Ganwyd Mary Williams yn Aberystwyth yn 1883.
Mynychodd yr ysgol gynradd yn Aberystwyth, cyn symud i Lundain i fynychu’r Camden School for Girls yn 1895.
Mynychodd brifysgol Aberystwyth, a graddiodd â gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg yn 1904, ac Almaeneg yn 1905. Wedi hyn, treuliodd gyfnod byr fel athrawes – yn Portsmouth, ac yn Llandeilo.
Rhwng 1907 ac 1910, bu’n astudio yn y Sorbonne a’r Collège de France ym Mharis, ac yn 1910 derbyniodd ddoethuriaeth am draethawd yn y Ffrangeg yn edrych ar berthynas y chwedl Gymraeg Peredur â’r fersiynau Ffrangeg ac Almaeneg.
Buodd hi’n byw ym Mharis tan 1912, er iddi fyw yn Nulyn am 4 mis pan fuodd hi’n astudio’r Hen Wyddeleg.
Yn 1912 mi gafodd swydd fel Darlithydd Cynorthwyol mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Manceinion, yna mi gafodd swydd fel Darlithydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg yng Ngholeg y Brenin, Llundain.
Yn 1920, cafodd ei phenodi i’r Gadair mewn Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe, oedd newydd ei sefydlu bryd hynny.
Yn 1922, mi briododd Dr George Arbour Stephens, a oedd yn gardiolegydd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Addysg Abertawe. Buodd y ddau yn flaenllaw ym mywyd gwleidyddol Abertawe.
Yn 1948, wedi marwolaeth ei gŵr, symudodd Mary i Brifysgol Durham i fod yn Athro Ffrangeg.
Yn ôl erthygl Beth Jenkins yn ‘Y Bywgraffiadur’:
‘Yn ei haraith dderbyn soniodd sut yr ysgogwyd ei diddordeb yn y diwylliant Ffrangeg gan ei mam a roddodd iddi ei gwers Ffrangeg gyntaf gan ddangos y tebygrwydd rhwng Ffrangeg a Chymraeg. Pwysleisiodd Williams werth dwyieithrwydd fel modd i feithrin heddwch rhyngwladol, ac roedd ganddi wybodaeth weithredol o’r Gymraeg, Ffrangeg, Almaeneg, Lladin, Eidaleg a Phrofensaleg’
Bu farw Mary Williams yn Aberystwyth ar y 17eg o Hydref 1977.
Darllen Pellach:
Erthygl ‘Wikipedia’ amdani : https://en.wikipedia.org/wiki/Mary_Williams_(professor)
Erthygl ‘Y Bywgraffiadur’ amdani:http://yba.llgc.org.uk/cy/c11-STEP-MAR-1883.html
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Papurau Mary Williams, ARCH/MSS (GB0210)
David Dykes, The University College of Swansea: An Illustrated History (Stroud, 1992)
…
E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois