Jane Brereton (Melissa) – E. Lois

Ganwyd Jane Brereton yn 1685, yn ail ferch i Ann a  Thomas Hughes o Fryn-Griffith, ger y Wyddgrug yn Sir y Fflint. Mi dderbyniodd addysg nes ei bod hi’n 16, oedd yn anghyffredin ar gyfer y cyfnod. Bu farw ei thad tua’r flwyddyn 1701.


Yn 1711, mi briododd Thomas Brereton o Rydychen. Ganwyd dau fab a dwy ferch iddynt. Cafodd Thomas Brereton yrfa lenyddol yn Llundain, yn cyhoeddi barddoniaeth, a dwy ddrama. Mi gyhoeddedd Jane Brereton ‘The Fifth Ode of the Fourth Book of Horace, Imitated (1716), ac ‘An Expostulatory Epistle to Sir Richard Steele upon the Death of Mr Addison’ (1720). 

Yn 1721, mi wahanodd Jane Brereton a’i gŵr, ac ymddeolodd i Wrecsam. Yno, dechreuodd Jane ysgrifennu cerddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd ei chysylltiadau â hynafiaethyddion ac academyddion Cymreig yn ysbrydoli ei gwaith yn fawr – roedd hi’n gweld ei hun fel ysgrifennwr Cymreig, neu fel ‘Cambrian Muse’.

Cyhoeddwyd sawl cerdd gan Brereton yng nghylchgrawn y ‘Gentleman’s Magazine’ yn ystod y 1730au, o dan y nom du guerreMelissa.

Yn ôl Mirella Agomi, yn ‘Translating Italy for the Eighteenth Century: British Women, Translation and Travel Writing ‘ , roedd Brereton, yn ysgrifennu fel ‘Melissa’, yn haeredig fod ‘female anger’ yn gallu bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer cerddi. 

Bu farw Jane Brereton yn 1740.

Cyhoeddwyd cyfrol o’i gwaith o’r enw ‘Poems on Several Occasions by Mrs. Jane Brereton’, gan Edward Cave yn 1744. Cave oedd golygwr ‘Gentleman’s Magazine’. Cyhoeddwyd sawl cerdd gan Brereton yn y cylchgrawn yn ystod y 1730au.

Darllen Pellach:  


Eighteenth Century Women Poets: An Oxford Anthology – Roger Lonsdale
https://books.google.co.uk/books?id=i27SIQifpkQC&pg=PA78&dq=Jane+Brereton&hl=cy&sa=X&ved=0ahUKEwiY5LnimNDbAhVQSsAKHaVwBa8Q6AEIQDAE#v=onepage&q=Jane%20Brereton&f=false


Writing Wales, from the Renaissance to Romanticism – Stewart Mottram + Sarah Prescott 
https://books.google.co.uk/books?id=FgGOCwAAQBAJ&printsec=frontcover&dq=Jane+Brereton&hl=en&sa=X&ved=0ahUKEwij3LHtndDbAhWDecAKHfadAIUQ6AEITzAI#v=onepage&q=Jane%20Brereton&f=false

The female poets of Great Britain, chronologically arranged – Frederic Rowton
https://books.google.co.uk/books?id=QRAbAQAAMAAJ&pg=PA122&dq=jane+brereton+melissa&hl=cy&sa=X&ved=0ahUKEwiElu7RnI_cAhWHAsAKHT0QCBoQ6AEIMzAC#v=onepage&q=jane%20brereton%20melissa&f=false

The Cambridge Companion to Women’s Writing in Britain, 1660–1789 – Catherine Ingrassia
https://books.google.co.uk/books?id=qla3BwAAQBAJ&pg=PA65&dq=Jane+Brereton&hl=cy&sa=X&ved=0ahUKEwiY5LnimNDbAhVQSsAKHaVwBa8Q6AEITjAG#v=onepage&q=Jane%20Brereton&f=false

Translating Italy for the Eighteenth Century: British Women, Translation and Travel Writing – Mirella Agomi

Engreifftau o’i gwaith:

Specimens of the Later English Poets: With Preliminary Notices, Volume 1 – Robert Southey


Specimens of the Later English Poets: With Preliminary Notices, Volume 1 – Robert Southey 
https://books.google.co.uk/books?id=57IgAAAAMAAJ&pg=PA386&dq=Jane+Brereton&hl=cy&sa=X&ved=0ahUKEwiY5LnimNDbAhVQSsAKHaVwBa8Q6AEIKTAB#v=onepage&q=Jane%20Brereton&f=false



E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen. 

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois