Nina Hamnett – E. Lois

Nina Hamnett – ‘Brenhines Bohemia’

Roedd Nina Hamnett yn artist ac ysgrifennwr Cymreig, ac yn cael ei hadnabod fel ‘The Queen of Bohemia’.

Ganwyd Nina Hamnett ar y 14eg o Chwefror 1890 yn Ninbych-y-Pysgod. Mynychodd Ysgol Gelf Pelham, ac yna Ysgol Gelf Llundain tan 1910. Yn 1914 aeth hi i Baris i astudio yn Academi Marie Vassilieff.

Pan oedd hi’n astudio yn Llundain, mi ddaeth yn ffrindiau ag Olivia Shakespear, Ezra Pound a Roger Fry. Modelodd hi ar gyfer cerfluniau efydd Henri-Gaudier-Brzeska yn ystod y cyfnod hwn hefyd.

Ym Mharis, mi ddaeth i adnabod Amedeo Modigliani, Pablo Picasso, Serge Diaghilev a Jean Cocteau, yn ogystal â Roald Kristian, y dyn y byddai hi’n ei briodi.

Roedd hi’n gymeriad tanbaid, yn ddeurywiol, ac yn yfed llawer. Roedd llawer o gariadon ganddi o fewn y gymuned artistaidd, a dechreuodd hi fodelu ar gyfer llawer o artistiaid yn ystod ei chyfnod ym Mharis.

Symudodd yn ôl i Lundain, lle bu hi’n addurno deunydd a chreu dillad, murluniau, celfi a charpedi yn y Gweithdai Omega, oedd yn cael eu rhedeg gan Roger Fry, Vanessa Bell (chwaer Virginia Woolf) a Duncan Grant, o’r grŵp Bloomsbury.

Wedi i’w phriodas â Roald Kristian ddod i ben, dechreuodd hi berthynas â’r cyfansoddwr E. J. Moeran.

O ganol yr 1920au hyd at yr Ail-Ryfel Byd, mi fyddai hi’n mynychu y ‘Fitzroy Tavern’ yn Fitzrovia, Llundain, a fynychid hefyd gan Augustus John a Dylan Thomas.

Yn 1932, rhyddhawyd ei llyfr cyntaf ‘Laughing Torso’, sef hanes ei bywyd Bohemaidd. Aeth Aleister Crowley â hi i’r llys am ei enllibo yn y llyfr, trwy ddweud ei fod yn defnyddio y gelfyddyd ddu, ond ennillodd hi’r achos.

Serch hyn, effeithiodd yr achos enllib arni, a threuliodd ei blynyddoedd olaf yn ddibynnol ar alcohol.

Bu farw yn 1956 o gymlethdodau yn dilyn ei chwymp o 40 troedfedd i ffens o ffenest ei fflat. Mae’n debyg mai ei geiriau olaf oedd “Why don’t they let me die?”




DARLLEN PELLACH:

Nina Hamnett : Queen of Bohemia | Denise Hooker (Constable, 1986)

Ezra Pound in London and Paris, 1908 – 1925 | J. J. Wilhelm (Pennsylvania State University Press, 2010)

Rhys Davies : A Writer’s Life | Meic Stephens (Parthian Books, 2013)

Omega Workshops – http://library.vicu.utoronto.ca/exhibitions/bloomsbury/omega.htm

Red Flame : Nina Hamnet (1890-1956) – https://web.archive.org/web/20040626210053/http://www.modjourn.brown.edu/mjp/Image/Hamnet/Hamnet.htm

E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *