Mary Anne Edmunds – E. Lois

Ganwyd Mary Anne Edmunds ar y 25ain o Ebrill 1813 yng Nghaerfyrddin. Cafodd ei haddysg mewn ysgol breswyl , a chafodd addysg adref hefyd, lle dysgodd hi lawer am yr Ysgrythyrau. Roedd hi’n darllen llawer o lyfrau addysgiadol, ac yn hyfedr yn emynyddiaeth Cymru.

Cadwodd ddyddiaduron trwy gyfrwng y Saesneg dros gyfnod o 20 mlynedd, ac ynddynt byddai’n cofnodi ei hemosiynau crefyddol a’i gweddïau. Meistrolodd yr iaith Saesneg yn ystod y cyfnod hwn.

Ymroddodd i hyrwyddo achos addysg yng Nghymru, pan nad oedd y rhan fwyaf o bobl wedi ystyried ei phwysigrwydd. Daeth yn athrawes Ysgol Sul, a thrwy gydol ei bywyd roedd hi’n genfnogwraig frwd a ffyddlon i gymdeithasau llên a dirwest. Roedd hi am weithio ym myd addysg ers pan oedd yn ifanc, a llwyddodd i gael lle yn y ‘British and Foreign School Society’s Training College’ yn Llundain yn 1847.  Ym mis Hydref 1847 fe’i penodwyd hi’n athrawes yn Ysgol Gymunedol Rhuthyn, ac ym mis Ionawr 1849, symudodd i ddechrau swydd newydd yn Ysgol Brydeinig Garth, ym Mangor.

Y flwyddyn ganlynol priododd John Edmunds, a oedd yn brifathro yn un o’r ysgolion cyfagos. Cawsant ddau fab.

Yn ôl y llyfr ‘Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales: Nation, Gender and Identity’, gan Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru, 2010), mae Mary Anne Edmunds yn cael ei hystyried yn ffeminydd cynnar. 

Dywedodd ei gŵr amdani, yn ôl y llyfr: ‘Byddai’n haws ei hargyhoeddi fod goleuni y lleuad yn rhagori ar eiddo yr haul, na pheri iddi gredu fod cyneddfau y rhyw fenywaidd yn wanach mewn un gradd na’r eiddo y rhyw arall. Priodolai y gwahaniaeth sydd mewn rhai amgylchiadau i’w ganfod rhyngddynt i’r dull maswaidd y bydd y rhyw fenywaidd yn cael eu haddysgu. Credai bob amser, pe caent eu harfer o’r dechreu i ymdrechu amgyffred pethau dyrys a dyfnion, y cryfhai eu meddyliau yn gyfatebol, ac y byddent yn ogyfuwch a’r rhyw arall yn mhob peth, ac mewn rhai pethau yn rhagori.’

DARLLEN PELLACH:

Erthygl ‘Y Bywgraffiadur’ amdani : http://yba.llgc.org.uk/cy/c-EDMU-ANN-1813.html

Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales: Nation, Gender and Identity – Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru, 2010)

E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois