Illustration of Mary Elizabeth Phillips

Mary Eppynt Phillips – N. M. Thomas

Yn aml cyfeirir at Mary Phillips fel “y ferch gyntaf i ddod yn feddyg yng Nghymru” – ond mewn ymateb i erthygl yn y Western Mail yn 1900 cywirodd hi’r newyddiadura a nodi mai hi oedd y gyntaf i raddio o Ysgol Feddygaeth Caerdydd – ond bod o leiaf tair un feddygon benywaidd o’i blaen hi yng Nghymru.

Ganed Mary yn ferch ffarm ym mhentref Merthyr Cynog ger Aberhonddu yn 1875.   Mae’r pentref ar Fynydd Epynt, sydd yn egluro’r ychwanegiad at enw Mary yn nes ymlaen yn ei gyrfa.   Roedd ei thad, William, yn ffermio fferm fawr Presbeli ac roedd yn byw yno gyda’i rheini a’i chwaer, morwyn a gwas yn 1881.  Roedd hi dal ar y fferm yn 1891 a bellach roedd y teulu yn cyflogi tri.  

Aeth i astudio Meddygaeth yng Ngaherdydd yn 1894, lle’i hadwaenwyd fel Bessie Phillips.  Dyma flwyddyn gyntaf  yr Ysgol Feddygol.  Doedd dim modd iddi raddio’n llawn mewn meddygaeth o Gaerdydd ar y pryd a gorffennodd ei hyfforddiant yn Ysbyty’r Royal Free yn Llundain.   

Dechreuodd ei gyrfa yn Nottingham, ac erbyn cyfrifiad 1901 mae Mary yn Greek Street, Stockport – yn rhannu llety gyda Lilian Blake a Jessie Bateman.  Nodir gwaith Mary a Lilian fel “Medical Surgery Practitioner” a Jessie yn “Dispenser”.   

Erbyn cyfrifiad 1911 mae Mary yn byw gyda’i mam yn Blenheim Terrace yn Leeds.  Mae ei mam bellach yn weddw ac yn byw ar ei harian ei hunan.  Rhestrir Mary fel “Medical Practitioner.”  Yn y cyfnod yma agorodd ei phractis preifat ei hun yn Leeds ac agorwyd Ysbyty Mamolaeth yn Leeds yn 1905 lle rhoddwyd gofal i fenywod oedd yn rhy dlawd i dalu. 

Roedd yn aelod gweithgar o’r Undeb Cenedlaethol y Syffrajéts.  Dyma arweiniodd iddi ychwanegu “Eppynt” at ei henw.  (Roedd yna Mary Phillips arall yn arwain y mudiad yn y ddinas a chafodd honno ei chyfweld gan yr heddlu.  Roedd Mary Eppynt am wneud y gwahaniaeth rhyngddynt yn glir!)

Gweithiodd mewn sawl ysbyty yn Lloegr gan gynnwys y Leeds Maternity Hospital lle roedd yn Swyddog Meddygol Anrhydeddus.  

Ar ddechrau’r Rhyfel Mawr fe’i gwahoddwyd i ymuno â phersoneél Ysbytai Merched yr Alban yn Calais.  Dechreuodd ei gwaith yno adeg Nadolig 1914.  Roedd yn gyfrifol am ysbyty teiffoid yno am ychydig cyn trosglwyddo i weithio yn Serbia.

Torrodd ei hiechyd am ychydig yn 1915 a death yn ôl i Brydain.  Yna aeth i weithio i  Gorsica lle arhosodd yn Brif Swyddog Meddygol tan ganol 1917.  Gweithiodd yn bennaf gyda ffoaduriaid benywaidd yma.  Pan ddychwelodd i Brydain bu’n gweithio gyda milwyr clwyfedig yn Ysbyty Holborn.  Bu hefyd yn cynnal darlithoedd ar hyd a lled Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth a chodi arian at Ysbyty Merched yr Alban.  

Mewn adroddiad yn y Brecon and Radnor Express yng Nghorffennaf 1917 disgrifir Mary fel:  “one of the foremost women doctors in her record of war work, of which Wales generally, and Merthyr Cynog in particular, may, indeed, be proud”.

Wedi’r Rhyfel parhaodd i weithio fel meddyg a hefyd gyhoeddi llyfrau megis Teach Yourself Biology.  Hi oedd Dirprwy Swyddog Meddygol Merthyr Tudful rhwng 1920 a 1929.  Cyhoeddodd lyfr yn 1924 o’r enw: How to keep yourself healthy: Outbreak of Poliomyelitis in Merthyr Tydfil.  Parhaodd i roi darlithoedd i godi arian at ffoaduriaid Serbia ond hefyd yn y cyfnod traddododd ddarlith yn Llanfair Ym Muallt er mwyn codi arian at dlodion Merthyr Tudful.  

Dengys y Gofrestr Feddygol ei bod yn gweithio yn Walmer, Kent yn 1935.  Erbyn Cofrestr 1939 roedd hi wedi ymddeol ac roedd yn byw yn Deal, Kent

Bu farw yn ei chartref yn Oulton Broad ger Lowestoft ar 1af Awst 1956 ac fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Cynog, Merthyr Cynog.  

Darllen pellach: 

Western Mail 1900

Merthyr Express 9 Hydref 1900

https://www.casgliadywerin.cymru/collections/430174

https://livesofthefirstworldwar.iwm.org.uk/lifestory/5152770

Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.