Prydyddes oedd Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan o Henllan, Sir Ddinbych, a gan mai maes tameidiog a bylchog yw byd prydyddesau Cymraeg y Cyfnod Modern Cynnar, tasg anodd yw gwybod i sicrwydd pryd y cafodd ei geni, ond gellir awgrymu oddeutu 1520.
Yr oedd yn ferch i Sioned, a oedd yn dod o deulu enwog y Mostyniaid, teulu a oedd yn chwarae rhan flaenllaw wrth hybu’r traddodiad barddol, a Gruffudd ab Ieuan, bardd-uchelwr o Ddyffryn Clwyd, ardal a oedd yn ganolbwynt i’r bwrlwm barddonol a llenyddol yn ystod y Cyfnod Modern Cynnar. Fe briododd Dafydd Llwyd ap Rhys o’r Faenol, ac fe aned pedwar o feibion iddynt.
Roedd y ffaith bod ei thad a’i thaid yn barddoni hefyd yn gyfle i Alis ddysgu’r grefft farddol gan ei theulu, a phan astudir y prydyddesau Cymraeg hynny a lwyddai i oresgyn yr anawsterau i gael eu gwaith mewn ysgrifen, ni ellir llai na sylwi ar bwysigrwydd eu perthynas â bardd gwrywaidd, boed drwy waed neu gyfeillgarwch. Fe ddywed Dafydd Johnston mai “gweithgarwch amatur oedd barddoni yn y teulu, ac nid crefft alwedigaethol. Efallai, yn wir, mai oherwydd y statws amatur hwnnw y câi merched y teulu arfer y grefft.”[1]
Tadogwyd wyth o gerddi i’w henw, gyda themâu yn amrywio o gerddi serch, i gywydd cymod ac i rai ysgafnach eu naws.
Mae tair o’i cherddi’n rhoi cipolwg diddorol i ni ar briodas, o’i safbwynt hi a safbwynt ei thad. Yn ogystal â’i haddysgu, yr oedd ei theulu yn ddylanwad sylweddol arni mewn perthynas â materion priodasol. Yn anad un weithred arall, priodi oedd yr arwydd amlycaf bod unigolyn wedi dod i oed yn y gymdeithas. Rhoddwyd pwyslais sylweddol am reswm arall hefyd, sef pres, yn enwedig ymhlith yr haen uchaf o gymdeithas, debygol iawn na fyddai dyn o ddosbarth is yn gwneud y tro.
Dyma sydd gan Alis i’w ddweud yn y gerdd “Y Gŵr Delfrydol”[2]:
Hardd, medrus, campus, ped caid, – a dewr
I daro o bai raid;
Mab o oedran cadarnblaid
A gŵr o gorff gorau a gaid.
Fy nhad a ddywede ym hyn – mai gorau
Ym garu dyn gwrthun,
A’r galon sydd yn gofyn
Gwas glân hardd, ysgafn ei hun.
Mae’n amlwg nad yw arian na statws yn bwysig iddi; merch ifanc sy’n dymuno cariad gyda dyn ‘o gorff gorau’ a geir yma ac a fyddai’n barod iawn i daro rhywun pe byddai gofyn am hynny. Dyma ymateb annisgwyl a gonest.
Mae’r berthynas rhwng y tad a’r ferch i’w weld yn ‘Englyn i’w darpar ŵr’[3] hefyd, wrth i Gruffudd roi gorchymyn i’w ferch i fynd i siarad â dyn y mae wedi’i weld. Ond fe ddisgrifia Alis ei phersona ei hun yn ‘anfoddawg’ ac amharod i’w chyflwyno’i hun i’r dyn dan sylw. Nid ydyw hi am gael ei gwthio i wneud dim nad oes arni eisiau ei wneud, waeth bynnag faint y protestia ei thad. Cyflëir teimladau’r cymeriad â llawer o hiwmor wrth iddi ddisgrifio’r sefyllfa a’i hwyneba mewn arddull gomedïaidd.
