Cranogwen – L. Ifor

Tasg anodd yw crynhoi mewn ychydig eiriau pam ei bod hi’n bwysig cofio am hanes Cranogwen (Sarah Jane Rees), a hithau wedi cyflawni cymaint a dylanwadu ar gynifer o ferched Cymru yn ei gwaith fel ysgolfeistres, bardd, darlithydd, pregethwr, golygydd ac ymgyrchydd.

Ganwyd Sarah Jane Rees (a enwyd ar ôl ei mamgu) ym mis Ionawr 1839 ar fferm Dolgoy Fach ym mhlwyf Llangrannog, “bwthyn bychan to gwellt allan o’r ffordd … ar waelod cwm”fel y’i disgrifiodd yn ei hunangofiant. Derbyniodd addysg gyda’i dau frawd yn Ysgol Huw Dafis, oedd mewn hen ysgubor leol, ac wedi cyfnod byr yn astudio gwnïo yn Aberteifi, cytunodd ei thad y câi fynd gydag ef i weithio ar y môr, a hithau ond yn bymtheg oed ar y pryd. Bu’n gweithio fel morwr ar longau masnach y glannau am tua dwy flynedd, cyn dychwelyd i fyd addysg, gan astudio mewn nifer o lefydd cyn cael ei Thystysgrif Meistr mewn mordwyo o Lundain, llwyddiant tra anghyffredin i ddynes ar y pryd.

Yn 1860, a hithau bellach yn 21 mlwydd oed, dychwelodd i fro ei magwraeth i weithio fel ysgolfeistres yn ysgol pentre Pontgarreg. Er bod rhai wedi beirniadu’r penderfyniad i roi’r swydd i ferch, yn enwedig merch mor ifanc, buan yr enillodd barch am ei gallu i gadw disgyblaeth, a’r hyfforddiant a roddai mewn mordwyo i fechgyn ifanc yr ardal oedd a’u bryd ar fynd yn llongwyr.

Er ei bod bellach yn adnabyddus yn ei hardal enedigol, ni ddaeth Cranogwen i sylw Cymru gyfan nes iddi ennill gwobr am y gerdd, ‘Y Fodrwy Briodasol’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, gan guro beirdd enwog megis Ceiriog, Islwyn a Mynyddog. Yn sgil hyn, dechreuodd ddarlithio o amgylch Cymru ar nifer o destunau gwahanol. Gan fod Cymru newydd brofi Diwygiad 1859, dyma gyfnod cyfarfodydd mawr y capeli, a daeth darlithoedd Cranogwen mor boblogaidd nes iddi roi’r gorau i’w gwaith yn yr ysgol yn 1866.

Yn y flwyddyn hon hefyd dechreuodd Cranogwen bregethu. Yn y cyfnod hwn credai’r gymdeithas mai rôl merched oedd aros gartref i fagu plant yn hytrach na bod allan yn rhannu gwaith Duw’n gyhoeddus, ac felly cododd hyn wrychyn nifer, gyda rhai dynion yn mynd mor bell â gwrthod pregethu yn yr un oedfa â hi. Efallai mai dyma pam yr oedd hi mor wylaidd am ei gwaith, gan ddadlau mai dim ond ‘dweud tipyn’ oedd hi. Serch hynny, parhau i heidio i wrando arni wnaeth y torfeydd, ac yn 1869 derbyniodd wahoddiad i ddarlithio yn yr Unol Daleithau. Bu yn yr UDA am dros flwyddyn, gan deithio hyd a lled y wlad. Bu’r profiad yn amlwg yn un bythgofiadwy, a bu’n darlithio ar destunau megis ‘Tu hwnt i’r Mynyddoedd Creigiog’ (disgrifiad o beth welodd yn ardal y Rockies) wedi iddi ddychwelyd.

Erbyn 1879, sefydlodd Cranogwen gylchgrawn Y Frythones i “ymddangos mewn bwlch ar y mur a fu drwy y blynyddoedd yn cael ei esgeuluso”, gan mai hwn oedd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched ers i gylchgrawn Y Gymraes, dan olygyddiaeth Ieuan Gwynedd, ddod i ben yn 1852. Cyhoeddwyd Y Frythones am ddeng mlynedd o dan ei golygyddiaeth.

Yn wahanol i’r Gymraes, merched oedd y mwyafrif helaeth o gyfranwyr Y Frythones, ac mae’n amlwg fod Cranogwen yn teimlo cyfrifoldeb am addysgu ‘merched a gwragedd’ y wlad trwy gyfrwng y cylchgrawn. Roedd nifer o erthyglau’n rhoi cyngor, megis Anerchiad Hen Chwaer, Gair at Ferched Ieuainc a Gair at Ferched Cymru, heb sôn am golofn reolaidd Cwestiwn ac Ateb, lle ymatebai Cranogwen (oedd yn aml yn defnyddio’r teitl ‘Yr Ol.’) i broblemau merched ifanc Cymru.

