Ann Maddocks – A. Ifans

Ann Maddocks
Y Ferch o Gefn Ydfa
( 1704 – 1727)

Roedd Ann yn byw ym mhlasty Cefn Ydfa, ger Llangynwyd, Sir Forgannwg.

Mae Llangynwyd rhwng Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Cafodd Ann ei geni yn y flwyddyn 1704. Roedd hi’n byw mewn plasty mawr, hardd o’r enw Cefn Ydfa. Ann oedd yr unig blentyn ac felly hi oedd i etifeddu ystad Cefn Ydfa. Roedd llawer o weision a morynion yn gweithio ar yr ystad, a chrefftwyr hefyd.

Un o’r crefftwyr oedd Wil Hopcyn; roedd e’n dod i’r plasty i weithio bob dydd. Töwr oedd e. Gwelodd Ann Wil Hopcyn gyntaf pan oedd e’n gweithio ar un o dai allan y plasty. Roedd Wil yn trwsio to un o’r tai to gwellt. Roedd Wil Hopcyn yn edrych mor siriol ac yn canu yn swynol wrth ei waith fel yr arhosodd Ann i wrando arno.

Roedd Wil Hopcyn yn dipyn o fardd hefyd. Roedd e wrth ei fodd yn adrodd ei farddoniaeth wrth y gweision a’r morynion pan oedden nhw’n cael prydau bwyd yn y gegin. Weithiau roedd Ann yn mynd i’r gegin pan oedd y gweision a’r morynion yn cael eu prydau bwyd. Roedd hi’n mynd yno i glywed Wil Hopcyn yn adrodd ei farddoniaeth ac yn dweud storïau. Roedd Wil yn storïwr penigamp. Doedd mam Ann ddim yn gwybod am hyn achos doedd Ann ddim i fod i fynd i’r gegin at y gweision a’r morynion. Roedd y teulu’n cael eu bwyd ar wahân i’r gweision a’r morynion yn yr ystafell fwyta foethus.

Roedd Ann yn hoffi Wil Hopcyn yn fawr iawn; a dweud y gwir roedd hi wedi syrthio mewn cariad â fe. Dywedodd Wil wrth Ann ei fod e dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi hefyd a’i fod e’n ysgrifennu barddoniaeth amdani. Ond doedd merch y plasty ddim i fod i garu töwr tlawd. Felly, roedd rhaid iddyn nhw gwrdd mewn lleoedd dirgel rhag ofn i rywun eu gweld nhw.

Roedd mam Ann yn awyddus iawn iddi hi briodi Anthony Maddocks, cyfreithiwr cyfoethog o Gwm Risca, yn ymyl Ton-du, pentref arall ar y ffordd rhwng Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Ond roedd Ann eisiau priodi Wil Hopcyn achos roedd hi’n ei garu. Doedd Ann ddim yn hoffi Anthony Maddocks – a dweud y gwir, roedd hi’n ei gasáu. Roedd Anthony Maddocks eisiau priodi Ann achos ei bod hi’n ferch ddeniadol a hardd. Roedd e’n gwybod hefyd byddai Ann ryw ddydd yngyfoethog am ei bod hi’n siŵr o etifeddu cyfoeth a thir plasty Cefn Ydfa.


Ond roedd Ann eisiau priodi Wil Hopcyn achos Wil Hopcyn roedd hi’n ei garu. Roedd Ann a Wil mor hapus bob tro roedden nhw’n cwrdd. Roedd cerdd neu stori wahanol gan Wil i’w dweud wrth Ann ar bob achlysur. Roedd Ann bob amser yn eithriadol o hapus yng nghwmni Wil.


Roedd stŵr ofnadwy yn y plasty pan ddywedodd Ann wrth ei mam ei bod eisiau priodi Wil Hopcyn yn lle Anthony Maddocks. Aeth ei mam â hi i’w hystafell a chloi’r drws arni. Doedd Ann ddim yn gallu symud o’r ystafell honno, ac felly doedd hi ddim yn gallu mynd allan i gwrdd â Wil Hopcyn.
Ond roedd hi’n dal i feddwl amdano fe ac yn ei wir garu o hyd.


Ysgrifennodd Ann lythyrau at Wil Hopcyn. Byddai Bethan, un o’r morynion ac un o ffrindiau mwya ffyddlon Ann, yn mynd â’r llythyrau at Wil Hopcyn heb i’w mam wybod. Clywodd mam Ann am y llythyrau ac aeth â’r inc a’r papur ysgrifennu o’r ystafell. Rhoddodd ei mam gerydd ofnadwy i Bethan druan a bygwth ei hanfon hi o’r plasty pe bai hi’n cario mwy o lythyrau yn ôl ac ymlaen rhwng Ann a Wil Hopcyn.


Ar ôl i fam Ann fynd â’r inc a’r papur o’r ystafell, roedd hi’n amhosibl iddi gysylltu â Wil Hopcyn.


Un bore cafodd Ann syniad. Wrth ffenestr ei hystafell roedd coeden sycamorwydden yn tyfu.


