Pauline Pingue

Ganwyd Pauline Eureka Pingue yn Christ Church, Barbados, yn 1935. Roedd hi’n hoff o arddio yn ystod ei phlentyndod - byddai hi’n tyfu llysiau a rhosynnau. Collodd ei theulu dir pan adeiladwyd ‘Highway 7’.  Roedd Pauline wedi gadael ei chartref, ac yn byw yn Sea View gyda Eunice, ei merch ifanc, pan aeth ei thad yn sâl. Bwriad ei thad oedd anfon Pauline i America, ond doedd hi ddim...

Ruth Wynn Owen – N. M. Thomas

Ruth Wynn Owen 1915 – 1992 Mewn cyfweliad ym mhapur newydd yr Independent yn Iwerddon yn 2017 cyfeiriodd yr actor byd-enwog Patrick Stewart at wersi actio a gafodd fel bachgen ifanc gan actores o’r enw Ruth Wynn Owen.  Nododd hefyd fod yna ddyn ifanc arall yn mynychu’r un gwersi sef yr enwog Brian Blessed. Cyfeirir ati yn aml fel actores Gymreig. Ganwyd Ruth ar 20fed Ionawr  1915...
Ruby Loftus

Ruby Loftus – N. M. Thomas

Un o ddarluniau mwyaf eiconig propaganda Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw portread o’r enw Ruby Loftus Screwing a Breech Ring gan yr arlunydd Laura Knight. Daw’r llun o’r ffatri Royal Ordnance yn Corporation Road, Casnewydd lle treuliodd Laura Knight dair wythnos yn darlunio Ruby. Ganwyd Ruby Loftus yn Llanhilleth ac roedd yn byw gyda’i thad, Harold, a’i mam, Martha.  Symudodd...

Joan Howson – N. M. Thomas

Joan Howson Yn Eglwys Sant Beuno, Penmorfa, mae yna ddwy ffenest liw yn y cyntedd yn dangos Sant Cybi a Sant Cyngar.  Yn ôl y sôn maent gan Joan Howson ac yn dyddio i’r cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Ganwyd Joan Howson ym mis Mai 1885 yn Overton, Sir y Fflint.  Daeth o deulu eglwysig; roedd yn ferch i’r Parchedig George Howson a’i wraig Ethel. Roedd yn wyres hefyd i Ddeon Caer ac...

Clare Deniz – N. M. Thomas

Clara Ethel Deniz (1911 – 2002) Roedd Clara, neu Clare Deniz yn un o’r ychydig gerddorion du o Gymru oedd ar y sîn yn Llundain yn y tridegau. Pianydd oedd hi a pherfformiodd gyda rhai o enwau mawr y cyfnod, gan gynnwys Fela Sawale, Happy Blake a Leslie Hutchinson. Fe’i ganwyd yn Grangetown, Caerdydd ar y 30 Medi 1911. Morwr o Barbados oedd ei thad, Frederick Wason, a daeth ei mam, Bessie,...

Menywod Llanerchaeron – N. M. Thomas

Menywod Llanerchaeron Elizabeth Lewis,  Corbetta Powell,  Mary Ashby Mettam, Annie Ponsonby a Mary Peregrine Yn 2018 cynhaliwyd arddangosfa yn Llanerchaeron i nodi canrif ers I fenywod gael y bleidlais.  “Pŵer y Bais” oedd enw’r arddangosfa a rannodd hanesion pedair a fu, y neu tro, yn ddylanwadol, yn benderfynol ac yn lleisiau cryf yn hanes yr ystâd. Adeiladwyd y...

Ann Ellis – E. Lois

ANN ELLIS Roedd Ann Ellis yn fenyw oedd yn byw yn ardal Llannerch Banna yn Sir y Fflint. Cafodd ei chyhuddo, yn haf 1657, o achosi salwch i blant ar ôl iddynt ei chythruddo. Clywodd y llys, ryw bedair mlynedd wedi i Ann symud i’r ardal, fod bachgen deuddeg mlwydd oed wedi cael ei barlysu, ac ni allai gerdded oddi ar hynny. Roedd Richard wedi bod yn dringo ar do tŷ Ann, a phiso i lawr ei...

Gwen Ferch Ellis – E. Lois

GWEN FERCH ELLIS ( tua 1542 – 1594) Yn 1594, cyhuddwyd Gwen Ferch Ellis o gyflawni gwrachyddiaeth. Yn ôl pob sôn, roedd hi’n swynwraig ac yn weledydd, ac yn anffodus gadawodd un o’i swynau yng Ngloddaeth, tŷ Thomas Mostyn, oedd yn ddyn hynod ddylanwadol ar y pryd. Roedd Gwen yn gwneud ei bywoliaeth o wnïo a gwau, ac roedd hi hefyd yn creu meddyginiaethau gwerin ar gyfer ei ffrindiau,...

Ruth Mynachlog – E. Cadifor

Ruth Mynachlog oedd fy hen fam-gu.  Yn 1939, a hithau’n 83 mlwydd oed, cyhoeddodd ei hatgofion sy’n drysor teuluol ond sydd hefyd yn gofnod pwysig o fywyd yn Ne Ceredigion yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Union 80 mlynedd yn ddiweddarach mae “Atgofion Ruth Mynachlog” wedi’u hargraffu eto. Wrth iddynt gael eu gwerthfawrogi o’r newydd mae’r wraig o Dalgarreg bellach...

Norah Dunphy – E. Lois

Norah Dunphy oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd ‘Bachelor of Architecture’ ym Mhrydain. Roedd hi’n dod o Landudno yn wreiddiol, a mynychodd Ysgol John Bright yno. Wedi iddi adael yr ysgol, astudiodd hi bensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl o dan diwtoriaeth Professor Charles Reilly. Graddiodd hi yn 1926 â gradd mewn pensaernïaeth, yn ogystal â thystysgrif dosbarth-cyntaf mewn Dylunio...