Ray Howard Jones – A. Ifans

Ganwyd Rosemary Howard Jones ar 30ain o fis Mai 1903 i rieni o dras Cymreig yn Lambourn, Berkshire. Roedd ei thad Hubert yn hyfforddi ceffylau rasio ac yn filfeddyg ceffylau yn y fyddin ac yn chwaraewr polo arbennig o dda. Ni wellodd ei thad yn iawn o’r clwyfau ac effeithiau’r nwy a ddioddefodd yn y Rhyfel Byd cyntaf.

Treuliodd Ray lawer o flynyddoedd ei phlentyndod yng nghartref ei thaid yn Oaklands, Penarth yn Sir Forgannwg, lle bu ei hewyrth a’i modryb yn eu gwarchod hi a’i brawd. Roedd ei hewyrth Putty Purnell, yn athletwr enwog yn ei ddydd a disgwylid i Ray gyrraedd yr un safon a’i brawd yn yr holl weithgareddau megis pysgota, saethu, marchogaeth, hwylio a nofio. Bu doniau celfyddydol ei mham a’r amser a dreuliodd yn ysgol ‘London Garden School’ yn ddylanwad mawr ar gymeriad a phersonoliaeth Ray Howard Jones.

Ym Mhenarth y dysgodd garu’r môr a phan oedd yn ddeuddeg oed, aeth am wyliau i Ddinbych-y-Pysgod, Sir Benfro ac yno gwnaeth ei llun cyntaf o’r môr. Bu tirlun arfordirol Sir Benfro yn ddylanwad mawr arni. Teithiodd yn helaeth,ond dychwelyd i Sir Benfro wnaeth am ysbrydoliaeth i’w darluniau a’i cherddi. Cafodd yrfa amrywiol a nodedig. Yn 1920 yn ddwy ar bymtheg mlwydd oed, yn iau na’r cyffredin, derbyniwyd hi i Ysgol Gelf y Slade yn Llundain lle bu’n astudio am bedair blynedd, gan ennill gradd dosbarth cyntaf ddwbl mewn Dylunio a gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes Celf o Brifysgol Llundain.

Araf fu ei datblygiad fel arlunydd ar ddechrau ei gyrfa ar ôl dangos gymaint o addewid yn y Slade. Bu’n dioddef cyfnodau hir o afiechyd wedi triniaeth law-feddygol gynaecolegol anffodus, ac effeithiodd hynny ar ei heichyd yn barhaol, a lledaenodd twbercwlosis drwy’i chorff a’i gadael mewn poenau difrifol yn aml.

Bu’n byw yn Llundain am gyfnod byr cyn iddi orfod dychwelyd i Benarth i ofalu am ei modryb May Purnell, a barlyswyd yn rhannol gan waedlif ar yr ymennydd. Hyd hynny bu ei modryb yn gofalu am ei mham a ddioddefodd o’r un afiechyd. Er gwaetha’r anhawsterau hyn daliodd i baentio ac fe gynhaliodd ei harddangosfa gyntaf un-person yn 1935 yn Oriel Bloomsbury yn Llundain a oedd yn llwyddiant mawr. Yn y cyfnod yma roedd hi’n gweithio mewn dyfrliw yn bennaf a daeth tirwedd yn brif thema iddi.

Tra’n gweithio’n rhan-amser yn gwneud adluniadau archaeolegol yn yr Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, fe dreuliai ei nosweithiau yn gwneud gwaith gwirfoddol gyda phlant difraintiedig a phobl di-waith yn sefydliad East Moors yn Splott, Caerdydd. Yma defnyddiai ei hyfforddiant a gafodd fel dawnswraig. Yn eu cyflwyniadau theatraidd byddai hi’n gallu troi ei llaw at baentio golygfeydd y set, dawnsio, actio neu goreograffi. Roedd ganddi ddoniau eang ac fe gai foddhad a phleser wrth gyfrannu i weithgareddau creadigol.

