Mary Jane Innes – E. Lois

Ganwyd Mary Jane Innes yn Llanfaches, Casnewydd ar y 18fed o Ebrill 1852.

Wedi marwolaeth ei rhieni yn 1870, symudodd gyda’i brawd a’i chwaer, a gwraig ei brawd, i Seland Newydd.

Cyrhaeddodd y teulu Auckland, Seland Newydd yn mis Hydref 1870, ar y llong Asterope. Wrth iddynt chwilio am rywle i fyw, aethant i Ngaruawahia. Yno, cyfarfu Mary Jane â Charles Innes, Albanwr oedd dros 20 mlynedd yn hŷn na hi.

Priododd y ddau ar y 30ain o Ebrill 1874 yn Auckland. Rhai blynyddoedd ynghynt roedd Charles wedi sefydlu bragdy yn Ngaruawahia, ond oherwydd morgais fawr a’r boblogaeth leol fechan, doedd y bragdy ddim yn gwneud digon o elw, ac aeth yn fethdalwr.

Wedi iddynt briodi, penderfynodd y cwpl symud i Te Awamutu. Derbyniodd Charles gymorth ariannol gan Mary Jane i agor bragdy newydd. Cofrestrwyd y safle yn ei henw hi o’r flwyddyn 1875 ymlaen. Yn 1875, ganwyd y cyntaf o ddeg o blant Mary Jane a Charles.


Yn mis Hydref 1888, aeth Charles yn fethdalwr unwaith yn rhagor. Yn fuan wedi hyn, cyhoeddwyd mai Mary Jane oedd bellach yn rheoli Bragdy Te Awamutu, yn bragu’r cwrw ac yn cynhyrchu dŵr pefriog.

Daeth ei sgiliau rhedeg busnes i’r amlwg pan gyhoeddodd ym mis Tachwedd 1889 ei bod wedi cychwyn rheoli Bragdy Waikato hefyd. Prynodd y teulu’r bragdy, a symud i Hamilton. Yn anffodus, yn mis Ebrill 1897, difethwyd y bragdy gan dân enfawr, ond daliodd Mary Jane ati.

Sefydlodd fragdy arall ar ddarn o dir oedd yn eiddo i Charles, ac erbyn 1898, roedd adeilad newydd yn sefyll ar y safle.

Yn 1899, bu farw Charles. Talodd Mary Jane ei holl ddyledion, a daeth i fod yn brif berchennog bragdy Waikato.

Bu farw yn Auckland ar y 14eg o Dachwedd 1941, yn 89 mlwydd oed.

Yn 2013, cafodd ei derbyn i’r ‘New Zealand Business Hall of Fame’.



Darllen Pellach:

TEARA: Encyclopedia of New Zealand – Mary Jane Innes: https://teara.govt.nz/en/biographies/2i1/innes-mary-jane

Mary Jane Innes – A Lady in the Brewing Business: http://waikatomuseum.co.nz/explore/our-stories/immigrants-and-settlers/mary-jane-innes-a-lady-in-the-brewing-business/

Hamilton News – Soft Drink Empire Founder Inducted: https://www.nzherald.co.nz/hamilton-news/news/article.cfm?c_id=1503366&objectid=11107037

Female Entrepreneur in a Man’s World – Maria Slade: http://www.stuff.co.nz/business/better-business/8730246/Female-entrepreneur-in-a-mans-world

New Zealand Business Hall of Fame – Mary Jane Innes: http://www.businesshalloffame.co.nz/past-laureates/innes-mary/



E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.