Angharad Rees – E. Lois

Ganwyd Angharad Mary Rees ar y 16eg o Orffennaf 1944, yn Ysbyty Redhill yn Middlesex. Roedd hi’n ferch i’r seicolegydd Cymreig Linford Rees, a’i wraig Catherine Thomas.

Pan oedd hi’n 2 mlwydd oed, symudodd y teulu i Gaerdydd. Mynychodd yr ysgol annibynol yn Commonweal Lodge, ac yna’r Sorbonne ym Mharis. Yna mynychodd Coleg Drama Rose Bruford yng Nghaint. Astudiodd ym Mhrifysgol Madrid, a threuliodd gyfnod yn dysgu Saesneg yn Sbaen, cyn dychwelyd i actio yn Lloegr.

Ymddangosodd ar y teledu gyntaf mewn addasiad o’r llyfr ‘Man and Superman’, gan  Bernard Shaw, gyda Eric Porter a Maggie Smith.

Perfformiodd fel merch i Winston Churchill yn ‘The Gathering Storm’ (1974) ac fel Celia yn ‘As You Like It’ gyda Helen Mirren (1978). Ymddangosodd fel merch Jack the Ripper yn ‘Hands of the Ripper’ (1971), ac yn y fersiwn ffilm enwog o ‘Under Milk Wood’ gyda Richard Burton, Peter O’Toole ac Elizabeth Taylor (1972).

Yn 1973, priododd Christopher Cazenove. Ganwyd dau fab iddynt, Linford a Rhys.

Rhwng 1975 a 1977 actiodd fel Demelza, prif ran y ddrama BBC ‘Poldark’. Ymddangosodd mewn pob rhaglen oni bai am yr un gyntaf.

Wedi marwolaeth ei mab yn 1999, gadawodd y byd actio, a dechreuodd ffocysu ar ddylunio gemwaith. Roedd ei chwmni, Angharad, yn Knightsbridge yn Llundain. Ymddangosodd rhai o’i dyluniadau yn y ffilm ‘Elizabeth: The Golden Age’ (2007)

Ar y 29ain o Ebrill 2005, priododd â Sir David McAlpine.


Bu farw Angharad Rees ar y 21ain o Orffennaf 2012, o gancr. Roedd hi’n 68 mlwydd oed.

Roedd hi’n gymrawd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, ac mae tafarn wedi ei enwi ar ei hôl hi ym Mhontypridd.






Darllen Pellach:

https://www.theguardian.com/tv-and-radio/2012/jul/22/angharad-rees

https://www.theguardian.com/news/2004/aug/13/guardianobituaries.obituaries

https://www.telegraph.co.uk/news/obituaries/culture-obituaries/tv-radio-obituaries/9419043/Angharad-Rees.html

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/445161.stm

https://www.bbc.co.uk/news/uk-18940018

https://www.telegraph.co.uk/news/celebritynews/9571643/Downton-Abbey-creator-Julian-Fellowes-leads-tributes-to-Angharad-Rees.html

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-18944657

The Women of Hammer Horror: A Biographical Dictionary and Filmography – Robert Michael “Bobb” Cotter p.158 

Obituaries in the Performing Arts, 2012 – Harris M. Lentz III The Encyclopedia of British Film: Fourth Edition – Brian McFarlane, Anthony Slide p.637

Casting About – David Graham. P.174




E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.