Margaret Lindsay Williams – N. M. Thomas

Ganwyd Margaret yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1888.  Roedd ei thad yn ddyn busnes ym myd y llongau a bu’n byw am gyfnod yn Windor Road yn y Barri. Cafodd ei haddysgu adref cyn iddi fynd i Goleg Technegol Caerdydd/ Ysgol Gelf Caerdydd lle enillodd Fedal Aur am ei Chelf yn 1904. Aeth wedyn i’r Pelham School of Art yn Kensington am flwyddyn cyn ymuno â’r Academi Brenhinol ym 1906....

Lucy Walter – E. Lois

Ganwyd Lucy Walter tua’r flwyddyn 1630, yng Nghastell y Garn, ger Hwlffordd, i deulu o foneddigion Cymreig o Sir Benfro.  Yn 1644, cipwyd Castell Roch oddi wrth ei theulu, ac aeth Lucy Walter i chwilio lloches yn Llundain, lle aeth hi ar long i’r Hague.   Yno, mae’n debyg iddi gwrdd â Charles II (oedd yn “Dywysog Cymru” bryd hynny), oedd yn aros yn yr Hague am gyfnod byr...

Angharad Rees – E. Lois

Ganwyd Angharad Mary Rees ar y 16eg o Orffennaf 1944, yn Ysbyty Redhill yn Middlesex. Roedd hi’n ferch i’r seicolegydd Cymreig Linford Rees, a’i wraig Catherine Thomas. Pan oedd hi’n 2 mlwydd oed, symudodd y teulu i Gaerdydd. Mynychodd yr ysgol annibynol yn Commonweal Lodge, ac yna’r Sorbonne ym Mharis. Yna mynychodd Coleg Drama Rose Bruford yng Nghaint. Astudiodd ym...

Mary Eleanor Gwynne Holford – N. M. Thomas

Pan gyfarfu Mrs Gwynne Holford â’r milwr F. W. Chapman ym 1915 daeth i benderfyniad a fyddai’n newid bywydau. Doedd y Rhyfel Mawr ond megis dechrau ond pan aeth Mrs Gwynne Holford i’r ysbyty milwrol gwelodd dros ei hun sut oedd rhai milwyr wedi eu hanafu. Penderfynodd yn y fan a’r lle y byddai’n agor ysbyty lle gallai gwyddoniaeth a thechnoleg helpu’r rhai oedd wedi colli breichiau...

Ella Richards – N. M. Thomas

Yng Nghapel Soar, Llambed, mae yna gofeb i’r rhai o’r capel a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Ar frig y rhestr mae enw Ella Richards. Nyrs oedd Ella a dreuliodd dair blynedd a hanner yn gwasanaethu y Groes Goch. Mae’n debyg mai hi oedd un o’r rhai cyntaf i fynd fel nyrs i’r Rhyfel o’r ardal pan ymunodd â’r 1af o Fehefin 1915. Cafodd ei geni yn blentyn i Timothy a Hannah...

Mary Jane Innes – E. Lois

Ganwyd Mary Jane Innes yn Llanfaches, Casnewydd ar y 18fed o Ebrill 1852. Wedi marwolaeth ei rhieni yn 1870, symudodd gyda’i brawd a’i chwaer, a gwraig ei brawd, i Seland Newydd. Cyrhaeddodd y teulu Auckland, Seland Newydd yn mis Hydref 1870, ar y llong Asterope. Wrth iddynt chwilio am rywle i fyw, aethant i Ngaruawahia. Yno, cyfarfu Mary Jane â Charles Innes, Albanwr oedd dros 20 mlynedd...

Phoebe Davies – E. Lois

Ganwyd Phoebe Davies ar y 7fed o Chwefror 1864 yn Aberteifi.  Roedd ei thad wedi treulio cyfnod yng Nghaliffornia yn ystod y Rhuthr am Aur yn 1849, ac dychwelodd â’i deulu yn yr 1870au cynnar er mwyn gweithio gyda’r Pacific Mail Steamship Company. Pan roedd Phoebe yn yr ysgol, ennillodd ragbrawf gyda David Belasco, y cynhyrchydd theatr, ac o ganlyniad cafodd gynnig rhan yng...