Tanglwyst Ferch Glyn – E. Lois

TANGLWYST FERCH GLYN

Roedd Tanglwyst Ferch Glyn yn fenyw a oedd yn byw yn anghyfreithlon gyda dyn o’r enw Thomas Wyriott yn 1496. Cawsant eu galw o flaen Esgob Tyddewi, John Morgan, a chyffesodd y ddau i’w trosedd. Roedd gŵr Tanglwyst a gwraig Thomas yn dal yn fyw, felly argymhellodd yr Esgob eu bod nhw’n dychwelyd at eu partneriaid cyfreithlon.

Yn amlwg, prin oedd effaith geiriau’r Esgob, gan fod Thomas Wyriott a Tanglwyst Ferch Glyn yn dal i fyw gyda’i gilydd ddwy flynedd yn ddiweddarach.

O ganlyniad i hyn, penderfynodd yr Esgob gymryd Tanglwyst a’i chadw yn ei gastell yn Llawhaden.

Pan glywodd Tomos am hyn, casglodd tua 24 o ddynion a thorri i mewn i’r castell gyda’r nos, a chipio Tanglwyst a mynd â hi adre gydag ef. Gadawodd Tomos ei wraig, a phan fu farw hi ymhen rhywfaint o amser, roedd y bobl leol yn credu mai Tanglwyst oedd wedi ei rheibio hi.

Pan gafodd yr Esgob wybod am hyn, aeth â Tanglwyst i’r ddalfa yn y castell am yr ail dro. Aeth Thomas Wyriott ato, yn gofyn am bardwn a chyhoeddi na fyddai byth yn ymwneud â Tanglwyst fyth eto. Anfonwyd Tanglwyst allan o’r esgobaeth, ac aeth i Fryste, lle cyflogodd hi wrach o’r enw Margaret Hackett i roi cymorth iddi gael gwared â’r Esgob drwy wrachyddiaeth.

Daeth Tanglwyst yn ôl i Sir Benfro, â Margaret gyda hi. Yn nhŷ Thomas, bu’r ddwy yn creu delwau, a wedi i hyn fethu â dinistrio’r esgob, anfonon nhw am wrach arall oedd yn fwy profiadol na nhw. Creodd y tair fwy o ddelwau er mwyn ceisio rheibio John Morgan. Pan glywodd yr Esgob am hyn, ceisiodd ei chymryd i’r ddalfa eto.

Ceisiodd Tanglwyst ddianc i Fryste, ond gyrrwyd hi nôl i’r Esgob. Llwyddodd Thomas Wyriott i’w chadw o afael yr Esgob, felly gofynnodd yr Esgob i’r achos fynd o flaen Cwrt Siawnsri yn lle, a felly y bu.

Yn y llys, dywedodd Tanglwyst nad oedd unrhyw wirionedd yn y cyhuddiadau o wrachyddiaeth yn ei herbyn, ac nad oedd hi’n euog o fod yn wrach. Cyfaddefodd ei bod wedi godinebu, ond dywedodd mai mater i’r llys ysbrydol oedd ei hachos hi, a gofynnodd am gael ei rhyddhau.

Bu farw’r Esgob John Morgan yn 1504.



Darllen Pellach:

Gwrachod Cymru – Eirlys Gruffydd (p.28-30)




E. Lois yw arlunydd Prosiect Drudwen, Rhithganfyddiad a phrosiect #GwrachodCymru, ymhlith pethau eraill. Mae hi ar Instagram fel @efalois a Twitter fel @efalois



TANGLWYST FERCH GLYN

Tanglwyst Ferch Glyn was a woman who lived illegally with a man called Thomas Wyriott in 1496. They were called to speak to the Bishop of St David’s, John Morgan, and both confessed their sin to him. As Thomas’ wife and Tanglwyst’s husband were still alive, the Bishop recommended that they both returned to their legal partners. 

The Bishop’s words obviously didn’t affect them very much, as two years later Thomas and Tanglwyst were still living together. As a result of this, the Bishop took Tanglwyst and kept her in his castle in Llawhaden. 

When Thomas heard of this, he gathered some 24 men, and broke into the castle during the night. He took Tanglwyst home with him. Thomas left his wife, and when she died some time later, Tanglwyst was accused of cursing her to die. 

When the Bishop heard of this, he took Tanglwyst to prison for a second time. Thomas Wyriott approached him, asking for a pardon and declaring that he would never involve himself with Tanglwyst ever again. 

Tanglwyst was banished from the Diocese, and she went to Bristol, where she employed a witch called Margaret Hackett to give her advice on how to rid herself of the Bishop through witchcraft.   

Tanglwyst returned to Pembrokeshire, and brought Margaret with her. Both spent time making figures of the Bishop, and when these failed to destroy the Bishop, they sent for another more experienced witch. The three women created more figures of the Bishop. When the Bishop heard of this, he attempted to imprison her a third time.

Tanglwyst attempted to flee to Bristol, but she was sent back to the Bishop. Thomas Wyriott successfully managed to keep Tanglwyst away from the Bishop, so the Bishop asked that the hearing take place in the court in Chancery.

In court, Tanglwyst declared that there was no truth in the accusations of witchcraft against her, and she was not guilty of being a witch. She admitted that she had committed adultery, but said that her sin was a matter to be settled with the spiritual court, and she asked to be released. 

The Bishop John Morgan died in 1504.



Further Reading:
Gwrachod Cymru – Eirlys Gruffydd (p.28-30)




E. Lois is the illustrator of Prosiect Drudwen, Rhithganfyddiad and the #GwrachodCymru project. She is on Instagram as @efalois and Twitter as @efalois