Pauline Pingue

Ganwyd Pauline Eureka Pingue yn Christ Church, Barbados, yn 1935.

Roedd hi’n hoff o arddio yn ystod ei phlentyndod – byddai hi’n tyfu llysiau a rhosynnau.

Collodd ei theulu dir pan adeiladwyd ‘Highway 7’. 

Roedd Pauline wedi gadael ei chartref, ac yn byw yn Sea View gyda Eunice, ei merch ifanc, pan aeth ei thad yn sâl.

Bwriad ei thad oedd anfon Pauline i America, ond doedd hi ddim am fynd. Wedi i’w thad farw, gwelodd Pauline hysbysebion yn gwahodd pobl o Barbados i’r Deyrnas Unedig, felly penderfynodd symud yno.

Gadawodd Barbados am Brydain pan oedd hi’n 24 mlwydd oed, gan adael ei merch Eunice gyda’r teulu nes iddi allu talu am ei siwrne hi i Brydain. 

Talodd Llywodraeth Prydain y £65 am ei siwrne draw i Brydain, ac roedd yn rhaid iddi dalu cyfran o’r swm yn ôl bob mis. 

Symudodd Pauline i Gasnewydd yn mis Mai 1959. Dechreuodd weithio yn y King’s Head Hotel ar High Street, lle roedd hi’n ennill 50 swllt yr wythnos, yn ogystal â bwyd a llety. Roedd hi’n hapus gyda’i llety – roedd ystafell fawr ganddi i’w hun, ac mi fyddai hi’n mynd lawr i gegin y gwesty i gasglu ei phrydiau bwyd.

Gadawodd Pauline y King’s Head, a gweithiodd mewn sawl lle arall, gan gynnwys bragdy, ffowndri, ac ysbyty. Yn y diwedd, dechreuodd hi weithio yn Santons. 

Ymunodd Eunice â hi pan oedd Eunice yn 10.

Mae erthygl helaethach am Pauline Pingue, a cyfweliad â hi, gan y ‘Back-a-Yard Project’, ar gael yma: https://www.casgliadywerin.cymru/story/499388