Sychodd ddail y sycamorwydden ac ysgrifennu ar y dail â’i gwaed ei hunan. Aeth Bethan y forwyn ffyddlon â’r dail at Wil Hopcyn. Roedd Bethan a Wil Hopcyn yn cwrdd i gyfnewid y llythyrau a’r dail mewn lle diarffordd tua chwarter milltir o’r plasty, lle o’r enw Corn yr Hwch.

Clywodd mam Ann am y dail. Clywodd yn ogystal am ran Bethan yn y gyfrinach. Roedd rhaid i Bethan, ffrind ffyddlon Ann, fynd o’r plasty i chwilio am waith yn rhywle arall.


Trefnodd mam Ann i’w merch briodi Anthony Maddocks ac i’r briodas gael ei chyhoeddi drwy’r ardal. Roedd hi’n amhosibl i Ann gysylltu â Wil Hopcyn. Un noson, wrth i’r haul fachlud ar y gorwel, roedd Ann yn gwrando ar gri’r dylluan. Yna clywodd sŵn gwahanol y tu allan. Rhuthrodd Ann at y ffenestr a phwy oedd yno wrth y stablau ond Wil Hopcyn! Roedd e wedi clywed am y briodas ac wedi dod y noson yna i ffarwelio â‘i gariad. Cododd ei law. Roedd Ann mor falch o’i weld. Chwifiodd hi’n ôl am oriau. Welodd Ann mo Wil Hopcyn wedyn er iddi wrando ar gri’r dylluan a syllu am oriau i gyfeiriad y stablau.


Clywodd Ann wedyn fod Wil wedi gadael yr ardal i chwilio am waith yn ardal Bryste. Torrodd Ann ei chalon ar ôl clywed bod Wil wedi mynd i Fryste. Criodd am oriau yn ei hystafell wrth feddwl na fyddai hi’n gweld ei chariad byth eto. Byddai mam Ann yn dod ati bob dydd i fwydro pen ei merch wrth sôn am y trefniadau ar gyfer y briodas. Er mwyn cael heddwch, addawodd Ann briodi Anthony Maddocks. Aeth gyda’i mam yn ddiymdroi i Ben-y-bont ar Ogwr i brynu dillad priodas.

Daeth diwrnod y briodas ac roedd pawb yn brysur iawn. Newidiodd hwyl a miri’r wledd briodas mo deimladau Ann at Wil Hopcyn nac at Anthony Maddocks. Wil Hopcyn roedd hi’n ei garu o hyd. Hyd yn oed ar ôl y briodas doedd Ann ddim yn gallu caru Anthony Maddocks. Doedd ei garedigrwydd e na’i gyfoeth ddim yn gallu newid ei theimladau hi. Doedd dim chwant bwyd ar Ann yn ystod y dyddiau ar ôl y briodas. Roedd hi’n teimlo’n wan a diffrwyth. Roedd hi’n siarad yn ddiddiwedd am ei chariad tuag at Wil Hopcyn.

Roedd Wil Hopcyn wedi ysgrifennu cân i Ann,
“Bugeilio’r Gwenith Gwyn”;


“Myfi sydd fachgen ifanc ffôl,
Yn byw yn ôl fy ffansi,
Myfi’n bugeilio’r gwenith gwyn
Ac arall yn eu fedi;
Pam na ddeui ar fy ôl
Ryw ddydd ar ôl ei gilydd?
Waith ‘rwy’n dy weld y feinir fach
Yn lanach, lanach beunydd.”


Criodd Ann yn ddiddiwedd pan gofiodd y gân.


Gwanychodd Ann bob dydd achos doedd hi ddim yn gallu bwyta dim. Doedd dim nerth ganddi i godi o’i gwely hyd yn oed. Treuliodd ei mam ac Anthony Maddocks oriau yn ymyl ei gwely yn ceisio ei chysuro. Daeth meddygon i’w gweld, ond roedd y cyfan yn ofer. Wil Hopcyn oedd yr unig un a fyddai’n gallu ei gwella – ond roedd e wedi mynd i ffwrdd.


O’r diwedd, pan oedd Ann yn wael iawn, anfonodd ei mam neges ar frys at Wil Hopcyn i ofyn iddo ddod o Fryste i’r plasty i weld Ann. Daeth Wil Hopcyn ar ei union yr holl ffordd o Fryste i Gefn Ydfa a chyrraedd mewn pryd i ddal Ann yn ei freichiau.


Buodd Ann farw ym mreichiau Wil Hopcyn.


Mae bedd Ann i’w weld yn eglwys Llangynwyd.


Ganed Alun Ifans yn Sarn Bach, Pen Llŷn. Treuliodd ei yrfa yn dysgu yn Sir Benfro. Buodd yn brifathro Ysgol Casmael am 33 o flynyddoedd cyn ymddeol yn 2009.
Cyhoeddoedd nifer o lyfrau, yn eu plith:
Cyfres y Môr-ladron
Pediair Cainc y Mabinogi i Ddysgwyr
Macsen Wledig
Swyn Sir Benfro

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois