Norah Dunphy – E. Lois
Norah Dunphy oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd ‘Bachelor of Architecture’ ym Mhrydain. Roedd hi’n dod o Landudno yn wreiddiol, a mynychodd Ysgol John Bright yno. Wedi iddi adael yr ysgol, astudiodd hi bensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl o dan diwtoriaeth Professor Charles Reilly. Graddiodd hi yn 1926 â gradd mewn pensaernïaeth, yn ogystal â thystysgrif dosbarth-cyntaf mewn Dylunio...