Yn ystod yr ail-ryfel byd peintiodd y math o destunau a oedd yn fwy perthnasol i fyd dynion, fel bywyd garw a chaled y dociau, gwersylloedd milwrol ac amddiffynfeydd arfordirol ar ynysoedd caerog, anghyfannedd.

Fe’i penodwyd yn arlunydd swyddogol y rhyfel ac yn ystod y cyfnod hwnnw lluniodd gofnod o’r rhyfel yng Nghaerdydd ac Abertawe a’r amddiffynfeydd ar Ynys Echni ac Ynys Ronech, a hi oedd yr unig ddynes i gofnodi’r paratoadau ar gyfer y glanio ar D-Day a’r llongau’n dychwelyd o Normandi. Mae’r rhan fwya’ o’r lluniau hyn mewn gouache. Mae’r holl luniau hyn yn eiddo i’r Amgueddfa Rhyfel Imperial yn Llundain.

Yn ystod y rhyfel fe’i hanafwyd yn ei llaw (ei llaw a ddefnyddiau i baentio), gwrthododd bin yn yr arddwrn, achos y byddai’n gwneud ei llaw yn ddiffrwyth, ac ni fedrai afael mewn pensil byth wedyn. Cynlluniodd fframwaith a fu’n gymorth iddi barhau i baentio, ond doedd hi ddim yn rhydd o boen, ac roedd ei llaw yn ddu-las yn barhaol.

Wedi’r rhyfel, a’i mam a’i modryb wedi marw, a’i chartref ym Mhenarth wedi ei ddinistrio  gan fomiau, fe symudodd i Lundain. Datblygodd ei diddordeb mewn trefniant a thestunau bywyd llonydd gan ddefnyddio amryw o wrthrychau, golygfeydd drwy ffenestri a phersbectif gwahanol.

Yn Llundain cyfarfu â Raymond Moore, a bu’n gymar iddo am dros ugain mlynedd. Arlunydd oedd Raymond ond trodd at ffotograffiaeth yn ddiweddarach ac enillodd gydnabyddiaeth rhyngwladol am ei waith fel ffotograffydd.

Treuliodd y ddau gyfnodau hir ffrwythlon ar Ynys Sgomer rhwng 1948 a 1958. Rhoddodd y bywyd hunan-gynhaliol ar yr ynys sylfaen sefydlog i’r ddau oedd yn rhannu’r un diddordebau a brwdfrydedd am y bywyd syml. Defnyddiodd Ray ei phrofiadau ar Ynys Sgomer yn ganolbwynt ar gyfer ei lluniau yn y cyfnod hwn. Rhoddodd caledi ac unigedd arfordir creigiog yr ynys, y môr tymhestlog a’r awyr wyllt gysur ac ysbrydoliaeth iddi gofnodi grymoedd natur yn ei thirluniau.

Ar yr ynys byddai’n gwneud brasluniau yn yr awyr agored ac yna yn gweithio ar y lluniau gorffenedig yn y stiwdio yn Llundain yn ystod y gaeaf. Ar y dechrau olew oedd ei chyfrwng ond trodd at gouache. Mae gouache yn hyblyg iawn, yn sychu’n gyflym, gellir ei ddefnyddio’n drwch gyda chyllell balet i gyfleu tirlun creigiog, ac o’i beintio’n denau mae’n creu lliw tryloyw megis dyfrliw. Daeth ei lliwiau’n gryfach ac yn fwy disglair. (Gouache oedd ei phrif gyfrwng ond defnyddiai bastelau yn effeithiol dros ben. )

Yn ystod ei chyfnod ar ynys Sgomer darganfu ei thestun a datblygodd cynnwys ei gwaith rym mynegiant emosiynol.