Er bod atebion Cranogwen i gwestiynau merched ifanc yn aml yn ffraeth – cafodd un cwestiwn oedd yn poeni am briodi yr ateb “Byddwch gysurus chwiorydd, a cheisiwch rywbeth i’w wneyd. Gallai ychydig o ganu fod yn gymysgedd hapus” – roedd hi o ddifrif am annog merched ifanc i ysgrifennu a darganfod eu lleisiau. Roedd colofn Ein Gohebwyr Ieuainc yn ymddangos yn rheolaidd, a roedd cystadlaethau traethawd misol hefyd. Bu Cranogwen yn angerddol am hyrwyddo talent fenwyaidd, gan ddweud y drefn yn dilyn un gystadleuaeth yn 1879 – “Deuwch ferched, ym mha le yr ydych? Bechgyn yw y rhan amlaf o ysgrifwyr, a gwyddoch mai arnoch chwi yn bennaf yr oedd ein golwg.”

Wedi camu’n ôl o’i dyletswyddau golygyddol, parhaodd Cranogwen â’i gwaith yn ymgyrchu dros ddirwest, achos a drafodwyd nifer o weithiau ar dudalenau’r Frythones. Ym mis Mawrth 1901 sefydlodd Undeb Dirwestol i Ferched y Ddwy Rondda, a newidiodd ei enw i Undeb Dirwestol Merched y De yn Ebrill y flwyddyn honno. Bu’n Ysgrifennyddes y Mudiad am bymtheg mlynedd, nes gorfod rhoi’r gorau iddi oherwydd gwaeledd. Cyn ei marwolaeth ym Mehefin 1916, roedd Cranogwen wedi cychwyn ar y gwaith o sefydlu lloches i ferched oedd yn dioddef o broblemau yfed a digartrefedd, ac erbyn 1922 roedd merched y Rhondda wedi llwyddo i gasglu’r cyllid a phrynu tŷ addas; agorwyd Llety Cranogwen er cof amdani yn y Rhondda ym mis Mehefin y flwyddyn honno.

Ni phriododd Cranogwen erioed; ei chymydog, Jane Thomas, oedd ei chymar oes, a hi oedd testun un o gerddi mwyaf personol Cranogwen, “Fy Ffrynd”, a gynhwysai linellau megis “Dy ddilyn heb orphwyso wna/ Serchiadau pura’m calon”. Roedd cyfeillgarwch rhamantaidd rhwng merched yn eithaf cyffredin ar y pryd, i’r graddau nad oedd lesbiaeth yn cael ei gweld fel petai’n bodoli yn ôl syniadau Fictorianaidd am rywioldeb. Mae geiriau’r gerdd yn awgrymu bod mwy i’w perthynas na chyfeillgarwch yn unig, ac wedi marwolaeth rhieni Cranogwen, bu’r ddwy’n byw gyda’i gilydd am ugain mlynedd olaf bywyd Cranogwen. 

Difyr yw nodi fod y Parch J. Jenkyns Jones yn sôn yn ysgrif goffa Cranogwen yn Y Goleuadmai “Cymeriad ar ei phen ei hun ydoedd – yr oedd yn eithriad ymysg ei rhyw.” Digon teg oedd dweud hyn am ferched ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond oherwydd gwaith arloesol Cranogwen mewn cynifer o feysydd, fe sicrhaodd na fyddai pethau’n parhau felly, a’i gwaddol yw fod cynifer o ferched wedi eu hysbrydoli i’w dilyn i ysgrifennu ac i barhau â’i gwaith. 

Yn ystod ei golygyddiaeth o’r Frythones nododd Cranogwen nad oeddynt fel cylchgrawn yn cofnodi hanes merched cyfoes oherwydd mai “Brythones yr oes nesaf a fydd yn croniclo hanes merched a gwragedd yr oes hon. Bydd yn amlwg erbyn hyny pa fodd y byddwn wedi rhedeg ein gyrfa i’r pen, a pha faint a fydd ein gwir werth.” Teg dweud fod ‘Brythones’ yr oes hon yn bendant yn gwerthfawrogi “gwir werth” cyfraniad Cranogwen i’r genedl.

Darllen Pellach

·       ‘Developing Women’s Welsh-language Print Culture’ yn Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales: Nation, Gender and Identity, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)

·       ‘Cranogwen’ yn Mamwlad: Merched Dylanwadol Cymru, Beryl H. Griffiths (Gwasg Carreg Gwalch)

·       Cranogwen: Portread Newydd, Gerallt Jones (Gwasg Llandysul)

·       Cofiant Cranogwen, D.G. Jones (Caernarfon)

·       ‘Cranogwen’ yn Y Goleuad, Gorffennaf 14, 1916, J Jenkins Jones (http://cymru1914.org/en/view/newspaper/3494457/6)

·       Caniadau Cranogwen, Sarah Jane Rees (Dolgellau)

·       ‘Hunan-Goffa’ yn Y Frythones (rhifynnau o 1883-1884), Sarah Jane Rees (ar gael yn Llyfrgell Prifysgol Bangor)

·       http://yba.llgc.org.uk/en/s-REES-JAN-1839.html


Mae Lowri Ifor yn byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio i Amgueddfa Cymru. Mae’n un o sefydlwyr a golygyddion Codi Pais, cylchgrawn i bawb gan ferched Cymru.

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *