Ella Richards – N. M. Thomas

Yng Nghapel Soar, Llambed, mae yna gofeb i’r rhai o’r capel a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Ar frig y rhestr mae enw Ella Richards. Nyrs oedd Ella a dreuliodd dair blynedd a hanner yn gwasanaethu y Groes Goch. Mae’n debyg mai hi oedd un o’r rhai cyntaf i fynd fel nyrs i’r Rhyfel o’r ardal pan ymunodd â’r 1af o Fehefin 1915.


Cafodd ei geni yn blentyn i Timothy a Hannah Richards o Ardwyn, Bridge Street. Roedd yn un o bump o blant, a’r ferch hynaf yn y teulu. Roedd yn aelod ffyddlon o Ysgol Sul Soar, Llambed. Cafodd ei hyfforddi fel V.A.D (Voluntary Aid Detachment) gan Mrs Bankes Price o Dole, Cadeirydd Cymdeithas y Groes Goch. Roedd yna Ysbyty’r Groes Goch yn Aberaeron.


Yn y Carmarthen Journal ym mis Rhagfyr 1915 nodwyd bod yna noswaith wedi’i chynnal yng Nghapel Soar lle darllenwyd llythyron gan nifer o bobl oedd wedi gadael am y Rhyfel. Yn eu plith roedd llythyron gan Ella a Gladys Rees oedd ar y pryd yn hyfforddi yn Ysbyty Whalley, Swydd Gaerhirfryn.

Ar ôl cyfnod yn Ffrainc fe’i danfonwyd i Salonika ym mis Mai 1918. Yn ei gwaith The Nurse’s War: The Red Cross in Salonika in WW1 mae Loretta Proctor yn cyfeirio at lythyron a ddarganfu a ysgrifennwyd gan Ella. Yn y llythyron mae hi’n disgrifio pa mor oer oedd hi yno – a sut byddai’n rhaid golchi dillad mewn dŵr oer pan nad oedd yna olew ar ôl – gan fod disgwyl i nyrsus edrych yn drwsiadus bob amser. Yn y llythyron mae hi hefyd yn gofyn am bethau bach o adre – pethau fyddai’n gwneud cryn wahaniaeth i’w bywyd ond pethau syml iawn fel lastig, taffi, crib, llythrau ac eli croen.

Roedd disgwyl iddi dychwelyd i Gymru pan aeth yn sâl gyda ffliw a niwmonia. Bu farw ar 14eg Hydref 1918 yn y 64 th General Hospital yn Salonika. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Mikra, Kalamaria, Thessaloniki. (Bedd 542)

Yn y Cambrian News ar y 18fed Gorffennaf 1919 cyhoeddwyd erthygl yn nodi y sonniwyd amdani mewn adroddiadau: “mentioned in despatches for distinguished service and devotion to duty.”

Ar nos Fercher 30ain Ebrill 1919 dadorchuddiwyd llun o Ella mewn noson arbennig yn adeilad Sefydliad y Merched yn Llambed. Siaradodd sawl un amdani, gan gynnwys y Parchedig Evan Evans, Soar – oedd wedi ei hadnabod ers iddi gael ei geni – ac a oedd yn adnabod ei rhieni a’i thadcu a’i mamgu. Nodwyd ei bod yn berson oedd yn falch o gael gwasanaethu eraill. Codwyd cofeb iddi hefyd yng Nghapel Soar gan aelodau’r Ysgol Sul ac mae ei henw ar y gofeb Rhyfel yn Llambed.



Darllen pellach:

http://www.menywodarhyfel.cymru/uploads/waw_ww1_nursing_e.pdf

http://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3678942/4

www.womenandwar.wales

http://newspapers.library.wales/view/3679373/3679376/32/richards%20AND%20ella




Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.