Elen Gilbert – E. Lois

ELEN GILBERT / ANN JONES Cafodd Elen Gilbert, neu Ann Jones, ei chyhuddo o ‘wrachyddiaeth droseddol’ yn Sir Ddinbych yn 1635. Er nad ydym ni’n gwybod pam y cafodd ei chyhuddo, cafodd ei chyhuddo o dwyll hefyd, am iddi hawlio ei bod yn gallu gwella rhai afiechydon nad oedd ganddi’r gallu i’w hiacháu. Yn ôl llyfr Richard Sugget, mi fyddai Ann yn dweud wrth rieni oedd â phlentyn sâl y...

Margaret Ferch Richard – E. Lois

MARGARET FERCH RICHARD Roedd Margaret Ferch Richard yn fenyw oedd yn byw ym Miwmares, drws nesaf i fenyw o’r enw Gwen gwraig Owen Meredith. Aeth Gwen yn sâl, a bu hi’n sâl o ddydd olaf mis Hydref 1654 tan ddiwrnod olaf y flwyddyn honno, pan fu farw. Cyhuddwyd Margaret o reibio Gwen, ac er iddi wadu’r cyhuddiad yn ei herbyn, barnwyd ei bod yn euog gan y Barnwr Edward Bultrode a’i lys....

Golly Lullock – E. Lois

GOLLY LULLOCKYn mis Awst 1655, cafodd gwraig o’r enw Golly Lullock ei chyhuddo o fod yn wrach. Yn ôl yr achos, roedd wedi rheibio hwch gwerth chwe swllt, ceffyl du gwerth chwephunt, a phedwar mochyn gwerth pum swllt. Robert Williams oedd yn berchen ar yr anifeiliaid, a bu’r anifeiliaid farw ar y deunawfed o Awst. Casglodd Robert Williams chwech o dystion ynghyd, a mynd â Golly i’r llys....

Joan Roger – E. Lois

JOAN ROGERYn 1654, cyhuddwyd mam a mab o blwyf Penbre yng Nghwrt y Sesiwn Fawr o fod yn wrachod.  Roedd Joan Roger yn wraig weddw oedd yn byw gyda’i mab di-briod, David John.  Yn mis Ionawr y flwyddyn honno, roedd David John yn dychwelyd adre o ymweld â rhai o’i ffrindiau gyda’i berthynas John Thomas. Gan ei fod hi’n hwyr, arhosodd John Thomas yn nhŷ Joan a David. Ychydig cyn...

Margaret Wyn o Feifod – E. Lois

MARGARET WYN o Feifod Roedd Margaret Wyn yn fenyw a gafodd ei chyhuddo o ddefnyddio dewiniaeth i orfodi menyw arall o’r enw Margaret Lloyd i garu dyn o’r enw John ap Gruffydd.  Yn ôl y cyhuddiadau, yn mis Medi 1578, cwrddodd merch o’r enw Margaret Lloyd â gŵr bonheddig o’r enw John ap Gruffydd, o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, yn marchnad Llanfyllin. Aeth Margaret Lloyd â John ap...

Katherine Bowen – E. Lois

KATHERINE BOWEN Roedd Katherine Bowen yn fenyw o ardal Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro. Nid oes llawer o’r papurau o’i hachos llys yn bodoli bellach, ond mae yna ddogfen sy’n datgan fod Katherine ‘drwy anogaeth y Diafol wedi defnyddio’r gelfyddyd gythreulig a elwir yn rheibio, cyfareddu, swyno a dewino yn Gumfreston ar Fehefin y pymthegfed ar hugain 1607.’ Dywedir ei bod wedi rheibio...

Tanglwyst Ferch Glyn – E. Lois

TANGLWYST FERCH GLYN Roedd Tanglwyst Ferch Glyn yn fenyw a oedd yn byw yn anghyfreithlon gyda dyn o’r enw Thomas Wyriott yn 1496. Cawsant eu galw o flaen Esgob Tyddewi, John Morgan, a chyffesodd y ddau i’w trosedd. Roedd gŵr Tanglwyst a gwraig Thomas yn dal yn fyw, felly argymhellodd yr Esgob eu bod nhw’n dychwelyd at eu partneriaid cyfreithlon. Yn amlwg, prin oedd effaith geiriau’r...

Brenda Chamberlain

Llenor, bardd, ac arlunydd oedd Brenda Chamberlain a aned ar 17 Mawrth 1912 ym Mangor. Ers pan oedd yn blentyn, gwyddai mai bod yn artist oedd ei bwriad ym mywyd, ac aeth i astudio celf yn y Royal Academy of Arts yn Llundain. Dychwelodd wedyn i fyw yn Llanllechid, gan sefydlu gwasg fechan, Caseg Press, gyda’i gŵr, John Petts, lle’r oeddent yn argraffu cyfresi o gerddi darluniedig mewn...

Mary King Sarah – E. Tomos

Mae stori arbennig Mary King Sarah yn dangos y cysylltiadau agos a fodolai ymysg cymunedau chwarelyddol yng Nghernyw, yr UDA ac yng ngogledd Cymru yn ogystal â’r traddodiad cerddorol gref a ffynnai ar draws y bröydd llechi. Fe’i ganed yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle ym 1885 ac er bod ei henw yn ymddangos fel enw llwyfan, dyma oedd ei henw bedydd. Roedd ei nain a’i thaid ar ochr ei thad,...

Thereza Dillwyn Llewelyn – E. Lois

Ganwyd Thereza Dillwyn Llewelyn yn 1834 ym Mhenllergaer yn Abertawe. Roedd ei thad, John Dillwyn Llywelyn, yn ffotograffydd ac yn fotanegydd. Roedd ei theulu’n ymwneud llawer â maes ffotograffiaeth wyddonol. Roedd ei modryb, Mary Dillwyn, yn un o’r ffotograffwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru. Roedd hi’n gyfnither i Amy Dillwyn. Datblygodd Thereza ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a...