Mae ‘Englynion i’w thad’[4] yn trafod ail-briodas tad Alis. Plentyn o briodas gyntaf Gruffudd a Sioned oedd Alis, ac ar ôl marwolaeth Sioned, yr oedd â’i fryd ar briodi merch llawer ieuengach nag ef. Yng ngeiriau Alis: “Hi a rodded yn ireiddwen, / Chwithe, ’nhad, aethoch yn hen!” Yn yr englyn clo, gwelwn y tad yn ceisio dwyn perswâd ar ei ferch mai ‘dilys yw ’nghorff’ a cheir yr argraff ei fod yn cysuro ei hun gyda’r geiriau hyn. Ond eto, fe ymddengys iddo ddweud y gwir, oherwydd daeth pump o blant o’r ail briodas honno!
O blith ei gweithiau eraill, ceir cerdd yr honnir iddi gael ei chyfansoddi ar y cyd gan dair chwaer, am i’r olnod ddweud mai ‘Tair ewig o Sir Ddinbech ai kant’ (llawysgrif Mos 131, 8).
Mae ‘Cwyn am ei châr’[5] ar thema ‘cwynfan y ferch’, sef genre poblogaidd iawn yn ystod cyfnod y Dadeni Dysg, ac yn y gerdd hon cwyna fod Rhys ei chariad yn canlyn merch arall. Ni wyddys pwy oedd y ddau unigolyn yma, nac ychwaith a oedd Rhys yn gariad i Alis mewn gwirionedd, ynteu ai dyn yr oedd â’i bryd arno ydoedd.
Mae ‘Cywydd cymod rhwng Grigor y Moch a Dafydd Llwyd Lwdwn o Sir Fôn’[6] yn gweld Alis yn trafod mai rhywbeth anfoneddigaidd yw gweld pobl o haenau uchaf y gymdeithas yn ffraeo ac y dylid dod â’r gynnen i ben yn ddi-lol: ‘O gwna Dafydd ufudd-dra, / A gwyro ei din er gŵr da…’.
Wrth edrych ar gynnwys yr holl gerddi a briodolir i Alis, fe ddarganfyddir un ddolen gyswllt sy’n eu cydio ynghyd, sef y modd y mae’n ymgorffori cyngor yn ei barddoniaeth. Dewisa ysgrifennu cerddi sy’n dangos gwendidau’r drefn gymdeithasol a oedd fel arall yn cael ei derbyn yn ddi-gwestiwn, a thrwy gymorth y bwlch hwn caiff y ferch roi ei llais ei hun ar gymdeithas ei hoes. Y mae Alis felly yn gyfranogwraig eithriadol o fedrus mewn traddodiad barddol a ystyriwyd yn faes gwrywaidd yn y Cyfnod Modern Cynnar, gan ymfalchïo yn ei rhyw a’i rôl hi fel merch yn y gymdeithas.
Rhestr ddarllen:
Gwen Saunders Jones, Alis ferch Gruffudd a’r Traddodiad Barddol Benywaidd, (Caernarfon, 2015).
Cathryn Charnell-White, Beirdd Ceridwen (Llandybie, 2005).
[1] Dafydd Johnston, ‘Gwenllïan ferch Rhirid Flaidd’, Dwned, Cyf. 3 (1997), t.28.
[2] Gwen Saunders Jones, Alis ferch Gruffudd a’r Traddodiad Barddol Benywaidd, (Caernarfon, 2015), t.41.
[3] Ibid., t.46
[4] Ibid., t.52.
[5] Ibid., t.85.
[6] Ibid., Pennod 5, t.87.
Mae Gwen yn awdures ac yn gyfieithydd. Canolbwyntiodd ei llyfr cyntaf ar farddoniaeth Gymraeg gan ferched y Cyfnod Modern Cynnar. Mae Gwen yn byw yn ei hymchwil ar farddoniaeth merched wedi iddi gael ei mab, Elis, y llynedd.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois