Jano Elizabeth Davies – N. M. Thomas

Yn aml cyfeirir at Jano Elizabeth Davies fel Mrs Clement Davies.  Yn ôl traddodiad y cyfnod daeth yn adnabyddus yn enw ei gŵr, sef arweinydd y Blaid Ryddfrydol.

Ganwyd Jano yn Bow yn Llundain ar 3ydd Mai 1882.  Roedd ei mam, Margaret yn enedigol o Langwyryfon ger Aberystwyth.  Yng Nghyfrifiad 1881 mae Margaret yn byw yn Princess Street yn Aberystwyth gyda’i gŵr, David Julian.  Mae ganddynt fabi tri mis oed, Sarah.  Bu farw Sarah yn yr un flwyddyn. Ymddengys fod Margaret wedi mynd i Lundain pan oedd yn disgwyl Jano.   Ceir hyd i David wedyn yn 1884 allfudo i Awstralia.  Bu farw yn Hobart yn 1933.  Mae yna bapurau ysgariad yn Llundain sy’n dangos bod y briodas wedi gorffen ond pan briododd Margaret â’r meddyg Morgan Davies ym mis Mehefin 1890 fe’i rhestrwyd fel menyw ddi-briod – “spinster”.  

Yng nghyfrifiad 1891 mae’r teulu yn byw yn Aldgate a nodir Jane fel “Jane Julian” – llysferch Dr Davies.  Erbyn 1901 mae Jane yn y Brifysgol yn Aberystwyth ac yn defnyddio’r cyfenw Davies – ac yn byw yn Neuadd Alexandra ar lan y môr.  Roedd yn siarad Cymraeg yn rhugl a graddiodd mewn Astudiaethau Clasurol a Ieithoedd Modern.  Mae’n bosib mai yn Aberystwyth y cyfarfu â Clement Davies gan ei fod yn darlithio yno ar y pryd.  

Yng Nghyfrifiad 1911 mae Jane yn ymwelydd yng nghartref pianydd proffesiynol o’r enw Adile de Haas yn St Pancras.    Roedd Jano yn athrawes ddawnus ac erbyn iddi gyrraedd naw ar hugain oed hi oedd brifathrawes ieuengaf Ysgol Latymer.  Pan briododd Jano gydag Edward Clement Davies ym mis Awst 1913, yn unol â disgwyliadau’r cyfnod, gadawodd ei gyrfa fel athrawes. 

Ganwyd pedwar o blant i Jano a Clement – David yn 1915, Mary Eluned yn 1917,  Geraint yn 1918 a Stanley yn 1920.  Yn drasig bu farw’r tri pan oeddynt yn bedwar ar hugain oed. Roedd David yn dioddef o epilepsi.  Roedd Mary Eluned a Geraint yn gwasanaethu yn y Rhyfel – Mary yn yr ATS a Geraint yn y Welsh Guards.  Cymerodd Mary ei bywyd a bu farw Geraint mewn damwain car.   Claddwyd nhw ym mynwent Meifod. 

Ym 1929 etholwyd ei gŵr yn aelod seneddol Maldwyn – a chadwodd ei sedd gydol ei fywyd.  Arweiniodd y Blaid Rhyddgrydol rhwng 1945 a 1956.  Roedd Jano yn gefn mawr iddo – ac yn ddawnus wrth siarad yn gyhoeddus.  Fe’i disgrifir yn areithwraig bwerus – a bu hefyd yn brwydro dros hawliau menywod.  Cefnogodd bob agwedd ar waith ei gŵr.  Mewn sgwrs gydag Emlyn Hooson mynegodd Stanley, mab Jano, er bod ei fam bob amser yn ymddangos yn gyfforddus yng nghwmni gwleidyddion, roedd yn llawer gwell ganddi fod yng nghwmni cyfreithwyr.  

Rhannodd ei hamser rhwng Llundain a Phlas Dyffryn, Meifod. Yn y Western Mail ym Mehefin 1938 mae yna hanes iddi eistedd ar bwyllgor y Cymmrodorion yn Llundain.  Yn ôl yr erthygl mi gynigodd gynnal cyngerdd yn ei chartref  – “she offered the use of her drawing room which accommodates 130 people at Vicarage Gate, Kensington”.  Yng Ngofrestr 1939 nodir ei bod yn aros yn y Great Western Royal Hotel yn Praed Street, Llundain.  Ym mis Chwefror y flwyddyn honno hwyliodd hi a’i mab Geraint i Madeira.   Bu farw ei mab David y flwyddyn honno ac yn ôl yr hanes, roedd Jano yn siopa yn y Trallwng pan ddaeth y newyddion.  Aeth hi a Clement yn syth i Lundain – gan mai dyna lle roedd David yn byw ar y pryd.  

Tynnwyd lluniau o Clement a Jano ym Mhlas Dyffryn gan Geoff Charles ar 6ed Ebrill 1940.  

Roedd yn amlwg yn ffigur cyhoeddus.  Pan oedd yn ddifrifol wael mewn cartref nyrsio yn 1949 adroddodd y Western Morning News ei bod hi ar wella – a hynny ar y dudalen flaen.  Bosib mai cyfeiriad yma sydd at yr ail dro lle chwalodd nerfau Jano.  Daeth y tro cyntaf cyn iddi briodi – ac awgrymir o bosib mai pwysau ei swydd oedd yn gyfrifol.

Yn 1942 apwyntiwyd Jano Clement Davies yn aelod o banel oedd yn gyfrifol am awgrymu sut y dylid ail-adeiladu Cymru ar ôl y rhyfel.  Yn yr erthygl nodir ei bod hi’n actores addawol pan oedd yn y Brifysgol yn Aberystwyth a’i bod hi hefyd yn eistedd ar bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn 1950 cofrestrir y ddau yn Evelyn Mansions yn Carlisle Place yn Llundain.  

Bu Clement Davies yn brwydro gydag alcoholiaeth a bu farw ym mis Mawrth 1962 mewn clinig yn Llundain.  Bu farw Jano Clement Davies ar 27 Rhagfyr 1969.  

Darllen pellach:

https://liberalhistory.org.uk/wp-content/uploads/2014/10/24_hooson_clement_davies.pdf

www.bywgraffiadur.cymru

https://www.latymer.co.uk/static/LatymerLink/Issue-46/files/assets/common/downloads/publication.pdf

https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/clement-davies-liberal-leader-alun-2466771

http://search.digido.org.uk/?id=llgc-id%3A1469928&query=*&query_type=full_text&page=1&qf=subject_lctgm_topic%3ALegislators

Western Mail 1 July 1942

Western Morning News 7 Nov 1949

Journal of Liberal Democrat History Issue 24 Autumn 1999

Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.