Elizabeth Williams (Y Ferch o’r Sgêr) – (1747-1776)
Amser maith yn ôl roedd Mr a Mrs Isaac Williams a’u dwy ferch brydferth Elizabeth a Mari yn byw yn ffermdy Sgêr.
Bob blwyddyn roedd pobl yr ardal yn cofio am eu Santes, Mair Magdalen, gyda Gŵyl y Mabsant. Parti mawr oedd yr ŵyl yn Neuadd y Dref.
Roedden nhw’n edrych ymlaen yn fawr at ddawnsio drwy’r nos.
Ar noson y parti roedd y merched yn gyffrous wrth wisgo eu dillad gorau.
Syrthiodd Elizabeth a Tomos Ifans y telynor o’r Drenewydd mewn cariad yn syth.
Roedd Tomos am briodi Elizabeth felly aeth i ofyn caniatád oddi wrth Isaac Williams.
Doedd Isaac Williams ddim yn fodlon. Aeth yn wyllt gacwn! Ffermwyr cyfoethog oedd ei deulu e a dim ond saer coed oedd Tomos Ifans.
Roedd yn rhaid i Elizabeth aros yn ei hystafell wely tan iddi gytuno i briodi Mr Kirkhouse, dyn cyfoethog o Gastell Nedd.
Roedd Elizabeth yn beuddwydio am Tomos drwy’r amser.
Tair mlynedd ar ôl ei phriodas clywodd Mrs Kirkhouse bod Tomos Ifans wedi cyfansoddi cân o’r enw “Y Ferch o’r Sgêr” iddi hi a’i fod yn mynd i ganu’r delyn yn Abertawe.
Y Ferch o’r Sgêr
Mab wyr i sy’n byw dan benyd
Am f’anwylyd fawr ei bri;
Gwaith fwy’n ei charu’n fwy na digon,
Curio wnaeth fy nghalon i.
Gwell yw dangos beth yw’r achos
Nag ymaros dan fy nghur;
Dyma seren atai’n llawen,
Ti gei barch a chariad pur.
Aeth Elizabeth i Abertawe i weld Tomos unwaith eto.
Dilynodd Mr Kirkhouse ei wraig a’i dal yn sgwrsio’n hapus gyda Tomos Ifans. Cafodd Elizabeth gerydd mawr oddi wrth ei gŵr am ymddwyn mor wael.
Anfonodd Mr Kirkhouse Elizabeth adref. Aeth hi i’w gwely yn syth. Bu farw yno o dor-calon ar ôl crio drwy’r dydd a nos am wythnosau hir.
Prynodd tad John Thomas (Mawrth 1af 1826 – Mawrth 19eg 1913) delyn Tomos Ifans i’w fab fel offeryn ymarfer pan oedd John Thomas yn 5 oed. Daeth John Thomas yn delynor enwog iawn, ac yn delynor i’r frenhines Victoria.
…
Darllen/Gwylio pellach:
https://www.bbc.co.uk/programmes/p01x1scd
…
Erthygl gan ddisgyblion Ysgol y Ferch o’r Sger. Enwyd Ysgol Y Ferch o’r Sger yng Nghorneli, bwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl Elizabeth Williams.