Yn 1971 priododd Raymond Moore gyda rhywun arall ac o hynny ymlaen bu Ray Howard Jones ar ei phen ei hun yn peintio yn yr ardal a’r ynysoedd ar hyd yr arfordir. Peintiodd y clogwyni a’r cilfachau drosodd a throsodd, deuai rhyw weledigaeth newydd iddi bob dydd, y llanw’n gadael ei sbwriel, y blodau’n tyfu ac yn gwywo, y gwynt a’r rhew yn dryllio’r creigiau, y machlud mawr, golau’r lleuad, yr eira a’r awyr stormus. Mae ei gwaith o’r cyfnod yma yn Sir Benfro yn dangos ei hundod a’r amgylchedd a’i bod wedi ymrwymo a chysegru ei hun yn llwyr i’r tirlun. Dychwelai am 2 – 3 mis bob blwyddyn i’r caban wrth ymyl Hafan St. Martin. Roedd y caban yn noddfa iddi, lle deuai â’r holl bethau a gasglai wrth iddi grwydro pentir Hafan St. Martin – broc môr, cregyn, cerrig, sgerbydau adar, gweiriau sych a blodau. 

Cadwodd ei gardd yn Llundain yn wyllt i greu amgylchfyd naturiol i adar a phryfed. Tyfai danadl poethion o amgylch y caban yn Hafan St. Martin i ddenu gloynnod byw.

Yn y chwedegau creodd gyfres o luniau haniaethol, wedi ei hysbrydoli gan y byd naturiol, pyllau mewn creigiau yn taenu goleuadau a gwymon ynddynt. (Mae un o’r rhain ’ Pyllau dŵr’ yn Oriel Ysgol Casmael.)

Dros y blynyddoedd bu’n arddangos ei gwaith yng Nghymru ac yn Orielau Caerlŷr, Llundain, ac fe werthodd yn dda bob tro. Nid yw’n ormodol i ddweud , fod Ray Howard Jones wedi ymrwymo ac aberthu ei bywyd i’w harlunio. Roedd ei chelf a’i bywyd yn un. Roedd seiliau ac athroniaeth ei bywyd ar ei hymwybyddiaeth ddofn o’r byd naturiol, sef, fframwaith ei bodolaeth beunyddiol a rydd iddi ffynhonnell ei chelf.

Tirluniau o arfordir Sir Benfro yw ei gweithiau enwocaf, gyda’r elfennau o le a natur. Yn y lluniau yma gwelir ei hymroddiad ysbrydol dwfn. Gwelir gogoniant Duw ym mhob craig, yn rhythm y tonnau ac yn ysblander yr haul yn machlud. Mae’n mynegi ei ffydd mewn cymundeb cyfriniol personol â Duw trwy natur. Cafodd ei chredoau Cristionogol eu meithrin â dwyster yn Abaty Nashdon, cymuned Benedictaidd Anglicanaidd y tu allan i Lundain, ble darganfu ei chartref ysbrydol, gan gymryd ei llwon fel oblad.

Tua diwedd y pumdegau enillodd gystadleuaeth i lunio mosaic eang – deugain troedfedd o uchder – i addurno talcen Thomson House, pencadlys newydd y Western Mail yng Nghaerdydd. Gwnaed y gwaith yn yr Eidal a threuliodd dri mis yno yn arolygu’r gwaith.

Comisiynwyd hi ( rhwng 1964 – 65 ) gan yr Athro W Strang Tindal i wneud mosaic, er cof am ei wraig Elfrida Tindal. Roedd yr Athro W Strang Tindal yn ddiwinydd a chadeirydd Cyngor Eglwysig y Byd. Roedd Elfrida a Ray yn  gyfeillion ac yn gyd-fyfyrwyr yn Ysgol Gelf y Slade, Llundain. Mae’r mosaic yn Eglwys y Grange, Caeredin yn nodedig am fod Ray yn cynnwys ynddo ei chred Gristnogol ei hun a harddwch y byd fel testun o Fawl i Ogoniant Duw. 

