Ida Gaskin – N. M. Thomas

Ida Gaskin oedd enillydd benywaidd cyntaf Mastermind yn Seland Newydd.  Roedd hi hefyd yn wleidydd ac yn enwog am ei gwybodaeth eang a thrylwyr o waith William Shakespeare.

Ganwyd Ida Margaret Jacobs ym  Mhontardawe ym 1919.  Roedd ei thad, Edward, yn gweithio yn y diwydiant dur ond magwyd Ida yng nghyfnod y Dirwasgiad ac roedd e allan o waith gryn dipyn.  Golygai hyn bod arian yn brin ar yr aelwyd.  Dywedodd ei bod yn cofio ei mam yn methu mynd allan gan fod tyllau yn lledr uchaf ei hesgidiau.  Doedd dim ots p’un a fyddai tyllau yn y gwadnau achos doedd neb yn gallu gweld y rheiny.  Treuliodd Ida ei hamser yn darllen gweithiau Shakepeare tra bod ei brodyr yn chwarae cardiau.

Enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Llundain pan oedd yn un ar bymtheg oed.  Roedd yr ysgoloriaeth yn fwy na chyflog ei thad am flwyddyn.   Graddiodd gydag anrhydedd mewn Saesneg.  Hyfforddodd fel athrawes wedyn. Cafodd waith fel athrawes mewn ysgolion yn Llunain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Bomiwyd ei hysgol yn ystod y Blitz.  

Ar 11eg Medi 1946 mudodd i Seland Newydd ar y llong Rangitata.  Ar y rhestr teithwyr cofrestrir hi fel athrawes oedd yn byw yn 28 Grove Road, Abertawe.  (Dyma gyfeiriad ei theulu yng Nghofrestr 1939).

Cyfarfu â Victor Gaskin a’i briodi cyn symud i Havelock North ac yna i New Plymouth yn 1961.  Ganwyd pump o blant iddi.  Torrodd y briodas yn 1977.  

Dysgodd Saesneg yn New Plymouth Girls’ High School a modiwl ar Shakespeare yn y New Plymouth Boys’ High School.  Un o’i disgyblion oedd Andrew Little, Arweinydd y Blaid Lafur yn Seland Newydd.   Bu’n Llywydd ar Post Primary Teachers’ Association yn Seland Newydd.  

Ym 1983 cystadlodd ar Mastermind yn y wlad ac ennill.  Ei phwnc arbenigol oedd gwaith Shakespeare.  

Sosialydd oedd Ida a safodd fel ymgeisydd i’r Blaid Lafur yn etholiadau 1984.  Bu’n gynghorydd lleol hefyd yn New Plymouth.   Dywedodd “Mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth achos bod gen i ddiddordeb mewn pobl”.  

Cafodd ei hanrhydeddu yn 1997 yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Seland Newydd.  Cafodd hefyd Ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Waikato 2002 am ei chyfraniad i ddiwylliant.  

Bu farw ar 8fed Ionawr 2016 yn New Plymouth, Taranaki.  O glywed am ei marwolaeth, meddai Patrick Spottiswoode, Cyfarwyddwr Addysg Shakespeare’s Globe yn Llundain, 

“Fe’i gwyliais yn cyfareddu cynulleidfa o 500 o bobl ifanc. Codon nhw i’w chymeradwyo ar y diwedd.  Roedden nhw yn cydnabod ei gallu ond hefyd ei diffuantrwydd.”

Darllen pellach:

Wikipedia

Taranaki Daily News

Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.