
Ella Richards – N. M. Thomas
Yng Nghapel Soar, Llambed, mae yna gofeb i’r rhai o’r capel a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Ar frig y rhestr mae enw Ella Richards. Nyrs oedd Ella a dreuliodd dair blynedd a hanner yn gwasanaethu y Groes Goch. Mae’n debyg mai hi oedd un o’r rhai cyntaf i fynd fel nyrs i’r Rhyfel o’r ardal pan ymunodd â’r 1af o Fehefin 1915. Cafodd ei geni yn blentyn i Timothy a Hannah...