Beti Cadwaladr – A. Ifans

Cafodd Beti Cadwaladr (neu Betsi Cadwaladr) ei geni yn 1789 yn Llanycil yn ymyl y Bala. Roedd ei thad, Dafydd Cadwaladr, yn bregethwr gyda’r Methodistiaid. Pan oedd Beti’n ddeg oed, buodd ei mam farw a’i chwaer oedd yn edrych ar ôl y cartref wedyn. Doedd Beti ddim yn hoffi’r chwaer yma ac aeth i fyw gyda ffrindiau. Yno dysgodd ddawnsio a chanu’r delyn. Roedd Beti’n hoff...

Lillie Goodisson – E. Lois

Arloeswraig ‘Cynllunio Teulu’ yn Ne Cymru Newydd. (c.1860-1947) Ganwyd Lillie Goodisson yng Nghaergybi tua’r flwyddyn 1860. Derbyniodd hyfforddiant fel nyrs, a phan oedd hi’n 19, priododd ddoctor o Lundain o’r enw Lawford David Evans. Yn fuan wedi’r briodas, symudodd y ddau i Auckland, Seland Newydd.  Symudodd y cwpl, a’u dau o blant, i Melbourne yn 1895. Yn 1897, sefydlon nhw...

Dr Mary Williams – E. Lois

Ganwyd Mary Williams yn Aberystwyth yn 1883.  Mynychodd yr ysgol gynradd yn Aberystwyth, cyn symud i Lundain i fynychu’r Camden School for Girls yn 1895. Mynychodd brifysgol Aberystwyth, a graddiodd â gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg yn 1904, ac Almaeneg yn 1905. Wedi hyn, treuliodd gyfnod byr fel athrawes – yn Portsmouth, ac yn Llandeilo. Rhwng 1907 ac 1910, bu’n...

Ann Gam – N. M. Thomas

Yn yr Eglwys Gadeiriol yn Aberhonddu mae yna feddrod trawiadol o wraig yn gorwedd sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg. Cofeb i’r teulu Gam (neu Games) ydyw – ond mae gwybod yn union pwy yw hon yn ddirgelwch. Gallasai fod yn Anne, gwraig i John Gam – neu o bosib ei merched-yng- nghyfraith - Marged Bodenham, gwraig I William Gam neu Elinor Morgan, gwraig Thomas Gam. Disgynyddion oedd...

Ray Howard Jones – A. Ifans

Ganwyd Rosemary Howard Jones ar 30ain o fis Mai 1903 i rieni o dras Cymreig yn Lambourn, Berkshire. Roedd ei thad Hubert yn hyfforddi ceffylau rasio ac yn filfeddyg ceffylau yn y fyddin ac yn chwaraewr polo arbennig o dda. Ni wellodd ei thad yn iawn o'r clwyfau ac effeithiau'r nwy a ddioddefodd yn y Rhyfel Byd cyntaf. Treuliodd Ray lawer o flynyddoedd ei phlentyndod yng nghartref ei thaid yn...

Mary Anne Edmunds – E. Lois

Ganwyd Mary Anne Edmunds ar y 25ain o Ebrill 1813 yng Nghaerfyrddin. Cafodd ei haddysg mewn ysgol breswyl , a chafodd addysg adref hefyd, lle dysgodd hi lawer am yr Ysgrythyrau. Roedd hi’n darllen llawer o lyfrau addysgiadol, ac yn hyfedr yn emynyddiaeth Cymru. Cadwodd ddyddiaduron trwy gyfrwng y Saesneg dros gyfnod o 20 mlynedd, ac ynddynt byddai’n cofnodi ei hemosiynau crefyddol...

Helen Wyn Thomas – E. Lois

Roedd Helen Wyn Thomas yn ymgyrchydd heddwch o Gastell Newydd Emlyn.  Ganwyd Helen Wyn Thomas ar y 16eg o Awst 1966. Aeth hi i Brifysgol Cymru, Llanbed, a graddiodd mewn hanes. Wedi iddi raddio, symudodd i Gaerdydd, a chychwynnodd weithio i Women’s Aid yno, cyn ymddiddori yng Nghwersyll Heddwch Greenham Common. Bu farw ddau fis wedi iddi symud i’r gwersyll heddwch o anafiadau...

Menywod Greenham Common – E. Lois

Menywod Greenham Common Yn mis Medi 1981, cerddodd 36 o fenywod o Gymru i Wersyllfa Filwrol Greenham Common, yn Wiltshire yn Ne Lloegr, er mwyn protestio penderfyniad y llywodraeth i gadw taflegrau niwclear Cruise yno. Cadwynodd y menywod, oedd yn galw eu hunain yn ‘Women for Life on Earth’,  eu hunain i ffens Greenham Common, a sefydlu gwersyll heddwch yno. Yn mis Mai 1982,...

Nina Hamnett – E. Lois

Nina Hamnett – ‘Brenhines Bohemia’ Roedd Nina Hamnett yn artist ac ysgrifennwr Cymreig, ac yn cael ei hadnabod fel ‘The Queen of Bohemia’. Ganwyd Nina Hamnett ar y 14eg o Chwefror 1890 yn Ninbych-y-Pysgod. Mynychodd Ysgol Gelf Pelham, ac yna Ysgol Gelf Llundain tan 1910. Yn 1914 aeth hi i Baris i astudio yn Academi Marie Vassilieff. Pan oedd hi’n astudio yn Llundain, mi ddaeth yn...

Mari’r Fantell Wen – E. Lois

Ganwyd Mari’r Fantell Wen yn ‘Mary Evans’ yn 1735. Roedd hi’n enedigol o Ynys Môn, medd rhai, ond ymsefydlodd ym Mhlwyf Maentwrog tua 1774. Gallai ysgrifennu a darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac roedd hynny’n bur anghyffredin i forwyn yn y cyfnod hwnnw. Gadawodd Mari ei gŵr pan symudodd i Faentwrog, a dechrau teithio â gŵr rhywun arall. Hawliai fod hyn gan nad oedd ei...