Morfydd Llwyn Owen – E. Lois

Morfydd Llwyn Owen

(1891-1918)

Ganwyd Morfydd Llwyn Owen ar y 1af o Hydref 1891, yn Nhrefforest yn Sir Forgannwg. Roedd ei rhieni yn gerddorion, ac roeddent hefyd yn rhedeg busnes clustogwaith. 

Erbyn iddi droi’n 16, roedd hi’n cael gwersi preifat gan Yr Athro David Evans ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 1909, pan oedd yn 19, cyhoeddodd ei darn cyntaf o gerddoriaeth: emyn dôn o’r enw ‘Morfydd’. Dechreuodd fynychu Prifysgol Caerdydd, ac ennillodd ysgoloriaeth gerddorol ‘Caradog’ yn ystod ei hamser yno. Graddiodd mewn cerddoriaeth yn 1912.

Wedi iddi raddio, cafodd ei derbyn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Wrecsam, ac derbyniodd ysgoloriaeth i fynychu’r Academi Frenhinol yn Llundain. 

O dan ofal Frederick Corder yn yr Academi Frenhinol, cyfansoddodd ystod eang o gerddoriaeth newydd a oedd yn denu sylw mawr iddi a’i cherddoriaeth. Cafodd lawer o glod yng ngolofnau papurau newydd Llundain.



Yn ystod ei chyfnod yn yr Academi Frenhinol, ennillodd lawer o wobrau ac ysgoloriaethau, gan gynnwys Gwobr Blue-Riband, Gwobr Oliveria Prescott, a Medal Arian Charles Lucas am gyfansoddi.

Yn ystod ei chyfnod yn Llundain, cyfarfu â sawl unigolyn o Rwsia, a chafodd ei hysbrydoli cymaint gan gerddoriaeth Rwsia fel y penderfynodd ymgeisio am fwrsari i astudio yno. Ennillodd hi’r bwrsari, ond cafodd ei hatal rhag mynd yno gan y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedi iddi raddio, cafodd ei phenodi’n aelod o staff yn yr Academi Frenhinol.

Yn ystod ei hamser yn Llundain, mynychodd Gapel Bresbyteraidd Cymraeg Llundain yn Charing Cross. Cyfarfu â sawl ffigwr Cymreig adnabyddus o’r cyfnod trwy’r capel, gan gynnwys David Lloyd George, Sir John Herbert Lewis, a Ruth Herbert Lewis.

Treuliodd Morfudd lawer o amser yng nghwmni’r teulu Lewis. Byddai’n aros yn eu tỳ hwy, ac yn eu diddanu trwy ganu.

Trwy weithio â Ruth Herbert Lewis, daeth Morfydd yn rhan o waith y Welsh Folk-Song Society. Trawsgrifio, yn ogystal â chyfansoddi cyfeiliant i sawl Gân Werin Gymraeg. Pan fyddai Ruth Herbert Lewis yn darlithio am Ganeuon Gwerin Cymru, byddai Morfudd yn chwarae esiamplau cerddorol o’r darnau. Yn 1914, cydweithion nhw ar gyhoeddi ‘Folk-Songs Collected In Flintshire and The Vale of Clwyd.’

Yn ystod ei chyfnod yn Llundain, treuliodd amser â D. H. Lawrence ac Ezra Pound. Cafodd ei hysbrydoli’n fawr yn Llundain – cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth.

Tua diwedd 1916, cyfarfu Morfydd â’r seicdreiddiwr Ernest Jones, ac wedi carwriaeth fer, priodon nhw ar y 6ed o Chwefror 1917, yn Swyddfa Gorfrestru Marylebone. Daeth hyn yn sioc mawr i deulu a ffrindiau Morfudd. Roedd Ernest Jones yn ffigwr dadleuol ar y pryd, gan ei fod yn brif esboniwr o syniadau Sigmund Freud ym Mhrydain. 

Yn haf 1918, pan oedd y cwpl ar wyliau ger Abertawe, yn nhỳ tad Jones, datblygodd Morfydd atodiadwst acíwt. Gan fod angen triniaeth frys arni, daeth llawfeddyg leol i roi triniaeth iddi yn y cartref teuluol.



Wedi’r driniaeth, cwympodd Morfudd yn ddifrifol wael, a bu farw ar y 7fed o Fedi 1918.

Claddwyd Morfydd ym mynwent Ystum Llwynarth, ger Abertawe. Ar ei bedd mae’r geiriau o Faust gan Goethe ‘Das Unbeschreibliche, hier ist’s getan’, neu ‘Yr hyn annhraethol, yma’n gyflawn.’ 

Mae’r erthygl hon yn ddyledus iawn i waith Ben Gwalchmai.

Darllen pellach:

https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/if-significance-were-fully-realised-12597069

E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, Crysau T Golau Arall, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen. 

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois