Berta Ruck – N. M. Thomas

Ganwyd Amy Roberts Ruck yn Rawalpindi yn y Punjab yn India ar yr 2il o Awst 1878.  Hi oedd yr hynaf o wyth o blant Arthur Ashley Ruck, a oedd yn sywddog yn y fyddin. Roedd ei mam, Elizabeth Elaeanor D‘Arcy hefyd yn hanu o deulu milwrol. Pan oedd yn ddwy flwydd oed, ac yn rhugl yn Hindwstani a Saesneg, anfonwyd Berta yn ôl i Gymru at ei mam gu, Mary Ann Ruck, a oedd yn Gymraes.  Roedd...

Ann Maddocks – A. Ifans

Ann MaddocksY Ferch o Gefn Ydfa( 1704 – 1727) Roedd Ann yn byw ym mhlasty Cefn Ydfa, ger Llangynwyd, Sir Forgannwg. Mae Llangynwyd rhwng Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Cafodd Ann ei geni yn y flwyddyn 1704. Roedd hi’n byw mewn plasty mawr, hardd o’r enw Cefn Ydfa. Ann oedd yr unig blentyn ac felly hi oedd i etifeddu ystad Cefn Ydfa. Roedd llawer o weision a morynion yn gweithio ar yr...

Ida Gaskin – N. M. Thomas

Ida Gaskin oedd enillydd benywaidd cyntaf Mastermind yn Seland Newydd.  Roedd hi hefyd yn wleidydd ac yn enwog am ei gwybodaeth eang a thrylwyr o waith William Shakespeare. Ganwyd Ida Margaret Jacobs ym  Mhontardawe ym 1919.  Roedd ei thad, Edward, yn gweithio yn y diwydiant dur ond magwyd Ida yng nghyfnod y Dirwasgiad ac roedd e allan o waith gryn dipyn.  Golygai hyn bod...

Jano Elizabeth Davies – N. M. Thomas

Yn aml cyfeirir at Jano Elizabeth Davies fel Mrs Clement Davies.  Yn ôl traddodiad y cyfnod daeth yn adnabyddus yn enw ei gŵr, sef arweinydd y Blaid Ryddfrydol. Ganwyd Jano yn Bow yn Llundain ar 3ydd Mai 1882.  Roedd ei mam, Margaret yn enedigol o Langwyryfon ger Aberystwyth.  Yng Nghyfrifiad 1881 mae Margaret yn byw yn Princess Street yn Aberystwyth gyda’i gŵr, David...
Louisa Maud Evans

Louisa Maud Evans – N. M. Thomas

Ym mynwent y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd mae yna gofeb o farmor gwyn sy’n cofio merch pedair ar ddeg oed a fu farw mewn damwain rhyfedd ym 1896.   Bedd Louisa Maud Evans ydyw.  Cafodd ei hadnabod tan ryw bythefnos cyn ei marwolaeth fel Louie Evans – ac wedyn am y pythefnos olaf fel Madamoisellle Albertini.  Fe’i lladdwyd mewn damwain balŵn yn yr awyr uwchben Caerdydd. Credir...
Illustration of Mary Elizabeth Phillips

Mary Eppynt Phillips – N. M. Thomas

Yn aml cyfeirir at Mary Phillips fel “y ferch gyntaf i ddod yn feddyg yng Nghymru” – ond mewn ymateb i erthygl yn y Western Mail yn 1900 cywirodd hi’r newyddiadura a nodi mai hi oedd y gyntaf i raddio o Ysgol Feddygaeth Caerdydd – ond bod o leiaf tair un feddygon benywaidd o’i blaen hi yng Nghymru. Ganed Mary yn ferch ffarm ym mhentref Merthyr Cynog ger Aberhonddu yn 1875.  ...

Lulu Griffiths a Margaret Griffiths, Y Fonesig Herkomer – N. M. Thomas

Lulu Griffiths (1849 – 1885) a Margaret Griffiths,  Y Fonesig Herkomer (1857 – 1934) Yn ardal Bushey yn Hertfordshire roedd yna gartref anhygoel o waith y pensaer o America, Henry Hobson Richardson.  O’r tu allan roedd yn rhyfeddod o ddylwanwadau gothig, Fictorianaidd, Arts and Crafts ac Almeinig, ymhlith eraill.  Adeiladwyd y tŷ ar gyfer yr artist Hubert von Herkomer a...

Ellen Edwards – E. Tomos

Ellen Edwards (neé Francis) ‘Athrawes y Morwyr’ (1810-1889) ‘Dystaw weryd, Mrs. Edwards dirion,A gywir gerir;–  gwraig o ragorion;– Athrawes oedd i luoedd o lewion,Y rhai uwch heli wnant eu gor’chwylion,Urddas gaed drwy addysg hon – ni phaid lluMor ei mawrygu, tra murmur eigion. (Yr Herald Cymraeg, 7 Medi 1909, t. 6.) Yn ystod ei hoes, llwyddodd Ellen Edwards i hyfforddi...

Ena Radway

Ganwyd Ena yn St Elizabeth, Jamaica, yn 1936. Tyfodd Ena i fyny yn ardal Thornton. Roedd ei thad yn gweithio ar blanhigfa, ac fe fyddai’r plant yn helpu pan oedd hi’n gynhaeaf. Yn yr ysgol, dysgodd Ena am hanes Prydain, a’r Brenin George VI. Cofiai ddysgu hwiangerddi Prydeinig hefyd. Saesneg oedd ei hoff bwnc yn yr ysgol uwchradd. Pan oedd Ena’n 18, priododd â dyn ifanc lleol o’r enw...

Iris Cave

Ganwyd Iris Cave yn Grenada yn 1923.  Roedd hi’n unig blentyn, ac roedd ei mam yn gweithio fel cogydd yn Trinidad, felly treuliodd Iris lawer o’i phlentyndod yng nghwmni ei Mamgu, ‘Mother Jule’, oedd yn fydwraig yn y pentref. Gadawodd Iris yr ysgol pan oedd hi’n 16 oed, a threuliodd rai blynyddoedd yn dysgu gwnïo â dwy o’r gwniadwragedd lleol.  Yn 1944, gadawodd Iris...