeima Niclas – A. Ifans

Jemeima Niclas a Glaniad y Ffrancod yn Abergwaun mis Chwefror 1797. Roedd y chwyldro Ffrengig wedi dechrau ar Orffennaf 14 1789 yn Ffrainc trwy ymosod ar garchar Bastile. Y rheswm am y chwyldro oedd fod y Ffrancod tlawd eisiau rhyddid i addoli mewn capel neu eglwys, eisiau cydraddoldeb, gwell addysg ac roedd bwyd yn ddrud. Cafodd y brenin Louis XVI ei ddienyddio yn 1793. Roedd rhyfel rhwng...

Beti Cadwaladr – A. Ifans

Cafodd Beti Cadwaladr (neu Betsi Cadwaladr) ei geni yn 1789 yn Llanycil yn ymyl y Bala. Roedd ei thad, Dafydd Cadwaladr, yn bregethwr gyda’r Methodistiaid. Pan oedd Beti’n ddeg oed, buodd ei mam farw a’i chwaer oedd yn edrych ar ôl y cartref wedyn. Doedd Beti ddim yn hoffi’r chwaer yma ac aeth i fyw gyda ffrindiau. Yno dysgodd ddawnsio a chanu’r delyn. Roedd Beti’n hoff...

Mari’r Fantell Wen – E. Lois

Ganwyd Mari’r Fantell Wen yn ‘Mary Evans’ yn 1735. Roedd hi’n enedigol o Ynys Môn, medd rhai, ond ymsefydlodd ym Mhlwyf Maentwrog tua 1774. Gallai ysgrifennu a darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac roedd hynny’n bur anghyffredin i forwyn yn y cyfnod hwnnw. Gadawodd Mari ei gŵr pan symudodd i Faentwrog, a dechrau teithio â gŵr rhywun arall. Hawliai fod hyn gan nad oedd ei...

Ann Watkins a Ruth Roberts – E. Tomos

Roedd trawsgludo yn rhan annatod o system gyfraith a threfn yng ngwledydd Prydain yn ystod y ddeunawfed ganrif. Pasiwyd Deddf Trawsgludo ym 1718. Bwriad y ddeddf hon oedd cael gwared â gwehilion cymdeithas drwy eu halltudio yn bell, bell o Brydain i diroedd newydd yr Ymerodraeth. Hyd nes 1776 America oedd prif gyrchfan llongau Prydeinig ond gyda dechrau Rhyfel Annibyniaeth yn America roedd...