Ann Ellis – E. Lois

ANN ELLIS Roedd Ann Ellis yn fenyw oedd yn byw yn ardal Llannerch Banna yn Sir y Fflint. Cafodd ei chyhuddo, yn haf 1657, o achosi salwch i blant ar ôl iddynt ei chythruddo. Clywodd y llys, ryw bedair mlynedd wedi i Ann symud i’r ardal, fod bachgen deuddeg mlwydd oed wedi cael ei barlysu, ac ni allai gerdded oddi ar hynny. Roedd Richard wedi bod yn dringo ar do tŷ Ann, a phiso i lawr ei...

Gwen Ferch Ellis – E. Lois

GWEN FERCH ELLIS ( tua 1542 – 1594) Yn 1594, cyhuddwyd Gwen Ferch Ellis o gyflawni gwrachyddiaeth. Yn ôl pob sôn, roedd hi’n swynwraig ac yn weledydd, ac yn anffodus gadawodd un o’i swynau yng Ngloddaeth, tŷ Thomas Mostyn, oedd yn ddyn hynod ddylanwadol ar y pryd. Roedd Gwen yn gwneud ei bywoliaeth o wnïo a gwau, ac roedd hi hefyd yn creu meddyginiaethau gwerin ar gyfer ei ffrindiau,...

Ruth Mynachlog – E. Cadifor

Ruth Mynachlog oedd fy hen fam-gu.  Yn 1939, a hithau’n 83 mlwydd oed, cyhoeddodd ei hatgofion sy’n drysor teuluol ond sydd hefyd yn gofnod pwysig o fywyd yn Ne Ceredigion yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Union 80 mlynedd yn ddiweddarach mae “Atgofion Ruth Mynachlog” wedi’u hargraffu eto. Wrth iddynt gael eu gwerthfawrogi o’r newydd mae’r wraig o Dalgarreg bellach...

Mia Lewis – E. Lois

Ar y 19eg o Fawrth 1966, ymddangosodd Mia Lewis yn adran 'New Faces' cylchgrawn Tatler. Roedd hi'n canu, ar y pryd, ac yn cael ei disgrifio fel 'Miss Beat and Ballad', a dywedwyd bod ganddi lais canu cyffrous. Yn ôl papur newydd 'The Stage' yn mis Mawrth 1969, cynorthwy-ydd siop oedd Mia Lewis cyn iddi ddechrau canu'n broffesiynol.  Perfformiodd hi yn Jersey yn 1957, ac yn 1965,...

Norah Dunphy – E. Lois

Norah Dunphy oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd ‘Bachelor of Architecture’ ym Mhrydain. Roedd hi’n dod o Landudno yn wreiddiol, a mynychodd Ysgol John Bright yno. Wedi iddi adael yr ysgol, astudiodd hi bensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl o dan diwtoriaeth Professor Charles Reilly. Graddiodd hi yn 1926 â gradd mewn pensaernïaeth, yn ogystal â thystysgrif dosbarth-cyntaf mewn Dylunio...

Elizabeth Williams – Disgyblion Ysgol y Ferch o’r Sgêr

Elizabeth Williams (Y Ferch o’r Sgêr) – (1747-1776) Amser maith yn ôl roedd Mr a Mrs Isaac Williams a’u dwy ferch brydferth Elizabeth a Mari yn byw yn ffermdy Sgêr.Bob blwyddyn roedd pobl yr ardal yn cofio am eu Santes, Mair Magdalen,  gyda Gŵyl y Mabsant. Parti mawr oedd yr ŵyl yn Neuadd y Dref.Roedden nhw’n edrych ymlaen yn fawr at ddawnsio drwy’r nos.Ar noson y parti...

Dorothy Griffith – E. Lois

DOROTHY GRIFFITH Cyhuddwyd Dorothy Griffith o Lansana yng Nghlwyd o fod yn wrach o ganlyniad i gweryl rhwng dau deulu.   Honodd William Griffith fod Dorothy Griffith wedi ei reibio. Dywedodd ei fod wedi mynd i deimlo’n benysgafn o flaen tystion, a bod Dorothy wedi rhoi bendith arno i’w wella. Anfonwyd Dorothy i sefyll ei phrawf o flaen y Sesiwn Fawr. Tystiodd trigolion plwyf...

Margaret a Gwenllian David – E. Lois

MARGARET A GWENLLIAN DAVIDRoedd Margaret a Gwenllian yn fam a merch oedd yn byw yn Llangadog, Dyfed. Dygwyd achos yn ei herbyn yn 1656 o reibio anifeiliaid gan achosi colledion enfawr. Cyhuddwyd y ddwy o achosi poen gorfforol i’r rhai fyddai’n gwrthod rhoi cardod iddynt. Dedfrydwyd y ddwy i gyfnod byr yn y carchar. Darllen Pellach: Gwrachod Cymru Ddoe a Heddiw– Eirlys Gruffydd (p.32) E....

Lowri ac Agnes Ferch Evan – E. Lois

LOWRI AC AGNES FERCH EVAN Yn Sir Gaernarfon yn 1622, cyhuddwyd Lowri ac Agnes Ferch Evan, ynghyd â’i brawd Rhydderch ap Evan, o reibio Margaret Hughes o Lanbedrog nes iddi farw. Cyhuddwyd y tri o achosi i Mary Hughes, hefyd o Lanbedrog, golli defnydd o’i choesau a’i braich chwith, a’i gallu i siarad. Er ei fod yn bosib mai anghytuno rhwng dau deulu oedd y tu ôl i’r achos, cafwyd y...

Margaret Evans – E. Lois

MARGARET EVANS Cafodd Margaret Evans ei dwyn o flaen Llys Ynadon Caernarfon yn 1883, gan ei bod wedi cweryla â’i chymdoges Margaret Griffith. Roedd ieir Margaret Griffiths wedi crwydro i iard Margaret Evans, ac aeth Margaret Evans ar ei gliniau a darllen pennod o’r Beibl iddynt gan eu melltithio. Pan gofynnwyd i Margaret Evans ymateb i’r cyhuddiad yn y llys, dwedodd fod Margaret Griffith...