Käte Bosse-Griffiths – Ff. Arwel

Kate Bosse-Griffiths – Cymraes, Almaenes, awdur ac Eifftolegydd o dras Iddewig

Ganwyd Kate Bosse-Griffiths (16 Mehefin 1910 – 4 Ebrill 1998) yn nhref fach Wittenberg yn yr Almaen.

Roedd ei theulu yn llewyrchus ac uchel iawn ei barch yn y gymuned, ond pan welodd yr Almaen dwf Natsïaeth yn ystod y 1930au, dechreuodd ddioddef erledigaeth a chasineb. 

Er iddi gael ei magu fel aelod o’r Eglwys Lutheraidd, roedd Kate yn Iddew ar ochr ei Mam. Ddwy genhedlaeth yn gynharach, roedd y teulu wedi troi at Brotestaniaeth Lwtheraidd ac er gwaethaf yr elfennau gwrth-Semitig amlwg o fewn yr eglwys Lutheraidd, nid oedd pwysau ar deuluoedd fel teulu’r Bosse tan ddyfodiad Hitler.

Ar ôl cwblhau ei haddysg uwch, derbyniwyd Kate i Brifysgol Munich lle enillodd ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Clasurol ac Eifftoleg ym 1935. Ond yn 1937 collodd Kate ei swydd gyntaf fel Awdolegydd yn Amgueddfa Berlin pan ddarganfuwyd bod ei mam yn Iddew. Collodd Paul Bosse, tad Kate, ei swydd fel meddyg yn yr ysbyty leol ac fe gafodd ei annog i ysgaru â’i wraig – rhywbeth y gwrthododd ei wneud.

Ym mis Hydref 1937, daeth Kate i Brydain fel ffoadur o’r Almaen – gwlad oedd erbyn hynny yng ngafel haearnaidd y Natsïaid. Yno, wrth weithio yn Amgueddfa yr Ashmolean yn Rhydychen, daeth i gyfarfod â myfyriwr Eifftoleg ifanc, J. Gwyn Griffiths.

Syrthiodd y ddau mewn cariad, gan ddechrau canlyn. Ymhen hir a hwyr, priododd y ddau gan symud i fyw um Mhentre yn y Rhondda. Yno, syrthiodd Kate mewn cariad eto. Ond y tro hyn, syrthio mewn cariad gyda’r iaith Gymraeg a wnaeth hi, gan ei dysgu’n gyflym a’i mesitroli. Daeth hi a J Gwyn Griffiths yn weithgar iawn o fewn cylchoedd cenedlaetholgar, cylchoedd heddychlon a chylchoedd llenyddol yn yr ardal. Kate ei hun oedd tu ôl i sefydlu cylch llenyddol Cadwgan, a fu’n weithgar yn y Rhondda yn ystod y rhyfel. Rhannodd hefyd yr un ymrwymiad â’i gŵr dros achos Plaid Cymru a bu’n ymgyrchydd brwd dros y blaid ar wastad lleol.

Yn ystod yr un cyfnod, yn ôl yn yr Almaen, roedd ei theulu yn dioddef dan hiliaeth ac erledigaeth greulon y Natsiaïd. Cafodd Paul Bosse ei arestio gan y Gestapo a chafodd mam Kate, Kathe Bosse, ei dal a’i llofruddio yng ngwersyll carchar erchyll i ferched, Ravensbrück. 

Wedi cyfnod yn y Bala yng ngogledd Cymru, lle bu Kate yn rhoi cymorth i garcharorion rhyfel Almaenig, symudodd y ddau i Abertawe. Yno, daeth J. Gwyn Griffiths yn Athro ar Eifftoleg a Kate yn guradur casgliad hynafiaethau’r Aifft yn y brifysgol. 

Cyhoeddodd Kate hefyd nofelau, straeon byrion a gweithiau ffeithiol yn y Gymraeg megis Anesmwyth Hoen, Mae’r Galon wrth y Llyw a Cariadau – gan gyhoeddi’r olaf o’r rhain pan oedd hi’n 85 mlwydd oed.  

Roedd ei hysgrifau yn gosmopolitaidd ac yn rhyddfrydol eu hagwedd, gan drin a thrafod rhyw a rhywioldeb yn eofn ac yn ddi-flewyn-ar-dafod. Roedd ei gwaith yn gyfoethog tu hwnt ac yn llawn amrywiaethau ar draddodiadau Cymreig ac Almaenig. Roedd dylanwadau clir o du’r Clasuron a’r Aifft ar ei gwaith gydag is-lais ffeministaidd cryf yn rhedeg drwy’r cyfan. Ond uwchlaw hyn i gyd, roedd Katë yn gweld ei hunan fel unigolyn a dinesydd byd yn fythol chwilio am wybodaeth, y gwir, a’r hawl i berthyn. 

Mae ei stori hi yn parhau i fod yn bwysig i ni hyd heddiw wrth iddi ein hannog i fod yn ymwybodol o’r hanes Ewropeaidd rydym i gyd yn ei rannu â’n gilydd ar draws y cyfandir. 

Yng Nghymru, daeth Kate o hyd i deulu a diwylliant a thrwy hynny fe wnaeth gyfraniadau arbennig ac ysbrydoli eraill. 

Yn ei barddoniaeth, byddai Kate yn mynegi pwysigrwydd cynnal gwerthoedd gwâr drwy storm rhyfel. Meddai:



‘Fe ddaeth y storm a derfydd, / Ti, fab y werin, clyw! / O cadw ac ymgeledda/ Yr hyn a ddylai fyw …’ 

Mae ei meibion, Heini a Robat Gruffudd, ill dau wedi gwneud cyfraniadau arbennig eu hunain yng Nghymru. Mae Heini wedi gwneud gwaith sylweddol o fewn maes dysgu Cymraeg i oedolion a Robat yw sylfaenydd cwmni cyhoeddi’r Lolfa, sydd yn dathlu’r 50 eleni.

***

Hedyn

Hedyn wyf o wlad bell
Wedi ei lyncu gan aderyn treigl
Wedi ei gludo dros y môr gan wennol; 
Disgynnodd ar dir newydd ei aredig
A thaflu gwreiddiau
[…]
Tyfais yn gnawd byw
Tyfais yn rhan o Gymru

Fflur Arwel

Daw Fflur Arwel o Gaernarfon yn wreiddiol ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Blaid Cymru.

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois

Leave a Reply

Your email address will not be published.