
Mary Jane Innes – E. Lois
Ganwyd Mary Jane Innes yn Llanfaches, Casnewydd ar y 18fed o Ebrill 1852. Wedi marwolaeth ei rhieni yn 1870, symudodd gyda’i brawd a’i chwaer, a gwraig ei brawd, i Seland Newydd. Cyrhaeddodd y teulu Auckland, Seland Newydd yn mis Hydref 1870, ar y llong Asterope. Wrth iddynt chwilio am rywle i fyw, aethant i Ngaruawahia. Yno, cyfarfu Mary Jane â Charles Innes, Albanwr oedd dros 20 mlynedd...