Dorothy Squires – E. Lois

Ganwyd Edna May Squires ar y 25ain o Fawrth 1915, mewn carafán garnifal ym Mhontyberem.  Dechreuodd ganu’n broffesiynol pan oedd yn 16, a gweithio mewn ffatri tun.  Symudodd i Lundain i weithio fel nyrs pan oedd yn 18, ac yn ystod y cyfnod hwnnw dechreuodd hi weithio yn y Burlington Club. Yn ystod ei chyfnod o weithio yno, cyfarfu â Charles Kunz, y pianydd Americanaidd, ac...

Amy Dillwyn – Efa Lois

Ganwyd Elizabeth Amy Dillwyn ar yr 16eg o Fai 1845, yn Sgeti, Abertawe. Roedd hi’n ferch i Lewis Llewelyn Dillwyn a’i wraig Elizabeth. Roedd ei thad yn wleidydd Rhyddfrydol, ac yn aelod seneddol ar gyfer Abertawe am 37 mlynedd. Roedd yn berchennog ar Weithiau Sinc Dillwyn yn Abertawe.  Yn 1864, bu farw dyweddi Amy Dillwyn, Llewelyn Thomas o Lwynmadog, yn fuan cyn eu priodas....

Megan Watts Hughes – E. Lois

Ganwyd Megan Watts ar y 12fed o Chwefror 1842 yn Nowlais, Merthyr Tudful. Roedd ei rhieni wedi ail-leoli yno o Sir Benfro. Roedd ei thad yn oruchwyliwr yn y fynwent leol.  Yn dilyn llwyddiant yng nghylchoedd cyngherddau De Cymru, cafodd wersi canu gan ddau o brif cerddorion Caerdydd ar y pryd, ac yn 1864 cychwynodd astudio yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Bu’n rhaid iddi...

Annie Powell – E. Lois

Ganwyd Annie Powell yn mis Medi 1906, yn y Rhondda. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Pentre. Datblygodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Hyfforddi Glamorgan yn yr 1920au. Hyfforddodd fel athrawes yn ystod cyfnod y Streic yn 1926, a phan gychwynnodd ddysgu yn Nhrebanog, gwelodd raddfa’r dlodi oedd yno. Ymunodd â’r Blaid Lafur, ond roedd...

Jane Arden – E. Lois

Roedd Jane Arden yn actores a chynhyrchydd ffilm Cymreig. Cafodd ein geni’n Norah Patricia Morris i deulu oedd yn byw yn 47 Twmpath Road ym Mhontypŵl, ar y 29ain o Hydref 1927. Roedd hi’n nith i’r cantor Parry Jones. Astudiodd actio yn yr Academi Frenhinol, yn Llundain, cyn cychwyn ei gyrfa ar y teledu ac yn y sinema yn y 1940au hwyr. Bu’n actio mewn addasiad teledu...

Morfydd Llwyn Owen – E. Lois

Morfydd Llwyn Owen (1891-1918) Ganwyd Morfydd Llwyn Owen ar y 1af o Hydref 1891, yn Nhrefforest yn Sir Forgannwg. Roedd ei rhieni yn gerddorion, ac roeddent hefyd yn rhedeg busnes clustogwaith.  Erbyn iddi droi’n 16, roedd hi’n cael gwersi preifat gan Yr Athro David Evans ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 1909, pan oedd yn 19, cyhoeddodd ei darn cyntaf o gerddoriaeth: emyn dôn o’r enw...

Jane Brereton (Melissa) – E. Lois

Ganwyd Jane Brereton yn 1685, yn ail ferch i Ann a  Thomas Hughes o Fryn-Griffith, ger y Wyddgrug yn Sir y Fflint. Mi dderbyniodd addysg nes ei bod hi’n 16, oedd yn anghyffredin ar gyfer y cyfnod. Bu farw ei thad tua’r flwyddyn 1701. Yn 1711, mi briododd Thomas Brereton o Rydychen. Ganwyd dau fab a dwy ferch iddynt. Cafodd Thomas Brereton yrfa lenyddol yn Llundain, yn cyhoeddi...

Jemeima Niclas – A. Ifans

Jemeima Niclas a Glaniad y Ffrancod yn Abergwaun mis Chwefror 1797. Roedd y chwyldro Ffrengig wedi dechrau ar Orffennaf 14 1789 yn Ffrainc trwy ymosod ar garchar Bastile. Y rheswm am y chwyldro oedd fod y Ffrancod tlawd eisiau rhyddid i addoli mewn capel neu eglwys, eisiau cydraddoldeb, gwell addysg ac roedd bwyd yn ddrud. Cafodd y brenin Louis XVI ei ddienyddio yn 1793. Roedd rhyfel rhwng...

Peg Entwistle – E. Lois

Actores y Llwyfan a’r Sgrin ac Ysbrydoliaeth Bette Davies Ganwyd Millicent Lilian “Peg” Entwistle ym Mhort Talbot ar y 5ed o Chwefror 1908. Roedd ei rhieni o Loegr, a threuliodd ei bywyd cynnar yn byw yng ngorllewin Kensington, yn Llundain.  Wedi marwolaeth ei mam, symudodd Peg gyda’i thad i America, a oedd yn actor mewn sioeau yn Cincinnati, Ohio, ac Efrog Newydd. Yn mis Rhagfyr...

Dr Rachel Bromwich

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois Ysgolhaig a arbenigai yn yr ieithoedd Celtaidd a’u llenyddiaethau oedd Rachel Bromwich a aned yn Brighton yn 1915 (née Amos). Treuliodd beth o’i bywyd cynnar yn yr Aifft lle roedd ei thad yn Athro, a symudodd y teulu yn ôl i Loegr yn 1925. Er nad oedd ganddi gysylltiadau uniongyrchol â Chymru, fe ymddiddorodd yn yr ieithoedd Celtaidd, gan...