Phoebe Davies – E. Lois

Ganwyd Phoebe Davies ar y 7fed o Chwefror 1864 yn Aberteifi. 

Roedd ei thad wedi treulio cyfnod yng Nghaliffornia yn ystod y Rhuthr am Aur yn 1849, ac dychwelodd â’i deulu yn yr 1870au cynnar er mwyn gweithio gyda’r Pacific Mail Steamship Company.

Pan roedd Phoebe yn yr ysgol, ennillodd ragbrawf gyda David Belasco, y cynhyrchydd theatr, ac o ganlyniad cafodd gynnig rhan yng nghynhyrchiad nesaf y Baldwin Theatre Stock Company yn San Ffransisco. Yn anffodus, roedd hi’n sâl yn ystod y cynhyrchiad, felly chafodd hi ddim y cyfle i berfformio yn y cynhyrchiad hwnnw.

Perfformiodd yn gyntaf mewn sioe o’r enw Adolph Chalet, ac yna, yn hwyrach yn y tymor, mewn cynhyrchiad theatr o ‘Michael Strogoff’, nofel gan Jules Verne.

Tua 1882, ymunodd Davies â’r Baldwin Theatre Stock Company, a pherfformiodd hi mewn cynhyrchiadau o King Lear a Hamlet, gyda Ernesto Rossi, yr actor enwog o’r Eidal. 

Ymddangosodd mewn sawl sioe yn y flwyddyn honno, gan gynnwys Romeo and Juliet, Richard III a King John. 

Ar y 7fed o Fehefin 1882, priododd Phoebe â Joseph R. Grimser, oedd yn actor hefyd. Dechreuodd y ddau actio gyda’u gilydd, trwy weithio ar sioeau oedd yn teithio o amgylch Califfornia.  

Yn hwyrach y flwyddyn honno, ffurfiodd y cwpl y Sefydliad Grimser-Davies, a dechreuodd y sefydliad deithio â sioeau o amgylch taleithau gorllewinol Gogledd America.

Yn ystod y cyfnod hwn, perfformiodd Phoebe mewn sawl sioe a ysgrifennwyd gan ei gŵr.

Ar y 12fed o Fedi 1892, bedyddiwyd eu mab, Conrad Valentine Grimser, yn San Ffransisco.

Yn 1893, dechreuodd Phoebe a’i gŵr daith sioeau o daleithau Dwyreiniol gogledd America. 

Tua’r flwyddyn 1895, roedd ei gŵr yn un o grŵp o bobl a brynodd yr hawliau i’r ddrama Way Down East. Phoebe oedd yn actio prif gymeriad y sioe, Annie Moore. Perfformiwyd y ddrama hon oddeutu 4,000 o weithiau, ac amcamfyfrifir fod y sioe wedi cynhyrchu tua miliwn o ddoleri, gyda gŵr Phoebe yn ennill tua £350,000. 

Daliodd Phoebe ati i deithio gyda Way Down East tan 1909, a’i bwriad oedd i berfformio mewn sioe arall cyn diwedd y flwyddyn. Datblygodd Phoebe salwch ddifrifol, ac wedi cyfnod hir, bu farw yn Larchmont, Efrog Newydd, ar y 4ydd o Ragfyr 1912 yn 48 mlwydd oed. 

Darllen Pellach:

https://en.wikipedia.org/wiki/Phoebe_Davies

Famour Actresses of the day in America – Lewis Clinton Strang

The Professional Theatre in San Francisco, 1880-1889 – John Scott McElhaney

Frontier Theatre: A History of Nineteenth-Century Theatrical Entertainment in the Canadian Far West and Alaska – Chad Evans

The Best Plays of 1894-1899 – John Arthur Chapman & Garrison P. Sherwood

The Oxford Companion to American Theatre – Gerald Martin Borman & Thomas S. Hischak

Great Actors and Actresses of the American Stage in Historic Photographs – Stanley Appelbaum

Who’s who in Music and Drama: An Encyclopedia of Biography of Notable Men and Women in Music and the Drama – Harry Prescott Hanaford & Dixie Hines



E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.