Katherine Bowen – E. Lois

KATHERINE BOWEN Roedd Katherine Bowen yn fenyw o ardal Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro. Nid oes llawer o’r papurau o’i hachos llys yn bodoli bellach, ond mae yna ddogfen sy’n datgan fod Katherine ‘drwy anogaeth y Diafol wedi defnyddio’r gelfyddyd gythreulig a elwir yn rheibio, cyfareddu, swyno a dewino yn Gumfreston ar Fehefin y pymthegfed ar hugain 1607.’ Dywedir ei bod wedi rheibio...

Tanglwyst Ferch Glyn – E. Lois

TANGLWYST FERCH GLYN Roedd Tanglwyst Ferch Glyn yn fenyw a oedd yn byw yn anghyfreithlon gyda dyn o’r enw Thomas Wyriott yn 1496. Cawsant eu galw o flaen Esgob Tyddewi, John Morgan, a chyffesodd y ddau i’w trosedd. Roedd gŵr Tanglwyst a gwraig Thomas yn dal yn fyw, felly argymhellodd yr Esgob eu bod nhw’n dychwelyd at eu partneriaid cyfreithlon. Yn amlwg, prin oedd effaith geiriau’r...

Brenda Chamberlain

Llenor, bardd, ac arlunydd oedd Brenda Chamberlain a aned ar 17 Mawrth 1912 ym Mangor. Ers pan oedd yn blentyn, gwyddai mai bod yn artist oedd ei bwriad ym mywyd, ac aeth i astudio celf yn y Royal Academy of Arts yn Llundain. Dychwelodd wedyn i fyw yn Llanllechid, gan sefydlu gwasg fechan, Caseg Press, gyda’i gŵr, John Petts, lle’r oeddent yn argraffu cyfresi o gerddi darluniedig mewn...

Mary King Sarah – E. Tomos

Mae stori arbennig Mary King Sarah yn dangos y cysylltiadau agos a fodolai ymysg cymunedau chwarelyddol yng Nghernyw, yr UDA ac yng ngogledd Cymru yn ogystal â’r traddodiad cerddorol gref a ffynnai ar draws y bröydd llechi. Fe’i ganed yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle ym 1885 ac er bod ei henw yn ymddangos fel enw llwyfan, dyma oedd ei henw bedydd. Roedd ei nain a’i thaid ar ochr ei thad,...

Thereza Dillwyn Llewelyn – E. Lois

Ganwyd Thereza Dillwyn Llewelyn yn 1834 ym Mhenllergaer yn Abertawe. Roedd ei thad, John Dillwyn Llywelyn, yn ffotograffydd ac yn fotanegydd. Roedd ei theulu’n ymwneud llawer â maes ffotograffiaeth wyddonol. Roedd ei modryb, Mary Dillwyn, yn un o’r ffotograffwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru. Roedd hi’n gyfnither i Amy Dillwyn. Datblygodd Thereza ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a...

Margaret Lindsay Williams – N. M. Thomas

Ganwyd Margaret yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1888.  Roedd ei thad yn ddyn busnes ym myd y llongau a bu’n byw am gyfnod yn Windor Road yn y Barri. Cafodd ei haddysgu adref cyn iddi fynd i Goleg Technegol Caerdydd/ Ysgol Gelf Caerdydd lle enillodd Fedal Aur am ei Chelf yn 1904. Aeth wedyn i’r Pelham School of Art yn Kensington am flwyddyn cyn ymuno â’r Academi Brenhinol ym 1906....

Lucy Walter – E. Lois

Ganwyd Lucy Walter tua’r flwyddyn 1630, yng Nghastell y Garn, ger Hwlffordd, i deulu o foneddigion Cymreig o Sir Benfro.  Yn 1644, cipwyd Castell Roch oddi wrth ei theulu, ac aeth Lucy Walter i chwilio lloches yn Llundain, lle aeth hi ar long i’r Hague.   Yno, mae’n debyg iddi gwrdd â Charles II (oedd yn “Dywysog Cymru” bryd hynny), oedd yn aros yn yr Hague am gyfnod byr...

Angharad Rees – E. Lois

Ganwyd Angharad Mary Rees ar y 16eg o Orffennaf 1944, yn Ysbyty Redhill yn Middlesex. Roedd hi’n ferch i’r seicolegydd Cymreig Linford Rees, a’i wraig Catherine Thomas. Pan oedd hi’n 2 mlwydd oed, symudodd y teulu i Gaerdydd. Mynychodd yr ysgol annibynol yn Commonweal Lodge, ac yna’r Sorbonne ym Mharis. Yna mynychodd Coleg Drama Rose Bruford yng Nghaint. Astudiodd ym...

Mary Eleanor Gwynne Holford – N. M. Thomas

Pan gyfarfu Mrs Gwynne Holford â’r milwr F. W. Chapman ym 1915 daeth i benderfyniad a fyddai’n newid bywydau. Doedd y Rhyfel Mawr ond megis dechrau ond pan aeth Mrs Gwynne Holford i’r ysbyty milwrol gwelodd dros ei hun sut oedd rhai milwyr wedi eu hanafu. Penderfynodd yn y fan a’r lle y byddai’n agor ysbyty lle gallai gwyddoniaeth a thechnoleg helpu’r rhai oedd wedi colli breichiau...

Ella Richards – N. M. Thomas

Yng Nghapel Soar, Llambed, mae yna gofeb i’r rhai o’r capel a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Ar frig y rhestr mae enw Ella Richards. Nyrs oedd Ella a dreuliodd dair blynedd a hanner yn gwasanaethu y Groes Goch. Mae’n debyg mai hi oedd un o’r rhai cyntaf i fynd fel nyrs i’r Rhyfel o’r ardal pan ymunodd â’r 1af o Fehefin 1915. Cafodd ei geni yn blentyn i Timothy a Hannah...