Annie Powell – E. Lois

Ganwyd Annie Powell yn mis Medi 1906, yn y Rhondda. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Pentre. Datblygodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Hyfforddi Glamorgan yn yr 1920au.


Hyfforddodd fel athrawes yn ystod cyfnod y Streic yn 1926, a phan gychwynnodd ddysgu yn Nhrebanog, gwelodd raddfa’r dlodi oedd yno.


Ymunodd â’r Blaid Lafur, ond roedd egwyddorau’r Blaid Gomiwnyddol yn well ganddi. Er ei bod wedi cael magwraeth grefyddol anghydffurfiol, ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr (CPGB) yn 1938.


Roedd Powell yn athrawes Gymraeg oedd yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf. Fe ddaeth yn weithgar yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, a safodd mewn sawl etholiad gyffredinol yn nwyrain y Rhondda dros y CPGB yn 1955. Yn etholiad cyffredinol 1959 sicrhaodd Annie Powell 4580 o bleidleisiau. Eisteddodd ar bwyllgor Cymreig, a phwyllgor menywod y CPGB. Yn ôl pob sôn, cyfarfu hi â Nikita Khrushev mewn cenhadledd pleidiau Comiwnyddol yn Moscow.


Yn 1955, wedi iddi drio 13eg o weithiau, etholwyd Annie Powell yn gynghorydd
Comiwnyddol ar gyfer Penygraig. Collodd hi’r sedd yn 1957. Yn 1961, fe’i hail-etholwyd hi’n gynghorydd yn y Rhondda. Roedd hi’n aelod o’r cyngor am yr 20 mlynedd nesaf, ac yn 1979 penodwyd hi’n Faer.


Bu farw ar y 29ain o Awst 1986, yn 79 mlwydd oed.



Darllen Pellach:

Communist Fortnightly Review, Volume 5 – Central Books Limited, 1967.

A New Kind of Bleak: Journeys through Urban Britain – Owen Hatherley. p236-7

 The Companion Guide to Wales – David Barnes. P154 

https://cy.wikipedia.org/wiki/Annie_Powell

https://web.archive.org/web/20060713113822/http://graham.thewebtailor.co.uk/archives/000088.html


E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen. 

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois