Arloeswraig ‘Cynllunio Teulu’ yn Ne Cymru Newydd.
(c.1860-1947)
Ganwyd Lillie Goodisson yng Nghaergybi tua’r flwyddyn 1860. Derbyniodd hyfforddiant fel nyrs, a phan oedd hi’n 19, priododd ddoctor o Lundain o’r enw Lawford David Evans.
Yn fuan wedi’r briodas, symudodd y ddau i Auckland, Seland Newydd.
Symudodd y cwpl, a’u dau o blant, i Melbourne yn 1895. Yn 1897, sefydlon nhw ysbyty preifat Myrnong yn St Kilda.
Bu farw Lawford yn 1903, ac yn ddiweddarach symudodd Lillie a’r plant i orllewin Awstralia, lle cyfarfu a phriododd ei hail ŵr, Albert Elliot Goodisson, yn 1904.
Buon nhw’n byw yn Geraldton, nes i Albert fynd i Fatvia yn mis Medi 1913, i dderbyn triniaeth ar gyfer salwch. Bu farw Albert yn 1914, heb adael llawer o arian i Lillie. Benthygodd hi arian o’i ffrind Ivy Brookes, a dychwelodd i Melbourne.
Roedd hi’n sefyll dros achosion gwladgarol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ymunodd hi â’r ‘Women’s Reform League’, a gyda Ruby Rich, Marion Louisa Piddington ac Anna Roberts, sefydlodd y ‘Racial Hygiene Association of New South Wales’. Roedd y sefydliad yn ffocysu ar addysg ryw, ac addysgu’r cyhoedd am afiechydon gwenerol. Lillie Goodison oedd ysgrifennydd y sefydliad.
Lleihawyd y cyllid ar gyfer y sefydliad yn sylweddol erbyn yr Ail Ryfel Byd. Yn 1960 ail-enwyd y sefydliad yn ‘The Family Planning Association of Australia’.
Bu farw Lillie Goodisson yn Cremorne Point yn 1947.
Darllen Pellach:
Erthygl ‘Wikipedia’ amdani : https://en.wikipedia.org/wiki/Lillie_Goodisson
Erthygl ‘Australian Dictionary of Biography’ amdani: http://adb.anu.edu.au/biography/goodisson-lillie-elizabeth-6422
…
E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois