Mari’r Fantell Wen – E. Lois

Ganwyd Mari’r Fantell Wen yn ‘Mary Evans’ yn 1735. Roedd hi’n enedigol o Ynys Môn, medd rhai, ond ymsefydlodd ym Mhlwyf Maentwrog tua 1774.

Gallai ysgrifennu a darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac roedd hynny’n bur anghyffredin i forwyn yn y cyfnod hwnnw.

Gadawodd Mari ei gŵr pan symudodd i Faentwrog, a dechrau teithio â gŵr rhywun arall. Hawliai fod hyn gan nad oedd ei gŵr yn ei derbyn hi, na’i chrefydd.

Roedd Mari’r Fantell Wen o’r farn ei bod hi wedi dyweddio â Iesu Grist. Llwyddodd i gael amryw o bobl Ffestiniog a Phenmachno i’w chredu hi. Bu priodas fawr yn Llanffestiniog un dydd Sul, a thalodd ei dilynwyr hi am y briodas. Aeth tipyn o’r arian i wisgo Mari mewn mantell goch ddrud, a chyfran arall i dalu am y neithior.

Ar ddiwrnod y briodas, gorymdeithiodd ei holl ddilynwyr, gyda Mari yn y canol, i eglwys y plwyf. Cynhaliwyd y briodas rhynddi hi â Christ yno. Wedi’r briodas, aeth Mari a’i dilynwyr i dafarn Y Tŷ Isa, a bu miri mawr am weddill y diwrnod. 

Bob dydd Sul wedi’r briodas, bu Mari a’i dilynwyr yn gwisgo mentyll gwynion. Bu iddynt ddringo llethrau mynydd Y Manod, rhwng y Blaenau a Llanffestiniog, ac roeddent yn cynnal defodau yno. Mae’n debygol mai rhyw fath o wasanaeth crefyddol oedd y rhain, gyda Mari yn siarad a dysgu ei dilynwyr, a hwythau yn ateb trwy weiddi ‘Amen, Amen, Amen’ yn gyflym drosodd a throsodd.

Wrth i gylch ei dylanwad a’i dilynwyr ehangu, dechreuodd roi wythnos i Lanfihangel, Llandecwyn, Maentwrog, Ffestiniog, Penmachno a Phenrhyndeudraeth. Mae’n debyg fod 60-70 o ddilynwyr ganddi, ond cyfran fechan o’r rhain oedd yn fenywod.

Bu Mari farw yn 1789, a gan ei bod hi wedi perswadio ei dilynwyr na fyddai hi byth yn marw, fe gadwyd ei chorff yn hir heb ei gladdu gan ddisgwyl y byddai hi’n atgyfodi. Mae hi wedi ei chladdu yn Llanfihangel y Traethau, gerllaw Harlech. 

DARLLEN PELLACH

Mae’r pwt hwn yn ddyledus iawn i’r gyfrol ‘Siwgr a Sbeis – Eigra Lewis Roberts’ (Gomer, 1975)

CEIR HEFYD GYFEIRIADAU IDDI YN:

Drych yr Amseroedd – Robert Jones (Llanrwst, 1820)

AC YNG NGWAITH:

Cynddelw

Clwydfardd

Gethin – Trem o ben y Manod’.



E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *