Lillie Goodisson – E. Lois

Arloeswraig ‘Cynllunio Teulu’ yn Ne Cymru Newydd.

(c.1860-1947)

Ganwyd Lillie Goodisson yng Nghaergybi tua’r flwyddyn 1860. Derbyniodd hyfforddiant fel nyrs, a phan oedd hi’n 19, priododd ddoctor o Lundain o’r enw Lawford David Evans.

Yn fuan wedi’r briodas, symudodd y ddau i Auckland, Seland Newydd. 

Symudodd y cwpl, a’u dau o blant, i Melbourne yn 1895. Yn 1897, sefydlon nhw ysbyty preifat Myrnong yn St Kilda.

Bu farw Lawford yn 1903, ac yn ddiweddarach symudodd Lillie a’r plant  i orllewin Awstralia, lle cyfarfu a phriododd ei hail ŵr, Albert Elliot Goodisson, yn 1904. 

Buon nhw’n byw yn Geraldton, nes i Albert fynd i Fatvia yn mis Medi 1913, i dderbyn triniaeth ar gyfer salwch. Bu farw Albert yn 1914, heb adael llawer o arian i Lillie. Benthygodd hi arian o’i ffrind Ivy Brookes, a dychwelodd i Melbourne.

Roedd hi’n sefyll dros achosion gwladgarol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymunodd hi â’r ‘Women’s Reform League’, a gyda Ruby Rich, Marion Louisa Piddington ac Anna Roberts, sefydlodd y ‘Racial Hygiene Association of New South Wales’. Roedd y sefydliad yn ffocysu ar addysg ryw, ac addysgu’r cyhoedd am afiechydon gwenerol. Lillie Goodison oedd ysgrifennydd y sefydliad. 

Lleihawyd y cyllid ar gyfer y sefydliad yn sylweddol erbyn yr Ail Ryfel Byd. Yn 1960 ail-enwyd y sefydliad yn ‘The Family Planning Association of Australia’.

Bu farw Lillie Goodisson yn Cremorne Point yn 1947. 

Darllen Pellach:

Erthygl ‘Wikipedia’ amdani : https://en.wikipedia.org/wiki/Lillie_Goodisson

Erthygl ‘Australian Dictionary of Biography’ amdani: http://adb.anu.edu.au/biography/goodisson-lillie-elizabeth-6422

E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen. 

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois