Tanglwyst Ferch Glyn – E. Lois

TANGLWYST FERCH GLYN Roedd Tanglwyst Ferch Glyn yn fenyw a oedd yn byw yn anghyfreithlon gyda dyn o’r enw Thomas Wyriott yn 1496. Cawsant eu galw o flaen Esgob Tyddewi, John Morgan, a chyffesodd y ddau i’w trosedd. Roedd gŵr Tanglwyst a gwraig Thomas yn dal yn fyw, felly argymhellodd yr Esgob eu bod nhw’n dychwelyd at eu partneriaid cyfreithlon. Yn amlwg, prin oedd effaith geiriau’r...

Lucy Walter – E. Lois

Ganwyd Lucy Walter tua’r flwyddyn 1630, yng Nghastell y Garn, ger Hwlffordd, i deulu o foneddigion Cymreig o Sir Benfro.  Yn 1644, cipwyd Castell Roch oddi wrth ei theulu, ac aeth Lucy Walter i chwilio lloches yn Llundain, lle aeth hi ar long i’r Hague.   Yno, mae’n debyg iddi gwrdd â Charles II (oedd yn “Dywysog Cymru” bryd hynny), oedd yn aros yn yr Hague am gyfnod byr...

Jane Brereton (Melissa) – E. Lois

Ganwyd Jane Brereton yn 1685, yn ail ferch i Ann a  Thomas Hughes o Fryn-Griffith, ger y Wyddgrug yn Sir y Fflint. Mi dderbyniodd addysg nes ei bod hi’n 16, oedd yn anghyffredin ar gyfer y cyfnod. Bu farw ei thad tua’r flwyddyn 1701. Yn 1711, mi briododd Thomas Brereton o Rydychen. Ganwyd dau fab a dwy ferch iddynt. Cafodd Thomas Brereton yrfa lenyddol yn Llundain, yn cyhoeddi...

Ann Gam – N. M. Thomas

Yn yr Eglwys Gadeiriol yn Aberhonddu mae yna feddrod trawiadol o wraig yn gorwedd sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg. Cofeb i’r teulu Gam (neu Games) ydyw – ond mae gwybod yn union pwy yw hon yn ddirgelwch. Gallasai fod yn Anne, gwraig i John Gam – neu o bosib ei merched-yng- nghyfraith - Marged Bodenham, gwraig I William Gam neu Elinor Morgan, gwraig Thomas Gam. Disgynyddion oedd...

Alis ferch Gruffudd – G. Saunders Jones.

Prydyddes oedd Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan o Henllan, Sir Ddinbych, a gan mai maes tameidiog a bylchog yw byd prydyddesau Cymraeg y Cyfnod Modern Cynnar, tasg anodd yw gwybod i sicrwydd pryd y cafodd ei geni, ond gellir awgrymu oddeutu 1520. Yr oedd yn ferch i Sioned, a oedd yn dod o deulu enwog y Mostyniaid, teulu a oedd yn chwarae rhan flaenllaw wrth hybu’r...