Mary Eleanor Gwynne Holford – N. M. Thomas

Pan gyfarfu Mrs Gwynne Holford â’r milwr F. W. Chapman ym 1915 daeth i benderfyniad a fyddai’n newid bywydau. Doedd y Rhyfel Mawr ond megis dechrau ond pan aeth Mrs Gwynne Holford i’r ysbyty milwrol gwelodd dros ei hun sut oedd rhai milwyr wedi eu hanafu. Penderfynodd yn y fan a’r lle y byddai’n agor ysbyty lle gallai gwyddoniaeth a thechnoleg helpu’r rhai oedd wedi colli breichiau neu goesau.

Ynghyd â chefnogwyr eraill aeth ati i chwilio am leoliad ar gyfer yr ysbyty. Roedd Plas Roehampton yn ne Llundain wedi ei roi gan y perchennog at ddefnydd rhyfel. Ymhen pum mis roedd Mrs Gwynne Hughes wedi llwyddo i agor y Queen Mary Auxiliary Hospital gyda chefnogaeth y Frenhines Mary. I ddechrau roedd yna 200 o welyau ond erbyn diwedd 1917 roedd dros 11,000 o gleifion wedi cael triniaeth yno. Daeth yr ysbyty yn enwog fel yr “human repair factory”. Mae’r gwaith yma yn parhau yn yr ardal.

Priododd Mary Eleanor â J. P. W. Gwynne Holford o Blas Buckland, Brycheiniog a Chilgwyn, Sir Gaerfyrddin yn Llundain yn 1891. Mae yna ddisgrifiad manwl iawn o’r seremoni yn y Western Mail ar 15fed Ebrill 1891 – gyda’r briodferch yn gwisgo breichled diemwnt anferth a oedd, mae’n debyg, yn rhodd briodas gan bobl Aberhonddu.

Roedd gan Mary Eleanor gydwybod cymdeithasol oedd yn ei harwain i eisiau newid y byd er gwell i bobl. Mae yna hanes yn y Brecon County Times yn 1914 amdani yn agor drysau Buckland House i ffoaduriaid o Wlad Belg.

Mae Ward Gwynne Holford yn bodoli o hyd yn Ysbyty’r Frenhines Mary yn Roehampton yn gydnabyddiaeth am gyfraniad Mrs Gwynne Holford i feddyginiaeth brosthetig.



Darllen pellach:

https://blog.maryevans.com/2013/09/

http://newspapers.library.wales

http://www.menywodarhyfel.cymru

https://www.bucklandhall.co.uk/take-look-inside/history/

https://vad.redcross.org.uk

http://www.55fst-

ramc.org.uk/FRONT%20PAGES%20FST/FP_DOCUMENTS/DOCUMENTS_DATA/Blast%20Injury/Queen%20Mary%27s%20Roehampton.pdf



Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.