Jane Arden – E. Lois

Roedd Jane Arden yn actores a chynhyrchydd ffilm Cymreig.

Cafodd ein geni’n Norah Patricia Morris i deulu oedd yn byw yn 47 Twmpath Road ym Mhontypŵl, ar y 29ain o Hydref 1927. Roedd hi’n nith i’r cantor Parry Jones. Astudiodd actio yn yr Academi Frenhinol, yn Llundain, cyn cychwyn ei gyrfa ar y teledu ac yn y sinema yn y 1940au hwyr.

Bu’n actio mewn addasiad teledu o Romeo and Julietyn y 1940au hwyr, cyn iddi ymddangos mewn dwy ffilm – ‘Memory’(1947), oedd wedi ei chyfarwyddo gan Oswald Mitchell, ac ‘A Gunman has Escaped’ (1948). 

Yn y 1950au, priododd â Philip Saville, oedd yn gyfarwyddwr ffilmiau, ac wedi cyfnod byr yn byw yn Efrog Newydd, pan ddechreuodd hi ysgrifennu, symudodd hi a’i gŵr i Hampstead, yn Llundain, lle ganwyd dau fab iddynt.

Yno ysgrifennodd Jane sawl sioe lwyfan, a sawl sgript deledu, a chyfarwyddodd ei gŵr rai o’r perfformiadau hyn.

Cafodd ei sioe lwyfan ‘Consience and Desire, and Dear Liz’ (1954) gryn dipyn o sylw, a chafodd ei sioe gomedi ‘Curtains for Harry’(1955), ei darlledu ar ITV. Yn y 1950au hwyr, cydweithiodd Jane â sawl ffigwr blaenllaw yn y byd theatr a sinema ym Mhrydain.

Datblygodd gwaith Jane i fod yn fwyfwy radicalaidd, wrth iddi ddatblygu diddordeb mawr mewn ffemindyddiaeth a’r symudiad anti-psychiatry. Daeth hyn i’r amlwg ar ôl 1965, yn y ddrama deledu ‘The Logic Game’, wedi ei hysgrifennu gan, a Jane yn serennu ynddi. Cafodd y rhaglen ei chyfarwyddo gan ei gŵr.

Yn 1967, serennodd Arden mewn ffilm arall roedd wedi hi ei ysgrifennu ar bwnc tebyg ‘Separation’. Cyfarwyddwyd y ffilm hwn gan ei phartner creadigol, Jack Bond. Ysgrifennwyd trac sain y ffilm gan Procol Harum.

Yn y 1960au hwyr, dychwelodd Jane i fyd y sinema fel actores, ysgrifennydd, a chyfarwyddwr ffilmiau, gyda steil fwy arbrofol. 

Llenwodd ei sioe Vagina Rexand the GasOven(1969) y theatre yn yr Arts House yn Llundain am chwech wythnos. 

Yn 1970, ffurfiodd Arden y grŵp theatre ffeminist radicalaidd ‘Holocaust’, ac ysgrifennodd y sioe ‘The New Communion for Freaks, Prophets and Witches’. Addaswyd y sioe i fod yn ffilm o’r enw ‘The Other Side of the Underneath’(1972). Cyfarwyddodd ac ymddangosodd Jane yn y ffilm. Roedd y ffilm yn un a gafodd gryn dipyn o sylw – mae’r ffilm yn portreadu menyw yn cael breakdown, ac yn cael ei hail-eni. 

Wedi ‘The Other Side of the Underneath’, ysgrifennodd ddwy ffilm arall – Vibration (1974) ac Anti-Clock (1979), a chyhoeddodd lyfr ‘You Don’t Know What You Want – Do You?’ (1978), oedd yn cynnwys barddoniaeth a manifesto cymdeithasol a seicolegol radicalaidd. 

Darganfuwyd corff Jane Arden yn Hindlethwaite Hall yn Coverdale, Swydd Efrog ar yr 20fed o Ragfyr 1982.  Nodwyd ei marwolaeth fel hunan-laddiad. Claddwyd Jane Arden yn mynwent Highgate yn Llundain.

Darllen Pellach:

http://babylonwales.blogspot.com/2010/05/jane-arden.html

http://www.screenonline.org.uk/people/id/1364950/index.html

http://www.closeupfilmcentre.com/vertigo_magazine/issue-11-august-2007/unknown-pleasures/

https://www.imdb.com/name/nm0033986/bio?ref_=nm_ov_bio_sm

https://books.google.co.uk/books?id=Ja4xHIVHWjAC&pg=PA290&dq=jane+arden&hl=cy&sa=X&ved=0ahUKEwjFiO-62fHcAhUQExoKHQFODlwQ6AEIPTAE#v=onepage&q=jane%20arden&f=falsehttps://cy.wikipedia.org/wiki/Jane_Ardenhttps://en.wikipedia.org/wiki/Jane_Arden_(director)

http://library.aftrs.edu.au/ipac20/ipac.jsp?session=E26163B25718F.33284&profile=nfts&uri=link=3100006~!259374~!3100001~!3100002&aspect=subtab13&menu=search&ri=1&source=~!horizon&term=Anti-clock&index=


E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen. 

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois