Lillie Goodisson – E. Lois

Arloeswraig ‘Cynllunio Teulu’ yn Ne Cymru Newydd. (c.1860-1947) Ganwyd Lillie Goodisson yng Nghaergybi tua’r flwyddyn 1860. Derbyniodd hyfforddiant fel nyrs, a phan oedd hi’n 19, priododd ddoctor o Lundain o’r enw Lawford David Evans. Yn fuan wedi’r briodas, symudodd y ddau i Auckland, Seland Newydd.  Symudodd y cwpl, a’u dau o blant, i Melbourne yn 1895. Yn 1897, sefydlon nhw...

Dr Mary Williams – E. Lois

Ganwyd Mary Williams yn Aberystwyth yn 1883.  Mynychodd yr ysgol gynradd yn Aberystwyth, cyn symud i Lundain i fynychu’r Camden School for Girls yn 1895. Mynychodd brifysgol Aberystwyth, a graddiodd â gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg yn 1904, ac Almaeneg yn 1905. Wedi hyn, treuliodd gyfnod byr fel athrawes – yn Portsmouth, ac yn Llandeilo. Rhwng 1907 ac 1910, bu’n...

Mary Anne Edmunds – E. Lois

Ganwyd Mary Anne Edmunds ar y 25ain o Ebrill 1813 yng Nghaerfyrddin. Cafodd ei haddysg mewn ysgol breswyl , a chafodd addysg adref hefyd, lle dysgodd hi lawer am yr Ysgrythyrau. Roedd hi’n darllen llawer o lyfrau addysgiadol, ac yn hyfedr yn emynyddiaeth Cymru. Cadwodd ddyddiaduron trwy gyfrwng y Saesneg dros gyfnod o 20 mlynedd, ac ynddynt byddai’n cofnodi ei hemosiynau crefyddol...

Nina Hamnett – E. Lois

Nina Hamnett – ‘Brenhines Bohemia’ Roedd Nina Hamnett yn artist ac ysgrifennwr Cymreig, ac yn cael ei hadnabod fel ‘The Queen of Bohemia’. Ganwyd Nina Hamnett ar y 14eg o Chwefror 1890 yn Ninbych-y-Pysgod. Mynychodd Ysgol Gelf Pelham, ac yna Ysgol Gelf Llundain tan 1910. Yn 1914 aeth hi i Baris i astudio yn Academi Marie Vassilieff. Pan oedd hi’n astudio yn Llundain, mi ddaeth yn...

Ruth Herbert Lewis – G. Ruth

Yn 1941, aeth Alan Lomax ar daith o Lyfrgell y Gyngres yn Washington at wastatiroedd y Mississippi Delta er mwyn recordio hanes y blues. Gyda dros 500 pwys o offer recordio wedi eu stwffio i’r sedd gefn, a phob peiriant wedi’i bweru gan fatri'r car, aeth ymaith i grombil America i gofnodi rhai o’r caneuon fwyaf iasol a phwerus yn hanes y wlad. I nifer o bobl, Lomax sy’n...

Frances Hoggan – N. M. Thomas

Yn ei lyfr “Education and Female Emancipation in Wales”, disgrifiodd Dr Gareth Evans Frances Hoggan fel “… undoubtedly one of the leading feminist pioneers in Wales”. Hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd mewn meddygaeth yn 1870.  Yn 1970 cynhaliwyd oedfa arbennig yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu i goffáu canmlwyddiant hyn. Ganed Frances Morgan yn High Street,...

Cassie Davies – M. Elin

Llinell o farddoniaeth gan un o Feirdd y Mynydd Bach, B. T. Hopkins, yw llinell gyntaf hunangofiant Miss Cassie Davies - “Ba rin i bren heb ei wraidd?”.  Er mwyn deall cymeriad y ddynes hynod hon a’i chyfraniad i fywyd a diwylliant Cymru, rhaid edrych arni yng nghyd-destun ei pherthynas â’i bro. Ganwyd Cassie Davies yng Nghae Tudur, fferm fach fynyddig yng Nghwm...

Cranogwen – L. Ifor

Tasg anodd yw crynhoi mewn ychydig eiriau pam ei bod hi’n bwysig cofio am hanes Cranogwen (Sarah Jane Rees), a hithau wedi cyflawni cymaint a dylanwadu ar gynifer o ferched Cymru yn ei gwaith fel ysgolfeistres, bardd, darlithydd, pregethwr, golygydd ac ymgyrchydd. Ganwyd Sarah Jane Rees (a enwyd ar ôl ei mamgu) ym mis Ionawr 1839 ar fferm Dolgoy Fach ym mhlwyf...

Gwen John – E. Lois

Ganwyd Gwen John ar yr 22ain o Fehefin 1876 yn Hwlffordd, Sir Benfro.  Magwyd hi, ei brawd a’i chwiorydd yn Ninbych y Pysgod gan eu tad - a oedd yn gyfreithiwr - a’u modrybod. Aeth Gwen John, a’i brawd Augustus, i astudio yn Ysgol Gelf Slade yn 1895. Wedi iddi raddio, ymwelodd â Pharis, ac astudiodd o dan oruchwyliaeth yr arlunydd James McNeill Whistler yn ei Acadamie...
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois

Gwenllian Morgan – N. M. Thomas

Ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif nid oedd gan fenywod hawl i bleidleisio.  Ond cyn y newid byd hwn roedd yna un wraig yn torri cwys hynod bwysig mewn gwleidyddiaeth leol – a Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan oedd honno. Bu’n blaenllaw iawn ym myd gwleidyddiaeth ac addysg y fro. Bu ar gorff llywodraethol yr ysgol ganolradd yn y dref. Am flynyddoedd bu’n weithgar iawn...