Brenda Chamberlain

Llenor, bardd, ac arlunydd oedd Brenda Chamberlain a aned ar 17 Mawrth 1912 ym Mangor. Ers pan oedd yn blentyn, gwyddai mai bod yn artist oedd ei bwriad ym mywyd, ac aeth i astudio celf yn y Royal Academy of Arts yn Llundain. Dychwelodd wedyn i fyw yn Llanllechid, gan sefydlu gwasg fechan, Caseg Press, gyda’i gŵr, John Petts, lle’r oeddent yn argraffu cyfresi o gerddi darluniedig mewn cydweithrediad â’r bardd Alun Lewis, ymysg darnau bychain eraill. Ysgarodd y ddau yn 1943. Enillodd hi’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain ddwywaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1951 ac 1953. Bu hi’n byw bywyd tawel o’r neilltu ar y cyfan, a bu’n byw am gyfnod ar Ynys Enlli am bymtheg blynedd, ac yna yn 1962, bu’n byw ar ynys Hydra yng Ngwlad Groeg, cyn dychwelyd eto i Gymru yn 1969. Bu farw yn 1971. Dangoswyd ei gwaith yn aml yn ystod ei bywyd, a chyhoeddodd nifer o lyfrau o gerddi a rhyddiaith fel ei gilydd.



Fel un a fu fyw ar ynysoedd ac a hudwyd gan y môr, treiddiodd yr arfordir i’w gwaith hi. Ceir ganddi bwyslais morol yn aml, a bron na ellir canfod rhythm a grym y llanw yn ei darluniau ac yn ei geiriau. Mae yn sicr ansawdd dyfrol i’w gwaith hi, hyd yn oed pan fydd yn trafod y mewndiroedd, ac yn hyn o beth, mae hyd heddiw ryw newydd-deb ynglŷn ag e. Bydd y dyfroedd yn ymglymu â rhyw ymdeimlad o bellter a cholled yn ei chelf, a dichon fod y rhain yn deillio o’r rhwygiadau yn ei bywyd a’r unigedd a brofodd o bryd i’w gilydd. Gwelir hyn gliriaf efallai yn ei llyfr A Rope of Vines a ail-gyhoeddwyd yn weddol ddiweddar yn y gyfres Library of Wales, gan wasg Parthian. Cyfunir ei rhyddiaith ysgafn ond trawiadol â darluniau inc ganddi, ac mae eu moelni ymddangosiadol yn wrthbwynt diddorol i huodledd synhwyrol y geiriau.


Mae hi’n nodedig am ei benywaidd-dra gweithredol ac eofn nad yw’n ufuddhau i ddisgwyliadau diflas ynghylch rôl y fenyw, wrth iddi deithio’n eiddgar ac encilio yn aml rhag y byd. Mynnodd ei llwybr ei hun, er y gallai hynny fod yn anodd, ac er ei diwedd trist, a hithau yn y pen draw yn cyflawni hunan-laddiad, mae hi’n gadael gwaith hynod fywiog sy’n dysteb i’w hysbryd mentrus hi. Gwrthododd ferfeiddio; gwrthododd ildio i hunanfodlonrwydd a diflastod. Creodd gelf o fyd cyfnewidiol y llanw a’r trai a welai o’i hynysoedd, ac mae Cymru’n gyfoethocach o’i herwydd.