Alis ferch Gruffudd – G. Saunders Jones.

Prydyddes oedd Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan o Henllan, Sir Ddinbych, a gan mai maes tameidiog a bylchog yw byd prydyddesau Cymraeg y Cyfnod Modern Cynnar, tasg anodd yw gwybod i sicrwydd pryd y cafodd ei geni, ond gellir awgrymu oddeutu 1520. Yr oedd yn ferch i Sioned, a oedd yn dod o deulu enwog y Mostyniaid, teulu a oedd yn chwarae rhan flaenllaw wrth hybu’r...

Käte Bosse-Griffiths – Ff. Arwel

Kate Bosse-Griffiths - Cymraes, Almaenes, awdur ac Eifftolegydd o dras Iddewig Ganwyd Kate Bosse-Griffiths (16 Mehefin 1910 – 4 Ebrill 1998) yn nhref fach Wittenberg yn yr Almaen. Roedd ei theulu yn llewyrchus ac uchel iawn ei barch yn y gymuned, ond pan welodd yr Almaen dwf Natsïaeth yn ystod y 1930au, dechreuodd ddioddef erledigaeth a chasineb.  Er iddi gael ei magu fel...

Ruth Herbert Lewis – G. Ruth

Yn 1941, aeth Alan Lomax ar daith o Lyfrgell y Gyngres yn Washington at wastatiroedd y Mississippi Delta er mwyn recordio hanes y blues. Gyda dros 500 pwys o offer recordio wedi eu stwffio i’r sedd gefn, a phob peiriant wedi’i bweru gan fatri'r car, aeth ymaith i grombil America i gofnodi rhai o’r caneuon fwyaf iasol a phwerus yn hanes y wlad. I nifer o bobl, Lomax sy’n...

Frances Hoggan – N. M. Thomas

Yn ei lyfr “Education and Female Emancipation in Wales”, disgrifiodd Dr Gareth Evans Frances Hoggan fel “… undoubtedly one of the leading feminist pioneers in Wales”. Hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd mewn meddygaeth yn 1870.  Yn 1970 cynhaliwyd oedfa arbennig yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu i goffáu canmlwyddiant hyn. Ganed Frances Morgan yn High Street,...

Ann Watkins a Ruth Roberts – E. Tomos

Roedd trawsgludo yn rhan annatod o system gyfraith a threfn yng ngwledydd Prydain yn ystod y ddeunawfed ganrif. Pasiwyd Deddf Trawsgludo ym 1718. Bwriad y ddeddf hon oedd cael gwared â gwehilion cymdeithas drwy eu halltudio yn bell, bell o Brydain i diroedd newydd yr Ymerodraeth. Hyd nes 1776 America oedd prif gyrchfan llongau Prydeinig ond gyda dechrau Rhyfel Annibyniaeth yn America roedd...

Cassie Davies – M. Elin

Llinell o farddoniaeth gan un o Feirdd y Mynydd Bach, B. T. Hopkins, yw llinell gyntaf hunangofiant Miss Cassie Davies - “Ba rin i bren heb ei wraidd?”.  Er mwyn deall cymeriad y ddynes hynod hon a’i chyfraniad i fywyd a diwylliant Cymru, rhaid edrych arni yng nghyd-destun ei pherthynas â’i bro. Ganwyd Cassie Davies yng Nghae Tudur, fferm fach fynyddig yng Nghwm...

Cranogwen – L. Ifor

Tasg anodd yw crynhoi mewn ychydig eiriau pam ei bod hi’n bwysig cofio am hanes Cranogwen (Sarah Jane Rees), a hithau wedi cyflawni cymaint a dylanwadu ar gynifer o ferched Cymru yn ei gwaith fel ysgolfeistres, bardd, darlithydd, pregethwr, golygydd ac ymgyrchydd. Ganwyd Sarah Jane Rees (a enwyd ar ôl ei mamgu) ym mis Ionawr 1839 ar fferm Dolgoy Fach ym mhlwyf...

Betty Campbell – Ff. Arwel

Ganed Betty Campbell (Johnson gynt) i gartref tlawd yn Nhre-biwt yn 1934. Bryd hynny roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel Bae Teigr (Tiger Bay). Yno, ger dociau Caerdydd, gorweddai calon cymunedau aml-ddiwylliannol cynharaf  Cymru – a chartref Betty. Daeth tad Betty, Simon Vickers Johnson, draw i Gymru o Jamaica yn bymtheg oed. Lladdwyd ef yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ôl...

Elen Roger Jones – G. S. Jones

Er mai bach yw poblogaeth pentref Marian-glas, ynddo ceir cewri o gymeriadau a fu’n greiddiol i ddiwylliant Cymru dros y ganrif ddiwethaf. Un ohonynt oedd Elen Roger Jones, aned 27 Awst 1908 yn ferch i William Griffith a Mary, ac yn chwaer i Thomas, Siarlot a’r actor byd-enwog Hugh Griffith, a enillodd Oscar am ei berfformiad yn Ben Hur. Wedi...

Gwen John – E. Lois

Ganwyd Gwen John ar yr 22ain o Fehefin 1876 yn Hwlffordd, Sir Benfro.  Magwyd hi, ei brawd a’i chwiorydd yn Ninbych y Pysgod gan eu tad - a oedd yn gyfreithiwr - a’u modrybod. Aeth Gwen John, a’i brawd Augustus, i astudio yn Ysgol Gelf Slade yn 1895. Wedi iddi raddio, ymwelodd â Pharis, ac astudiodd o dan oruchwyliaeth yr arlunydd James McNeill Whistler yn ei Acadamie...