Menywod Greenham Common
Yn mis Medi 1981, cerddodd 36 o fenywod o Gymru i Wersyllfa Filwrol Greenham Common, yn Wiltshire yn Ne Lloegr, er mwyn protestio penderfyniad y llywodraeth i gadw taflegrau niwclear Cruise yno.
Cadwynodd y menywod, oedd yn galw eu hunain yn ‘Women for Life on Earth’, eu hunain i ffens Greenham Common, a sefydlu gwersyll heddwch yno. Yn mis Mai 1982, protestiodd 250 o fenywod trwy ffurfio blocâd, ac arestiwyd 34 ohonynt.
Ar y 1af o Ebrill 1983, ffurfiodd 70,000 o brotestwyr gadwyn ddynol 14 milltir o hyd – o Greenham i Aldermaston a ffatri ordinans Bughfield. Cafodd y brotest hon lawer o sylw yn y cyfryngau, ac o ganlyniad sefydlwyd dros 12 o wersylloedd heddwch eraill yng ngweddill Prydain ac Ewrop.
Yn mis Rhagfyr 1983, amgylchynnodd 50,000 o brotestwyr Greenham Common, a thorrwyd darnau o’r ffens yn y brotest. Cafodd cannoedd o brotestwyr eu harestio.
Roedd y gwersyll yn cynnwys naw gwersyll llai, gan gynnwys y Gât Feleb, y Gât Las, a’r Gât Fioled.
Yn 1991 gadawodd yr arfau niwclear olaf Greenham Common, ond ni adawodd y gwersyllwyr olaf tan 2000, pan osodwyd cofeb i’r gwersyll heddwch yno.
DARLLEN PELLACH:
Erthyglau:
https://www.theguardian.com/uk-news/2013/sep/02/greenham-common-women-taught-generation-protest
http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-berkshire-41199648
https://en.wikipedia.org/wiki/Greenham_Common_Women%27s_Peace_Camp
E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois