Megan Watts Hughes – E. Lois

Ganwyd Megan Watts ar y 12fed o Chwefror 1842 yn Nowlais, Merthyr Tudful. Roedd ei rhieni wedi ail-leoli yno o Sir Benfro. Roedd ei thad yn oruchwyliwr yn y fynwent leol. 

Yn dilyn llwyddiant yng nghylchoedd cyngherddau De Cymru, cafodd wersi canu gan ddau o brif cerddorion Caerdydd ar y pryd, ac yn 1864 cychwynodd astudio yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Bu’n rhaid iddi orffen ei hastudiaethau’n gynnar oherwydd iechyd gwael.

Yn 1871 priododd Hugh Lloyd Hughes, ac o hynny allan cafodd ei hadnabod fel Mrs Watts Hughes, a daliodd ati i ganu o dan yr enw hwnnw. Roedd hi’n fenyw grefyddol iawn, ac yn Barnsbusy Square yn Islington, Llundain, sefydlodd ‘Home for Little Boys’.

Mewn erthygl papur newydd yn 1898, cyfeiriodd y cyfansoddwr Joseph Parry ati fel ‘one of our great vocalists’. 

Yn 1885, wrth iddi ymarfer canu, darganfu, yn ddamweiniol, yr hyn a alwodd hi’n “ffigyrau llais” neu “flodau llais” – patrymau a oedd yn cael eu ffurfio drwy ffenomen naturiol cyseiniant tonnau unfan. 

Cyhoeddwyd ei darganfyddiadau gwyddonol yn Century Magazine yn 1891, o dan yr enw Margaret Watts Hughes. Ysgrifennodd yno ei bod eisioes wedi cyflwyno ei darganfyddiadau i’r Gymdeithas Gerddorol, Y Sefydliad Frenhinol a’r Gymdeithas Frenhinol yn Llundain, oedd yn cael ei ystyried yn beth anghyffredin iawn i fenyw ei wneud yn ystod y cyfnod hwnnw. 

Yn sgil ei gwaith, cyhoeddodd lyfr 47 tudalen o hyd o’r enw ‘The Eidophone Voice Figures: Geometrical and Natural Forms Produced by Vibrations of the Human Voice’, a gafodd ei gyhoeddi yn 1904.



Bu ymchwil Megan Watts Hughes yn bwysig iawn i ddatblygiad y maes.



Bu farw ar y 29ain o Hydref 1907.


Darllen Pellach:

http://yba.llgc.org.uk/en/s-HUGH-WAT-1842.html

Sacred Space, Sacred Sound: The Acoustic Mysteries of Holy Places – Susan Elizabeth 

Hale Yoga of the Holy Bible – Martin Myrick

Harmonograph: A Visual Guide to the Mathematics of Music – Anthony Ashton p.48-9 

The Century Illustrated Monthly Magazine, Volume 20; Volume 42

E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen. 

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois