Iris Cave

Ganwyd Iris Cave yn Grenada yn 1923. 

Roedd hi’n unig blentyn, ac roedd ei mam yn gweithio fel cogydd yn Trinidad, felly treuliodd Iris lawer o’i phlentyndod yng nghwmni ei Mamgu, ‘Mother Jule’, oedd yn fydwraig yn y pentref.

Gadawodd Iris yr ysgol pan oedd hi’n 16 oed, a threuliodd rai blynyddoedd yn dysgu gwnïo â dwy o’r gwniadwragedd lleol. 

Yn 1944, gadawodd Iris Grenada, ac ymuno â’i mam yn Trinidad. 

Erbyn 1961, roedd Iris yn briod, ac 8 mis wedi i’w gŵr symud i Brydain, dilynodd hi ef. 

Symudodd y ddau i Gasnewydd. Roedd ei gŵr yn adeiladwr, yn gweithio i McApline, a oedd yn adeiladu Gweithfeydd Dur Llanwern ar y pryd.

Prynodd Iris a’i gŵr dŷ ar Tunnel Terrace, a dechreuodd Iris weithio yn Crompton Batteries, ac yna yn Ysbyty Brenhinol Gwent, lle bu hi’n gweithio tan iddi ymddeol.

Mae erthygl helaethach am Iris Cave, a chyfweliad â hi, gan y ‘Back-a-Yard Project’, ar gael yma: https://www.casgliadywerin.cymru/story/499331