Yn 1941, aeth Alan Lomax ar daith o Lyfrgell y Gyngres yn Washington at wastatiroedd y Mississippi Delta er mwyn recordio hanes y blues. Gyda dros 500 pwys o offer recordio wedi eu stwffio i’r sedd gefn, a phob peiriant wedi’i bweru gan fatri’r car, aeth ymaith i grombil America i gofnodi rhai o’r caneuon fwyaf iasol a phwerus yn hanes y wlad. I nifer o bobl, Lomax sy’n cynrychioli’r ethnogerddoregwr delfrydol – un dyn a’i gar, yn trafeilio hyd lonydd anhysbys America i ganfod y perlau cerddorol fyddai’n tanio’r adfywiad gwerin a ddaeth i’w anterth yng nghaffis Pentref Greenwich, Efrog Newydd yn y 1960au. Mae’r ddelwedd yn un hynod ramantaidd.
Yng Nghymru, rydym yn ystyried teithiau Roy Saer a Dr Meredydd Evans (oedd yn rhan o deulu Folkways y Smithsonian, fel Lomax) gyda pharch tebyg – ac am reswm da. Mae’r caneuon a nodwyd ganddynt hwy ar eu teithiau ledled Cymru yn hollbwysig i’n dealltwriaeth o’r traddodiad Cymraeg heddiw; mae’n amhosib dychmygu pethau heb eu cyfraniad amhrisiadwy. Ond tan yn ddiweddar iawn (ar ôl cael y cyfle i fod yn rhan o gyfres newydd ‘Hen Ferchetan’ ar BBC Radio Cymru) doeddwn i ddim mor ymwybodol o’r merched arbennig a wnaeth fraenaru’r tir ar eu cyfer nhw, ryw hanner canrif yn gynharach. Ac un yn arbennig: y person cyntaf yng Nghymru (dyn neu ddynes) i ddefnyddio peiriant ffonograff Edison er mwyn recordio caneuon gwerin, Ruth Herbert Lewis.
Efallai mai’r peth mwyaf annisgwyl amdani oedd ei bod hi’n Saesnes. Yr ail beth syfrdanol amdani oedd nad oedd hi’n gerddorol! Ganed hi’n Ruth Caine, yn Lerpwl, i deulu’r AS Rhyddfrydol W.S. Caine. Yn ferch alluog, aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn cwrdd â’i gwr, John Herbert Lewis, AS Rhyddfrydol i Sir y Fflint ac aelod blaenllaw o Gymru Fydd. A dyma ddechrau’r broses o ‘Gymreigio’ a fyddai, maes o law, yn arwain Ruth hyd lonydd gogledd ddwyrain Cymru efo’r ffonograff.
Yn wahanol i Lomax, cart, nid car, oedd dull Ruth o deithio. Cart wedi’i dynnu gan ei merlen, Seren. Byddai hi’n aml i’w gweld yn teithio o gwmpas Sir y Fflint a bryniau Sir Ddinbych efo’i phlant – Kitty a Mostyn – yn swatio’n glud ar y sedd wrth ei hymyl. Cafodd y ffonograff gludadwy yn haf 1910 (fel anrheg gan ei ffrind, y gantores glasurol Mary Davies, casglwr pwysig arall fu’n gyfrifol am nodi ‘Dacw ‘Nghariad Lawr yn y Berllan’). Ei thestun cyntaf, heblaw am ambell arbrawf efo lleisiau ei phlant, oedd gwr ei golchwraig, Lucy. Roedd Robert Jones yn gyfarwydd â hen garol traddodiadol (‘O deued pob Cristion’) ac yn ddigon hapus i’w ganu i ddyfnderau’r corn alwminiwm a roddodd Ruth ar fwrdd yn ei fwthyn.
Fel cenhedlaeth sy’n sownd wrth smartphones, mae’n anodd amgyffred mor chwyldroadol oedd technoleg Edison ar y pryd. Ond roedd y ‘Gem’ (Model D) ar flaen y gad! http://edisontinfoil.com/gemd.htm
Yn ail bennod ‘Hen Ferchetan’ mae Sara Huws, o’r East End Women’s Museum, yn disgrifio Ruth fel arloeswraig dechnolegol – yn enwedig, meddai Sara, oherwydd I’r ffonograff gael ei marchnata at ddynion yn unig, gyda’r syniad eu bod nhw’n anodd I’w defnyddio, ac felly bod angen sgil gwrywaidd arbennig! Cofiwch nad oedd hi’n gwbl rugl ei Chymraeg, na chwaith yn gerddorol (yn methu canu, na darllen cerddoriaeth) ac felly roedd technoleg yr ‘Edison Gem’ yn hanfodol i’w gwaith. Ar ôl recordio, byddai ei ffrind Morfudd Llwyn Owen yn nodi’r caneuon ar bapur.
Ymysg y caneuon a gasglwyd gan Ruth mae ‘Cadi Ha’, ‘Angau’, ‘Cariad Cyntaf’ a ‘Deio i Dywyn’. Heb ei gwaith hi, byddai’r rhain wedi gallu diflannu am byth. Mae nifer fawr o’i silindrau ffonograff i’w canfod heddiw yn Amgueddfa Sain Ffagan, ac eraill yng nghasgliad yr EFDSS (English Folk Dance and Song Society) sy’n rhan o archif sain y Llyfrgell Brydeinig.
Mae cwestiwn diddorol i’w holi am statws Ruth fel rhywun ar gyrion diwylliant. Er yn Saesnes (gyda gwreiddiau Manawaidd), ymdrochodd ei hun yn nhraddodiadau Cymru. Roedd hi a John ymhlith aelodau cyntaf Cymdeithas Alawon Gwerin, sydd yn dal I fod yn weithredol heddiw. Oedd y ffaith ei bod hi’n ddieithryn, rhywun oedd yn dod o’r tu allan i’r traddodiad, yn caniatáu iddi gael rhyw bersbectif newydd arno oedd yn ei galluogi I wneud gwaith mor drylwyr? Beth bynnag yw’r ateb, mae ei gwaith hi fel cofnodwr yn ysbrydoli, ac yn gwneud i fi deimlo’n euog am beidio gwneud y mwyaf o’r holl dechnoleg sydd bellach ar flaenau’n bysedd heddiw!
Darllen Pellach
*Mae erthygl yr Athro E. Wyn James – An English Lady among the Welsh Folk: Ruth Herbert Lewis and the Welsh Folk Song Society – yn hanfodol http://www.cardiff.ac.uk/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/ruth-herbert-lewis
Roedd hanes Ruth i’w glywed ar yr ail bennod o ‘Hen Ferchetan’ – 12.30pm ar ddydd Llun, Awst 21, 2017. Gyda chyfraniadau gan Dr Siwan Rosser, Wyn Thomas, Sara Huws, Sioned Webb a Rhiannon Ifans, roedd y benod yn rhoi sylw penodol i’r merched fu’n cofnodi ac yn casglu caneuon gwerin.
…
Mae Georgia Ruth yn gerddor ac yn gyflwynwr ar BBC Radio Cymru.