Joan Howson – N. M. Thomas

Joan Howson Yn Eglwys Sant Beuno, Penmorfa, mae yna ddwy ffenest liw yn y cyntedd yn dangos Sant Cybi a Sant Cyngar.  Yn ôl y sôn maent gan Joan Howson ac yn dyddio i’r cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Ganwyd Joan Howson ym mis Mai 1885 yn Overton, Sir y Fflint.  Daeth o deulu eglwysig; roedd yn ferch i’r Parchedig George Howson a’i wraig Ethel. Roedd yn wyres hefyd i Ddeon Caer ac...