Seiliwyd y gwaith ar y Te Deum, y thema a roddwyd yn y comisiwn, a’r llinellau :-

Sanctaidd Sanctaidd Sanctaidd: Arglwydd Dduw y lluoedd

Nefoedd a daear sydd yn llawn o’th ogoniant

Yr holl ddaear a’th fawl di y Tad tragwyddol, y nefoedd a’r holl nerthoedd o’u

mewn.

Pan orchfygaist holl nerth angau, agoraist deyrnas nef i bawb sy’n credu.

Mae Symbolaeth Gristionogol yn gweddu i’r testun a’i leoliad yn yr eglwys. Yn y saithdegau bu dylanwad ei chyfaill agos y bardd a’r arlunydd David Jones yn drwm arni, i’w gwthio i arbrofi i wahanol gyfeiriadau. Yn David Jones, gwelsai enaid hoff cytun. Yn bennaf eu profiadau ysbrydol a ddaeth â’r ddau ynghyd. David Jones oedd gwrthrych rhai o’i lluniau mwyaf llwyddiannus. Cyfunodd yr ymchwil i dirlun allanol y wyneb a’i ymsymudiadau a’i frwydrau mewnol. Mae astudiaeth fyfyrgar o’r bardd yn 1973 yn meddu cywirdeb a threiddgarwch mawr.

Lluniau Ray Howard Jones o David Jones yw yr unig luniau sy’n bodoli ohono. Bu’r Athro Mary Williams, Cenedlaetholwraig frwd, y ddynes gyntaf i’w phenodi’n Athro i Gadair Ieithoedd Modern Coleg y Brifysgol Abertawe yn 1921 yn ffyddlon a charedig i Ray Howard Jones a’i hachub o bob argyfwng. Roedd gan y ddwy ddiddordeb mawr yn hanes cynnar Cymru.

Teithiodd i wahanol lefydd yn Ewrop ac yn 1970 i’r America, yno cafodd wahoddiad i ddarlithio am Arlunio a Barddoniaeth Gyfoes. Yn 1959 treuliodd bedwar mis yn Sbaen ac yn 1966 ymwelodd ag Alderney a Chyprus yn 1969. Roedd hi’n treulio pob haf yn ei chaban pren wrth ymyl glanfa Martins Haven, Marloes, Sir Benfro (yma chi’n dal y cwch i Ynys Sgomer). Roedd y caban pren yn fach iawn ac roedd ei dillad, ei bwyd, offer coginio, ei phaent, brwshes paentio a’i lluniau yn un gymysgedd dros y lle. Doedd dim trydan na dŵr yfed yn y caban, roedd hi’n coginio ar stôf wersylla fach.

Roedd hi’n berson allblyg, brwdfrydig, llawen a teimlais rhyw swyn bywiogrwydd afieithus yn eich chwmni. Roedd ei chorff bychan yn cuddio penderfyniad cadarn iawn i lwyddo. Cafodd ei hysgogi’n ddirfawr gan ddwy o ffynonellau dwfn gweledigaeth, profi’r i’r byw rai agweddau ar harddwch natur, a myfyrio’n ddwys ar y bywyd ysbrydol, mewnol.

Bu farw 25ain o fis Mehefin 1996 yn 93 mlwydd oed a chladdwyd ei llwch ym Mhenarth ar y 7fed o Fedi 1998. Gadawodd dros 600 o’i gwaith i Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru. 

Mae tri llun gwreiddiol o waith Ray Howard Jones yn Oriel Ysgol Casmael, Sir Benfro.



Ganed Alun Ifans yn Sarn Bach, Pen Llŷn. Treuliodd ei yrfa yn dysgu yn Sir Benfro. Buodd yn brifathro Ysgol Casmael am 33 o flynyddoedd cyn ymddeol yn 2009.
Cyhoeddoedd nifer o lyfrau, yn eu plith:
Cyfres y Môr-ladron
Pediair Cainc y Mabinogi i Ddysgwyr
Macsen Wledig
Swyn Sir Benfro

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois